Teyrnged i Tony Curtis, seren go iawn

Teyrnged i Tony Curtis:

Un o’r ychydig ser go iawn a oedd yn weddill o oes aur Hollywood.

Ond mae’na for a mynydd rhwng dau o’i brif gymeriadau – Sidney Falco yn y Sweet Smell of Success a Jerry yn Some Like It Hot. Y naill yn greadur y cysgodion cyfryngol a’r llall yn dianc rhag y “mob” mewn sgert a sacsoffon!

O’i ddecreuad yn y theatr Yiddish yn Chicago aeth e trwy’r dosbarthiadau actio ewropiaidd ei naws ar ddiwedd y 40au cyn cyrraedd Hollywood.  Roedd’na un peth mawr o’i blaid – roedd e’n hynod golygus! O ganlyniad roedd ei acen Bronx i’w glywed ble bynnag yr aiff e – fel swashbuckler, milwr Rhufeinig neu’r gwr ar y trapeze…

Mwy gyda fideos ar blog O Bell.

Eisiau sgwennu nofel? Tips gan Ifan Morgan Jones

Mae Ifan Morgan Jones (Igam Ogam, Yr Argraff Gyntaf) yn rhannu cynghor am sgwennu nofel:

Safbwynt – Mae’n bwysig dewis y safbwynt y mae’r olygfa yn cael ei weld ohono ac aros gydag ef. Os ydych chi’n neidio yn ormodol o un un cymeriad i’r llall mae yna beryg y bydd y darllenydd yn drysu. Os oes rhaid newid safbwynt ynghanol golygfa gwnewch hynny’n hollol glir.

Yn Igam Ogam roedd bron pob golygfa o safbwynt Tomos Ap, ond yn yr Argraff Gyntaf ces i dipyn mwy o drafferth, yn enwedig mewn un olygfa yn y dafarn pan oedd tua phum cymeriad o bwys yn trafod gyda’i gilydd. Yr ateb yn y pen draw oedd gadael bwlch ar y dudalen rhwng meddyliau un cymeriad a dechrau meddyliau cymeriad arall.

Smwddio – Dyna ydw i’n galw’r broses o ail ddarllen dros beth ydw i wedi ei ysgrifennu dro ar ôl tro a’i newid wrth i fi fynd ymlaen. Mae drafft cyntaf bob tro’n wael, heb os. Dyna lle mae’r rhan fwyaf o bobol yn digalonni a meddwl na fyddan nhw byth yn ysgrifennu unrhyw beth o werth…

Llawer mwy ar blog Ifan Morgan Jones mewn cofnod penigamp. Paid anghofio – gadawa sylw os ti’n hoffi’r cofnod ac efallai bydd e’n rhannu mwy.

Crisialau Plastig – Pryfaid

Beth ddigwoddodd wedyn?

Y peth ola wnaeth y band recordio oedd y gân Pryfaid i raglen Fideo9 yn 1988/89.

Fe aeth Esyllt ymlaen i ffurfio Pop Negatif Wastad gyda Gareth Potter. Fe wnaeth Gwern, Douglas a Gwion Llwyd ffurfio band tecno o’r enw Mescalero. Ar ôl i Mescalero ddod i ben fe aeth Gwern a Gwion ymlaen i ffurfio Tokyu gyda Meilyr Tomos.

Mwy am Crisialau Plastig ar Curiad

DJo a samplo gyda Coldcut

Free gan Moody Boys, un o’r uchafbwyntiau cofiadwy ar y mics clasur Journeys By DJ gan Coldcut – o 1996.

Mae Ninja Tune newydd ryddhau’r mics arlein fel rhan o’r dathliadau 20 mlynedd Ninja Tune.

Dylet ti wrando arno fe os oes gyda thi diddordeb yn ailgymysgiadau a samplau. Rhestr trac:

Philorene ‘Bola’
The Truper ‘Street Beats Vol 2’
Junior Reid ‘One Blood’
Newcleus ‘Jam On Revenge’
2 Player ‘Extreme Possibilities (Wagon Christ Mix)’
Funki Porcini ‘King Ashabanapal (Dillinger Mix)’
Jedi Knights ‘Noddy Holder’
Plasticman ‘Fuk’
Coldcut ‘Mo Beats’
Bedouin Ascent ‘Manganese In Deep Violet’
Bob Holroyd ‘African Drug’
Leftfield ‘Original Jam’

Rhan 2 — Coldcut – JDJ special

Ini Kamoze ‘Here Comes The Hot Stepper’
Coldcut ‘Beats And Pieces’
Coldcut ‘Greedy Beat’
Coldcut ‘Music Maker’
Coldcut ‘Find A Way (acapella)’
Mantronix ‘King Of The Beats’
Gescom ‘Mag’
Masters At Work ‘Blood Vibes’
Raphael Corderdos ‘Trumpet Riff’
Luke Slater’s 7th Plain ‘Grace’
Joanna Law ‘First Time Ever I Saw Your Face’
Harold Budd ‘Balthus Bemused By Colour’
Hookian Minds ‘Freshmess (Bandulu Mix)’
Jello Biafra ‘Message From Our Sponsor’
Pressure Drop ‘Unify’
Love Lee ‘Again Son’
Red Snapper ‘Hot Flush’
Ron Granier ‘Theme From Doctor Who’
Moody Boys ‘Free’
Coldcut ‘People Hold On’

Ti’n gallu trio Filestube am yr MP3.

Adolygiad gig ar Uno Geiriau: Vaselines, Haight-Ashbury, John Mouse

Mae Rhodri D wedi cyfrannu dau adolygiad gig i’r Twll yn diweddar. Efallai rwyt ti’n nabod Rhodri (aka Tony/Bouff) a’i label/siop Kimberley Records neu wrth gwrs ei gwaith allweddellau gyda Texas Radio Band.

Mae fe newydd dechrau blog o’r enw Uno Geiriau am adolygiadau cerddoriaeth. Canlyniad llwyddiannus.

Dyma’r adolygiad newydd o’r gig Vaselines, Haight-Ashbury a John Mouse yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd.