Ffeiliau Ffansin: Llmych gyda Gareth Potter yn 1988

Ffeiliau Ffansin yw cyfres achlysurol ar Y Twll – delweddau o hen ffansins gyda pherthnasedd i heddiw.

Enw y ffansin heddiw yw Llmych. Mae Huw Prestatyn yn dweud “penderfynwyd ar yr enw reit ar ddiwedd cyfarfod hir hir Rhanbarth CyIG. Pawb yn mynd yn ffed up efo’r enw yn syth a galwyd y rhifynau canlynol yn “Chmyll”, “Mychll” etx.. nes dropio’r enw yn gyfan gwbl. “Cynhyrfu Addysgu Trefnu” oedd o tiwn rap old skool uffernol… efo rapper yn dweud “Educate Agitate Organise” ynddi, sef hen slogan undeb llafur Americanaidd.”

“Beth sydd wedi bod yn digwydd ers y rhifyn diwethaf?” meddai’r golygyddol yn rhifyn Haf 1988. Mae rhai o’r atebion yn ffurfio ein cyd-destun:

  • Peel Sessions gan y Llwybr Llaethog, Plant Bach Ofnus, Y Fflaps a Datblygu.
  • Sefydlu label Ankst yn Aberystwyth.
  • Bernard Manning yn perfformio’n Y Rhyl.
  • Fideo 9 yn dechrau.
  • Trac oddi ar y E.P. “Galwad ar holl filwyr byffalo Cymru” yn cael ei chwarae ar y South Bank Show fel rhan o raglen Ken Russell ar hanes cerddoriaeth.

Yn yr un rhifyn o Llmych oedd erthyglau am Malcolm X, Y Fflaps, Label Ofn a’r cyfweliad isod gyda Gareth Potter – gan Bronwen Miles.

Crisialau Plastig – Pryfaid

Beth ddigwoddodd wedyn?

Y peth ola wnaeth y band recordio oedd y gân Pryfaid i raglen Fideo9 yn 1988/89.

Fe aeth Esyllt ymlaen i ffurfio Pop Negatif Wastad gyda Gareth Potter. Fe wnaeth Gwern, Douglas a Gwion Llwyd ffurfio band tecno o’r enw Mescalero. Ar ôl i Mescalero ddod i ben fe aeth Gwern a Gwion ymlaen i ffurfio Tokyu gyda Meilyr Tomos.

Mwy am Crisialau Plastig ar Curiad