Roedd Matthew Herbert yn chwarae un o fy hoff setiau gan unrhyw DJ erioed yng Nghrug Hywel dros y penwythnos. Does dim recordiad gyda fi yn anffodus. Ond mae gyda fi cof trainspotter a dw i’n cofio bron bob cân! Llawer o anthemau techno, doedd e ddim yn debyg iawn i setiau Herbert house organig arferol. Mwynha’r tiwns.
Joanna Newsom yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd 2010
Roedd y set Joanna Newsom yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd neithiwr yn wych! (Heblaw am y glaw.) Mwynha’r darnau yma o ’81 a’r cân newydd Go Long. Bydd rhaid i mi ail-ymweld ei halbymau hi wythnos yma.
Mwy o’r Ŵyl: mae Lowri Jones o Golwg360 wedi sgwennu cofnodion am ddiwrnod 1, diwrnod 2 a diwrnod 3. Diolch i Menna am y fideos o’r digwyddiad Tu Chwith ddoe.
Sut i ENNILL cystadlaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Cofnod diddorol gan Rhys Wynne gyda’r gyfrinach (ymchwilia ychydig a thrio rhywbeth):
Er mawr syndod gofynnwyd i mi feirniadu un o gystadleuaeth ar gyfer Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol 2010.
Mae beirniadu (a chystadlu ran hynny) yn beth gwbl newydd i mi, felly awgrymwyd fy mod yn edrych ar gopi o Gyfansoddiadau a Beirniadaeth blynyddoedd cynt i weld pa arddull i’w ddefnyddio a.y.y.b.
Doeddwn i ddim yn gwybod am y llyfryn hwn, ac roedd yn reit diddorol, achos ar gyfer rhai cystadlaethau, roedd y darn buddugol hefyd yn cael ei gyhoeddi. Sylwais nad oedd fawr neb yn cystadlu mewn rhai cystadlaethau. Baswn i falle wedi ceisio un neu ddau fy hun, ond wyddwn i ddim am eu bodolaeth.
Dyma un o wendidau’r Eisteddfod, sef nad yw lot o bethau fel y testunau ddim yn cael hyrwyddo’n dda iawn, felly mond eisteddfodwyr hard-core sy’n gwybod pryd a ble i edrych am restr testunau.
Darllena’r cofnod gan Rhys Wynne am mwy o wybodaeth.
Gwela i ti ar y llwyfan yn 2011.
Penblwydd Hapus Geraint Jarman! 60 oed heddiw
Penblwydd hapus Geraint Jarman, 60 oed heddiw.
Mwy: Colled, cerdd 1969 gan Geraint neu Gwesty Cymru yn fyw gan Geraint a’r Cynganeddwyr (ac wrth gwrs Tich Gwilym, cynganeddwr).
Fideos Casey ac Ewan: John Grant, Cate Le Bon, Richard James a mwy
Dyma’r fideo newydd doniol John Grant a Midlake.
Rwyt ti’n gallu gweld Marchnad Heol Bessemer, Clwb Ifor Bach, Trelluest a safleoedd Caerdydd eraill.
Mae’r cynhyrchwyr y fideo, Casey Raymond ac Ewan Jones Morris, wedi creu llawer o fideos gwych dros y misoedd diwetha. Er enghraifft…
Gyda llaw, paid anghofio’r fideo Sleeveface (gan Ewan). Neu Future of the Left yn The Vulcan, Caerdydd.