Breathless (À Bout de Souffle) ffilm gan Jean-Luc Godard o’r Nouvelle Vague

Cyn trafod Breathless dylwn nodi mai’r ffilm dan sylw yw À Bout de Souffle (Jean-Luc Godard, 1960) nid Breathless (Jim McBride, 1983) gyda Richard Gere. Er mor fywiog yw perfformiad Gere yn y fersiwn Americanaidd, y ffilm gyntaf yw’r un sy’n cael ei hystyried yn glasur. Fel Breathless y cyfeirir at ffilm Godard yn bur aml y tu allan i Ffrainc a dyna a wnawn i yma.

Breathless oedd ffilm nodwedd gyntaf Godard fel cyfarwyddwr. Roedd eisoes wedi gwneud pum ffilm fer, gan ddechrau ym 1954 gydag Opération Béton, ffilm ddogfen am adeiladu argae yn y Swistir. Trwy weithio fel labrwr yno roedd wedi casglu’r arian i wneud y ffilm.

Jean-Luc GodardRoedd Godard, a’i gyfoeswyr François Truffaut, Jacques Rivette, Eric Rohmer a Claude Chabrol eisoes wedi dod dan ddylanwad y beirniad arloesol  André Bazin, sefydlydd y cylchgronau dylanwadol La Revue du Cinéma a Les Cahiers du Cinéma. Cyfrannodd Godard erthyglau i’r ddau gylchgrawn. Ym 1957 cydysgrifennodd Rohmer a Chabrol y gyfrol gyflawn gyntaf am ffilmiau Alfred Hitchcock. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach cyhoeddodd Truffaut ffrwyth ei gyfweliad hir gyda Hitchcock.

Doedd hi ddim yn hir cyn i’r beirniaid ifanc hyn droi’n gyfarwyddwyr.  Agorwyd y drysau gan Chabrol gyda Le Beau Serge (1958). Yna daeth  Les 400 Coups ( Truffaut, 1959), Le Signe du Lion (Rohmer, 1959), ffilm Godard ym 1960 a Paris nous appartient (Rivette, 1960). Er mor wahanol oedd  y cyfarwyddwyr ifanc hyn i’w gilydd  roedd un peth yn eu huno; casineb tuag at y  rhan fwyaf o’r ffilmiau Ffrangeg cyfredol oedd yn aml yn addasiadau o weithiau llenyddol, yn gaeth i’r stiwdio ac yn hynod afreal ac artiffisial. Roedd yn well ganddyn nhw ffilmiau poblogaidd yr Unol Daleithiau. Dyna egluro eu diddordeb yn Hitchcock a chyfarwyddwyr y ffilmiau  ‘noir’ oedd yn portreadu gangsters o bob math. Dan ddylanwad y criw ifanc yma roedd fel petai ton newydd yn ysgubo trwy’r diwydiant ffilmiau Ffrengig a bathwyd y term Nouvelle Vague gan newyddiadurwyr Ffrainc i labelu’r datblygiad cyffrous. Gwnaed nifer o’r ffilmiau newydd yma allan ar y strydoedd a heb gymaint â hynny o adnoddau ariannol.

Dangosodd Godard yn glir beth oedd wedi dylanwadu ar y ffilm gyntaf hon; mae’n cynnwys cyflwyniad i Monogram, cwmni ffilmiau Americanaidd oedd yn arbenigo mewn cynhyrchu ffilmiau poblogaidd, gan gynnwys nifer am gangsters, am ychydig iawn o arian. Lleidr ceir yw’r prif gymeriad yn Breathless. Ar ôl iddo ladd plismon mae’n ceisio dianc rhag yr awdurdodau yng nghwmni ei gariad sy’n Americanes. I bortreadu’r prif gymeriadau  hyn dewisodd Godard  Jean-Paul Belmondo a Jean Seberg.

Roedd Belmondo wedi chwarae rhannau cymharol fach mewn chwe ffilm, gan gynnwys un yn yr Almaen, cyn dod yn seren ryngwladol yn sgil Breathless. Doedd e ddim yn gonfensiynol olygus  ond roedd yn wrth-arwr delfrydol ac roedd y cyhoedd wrth eu bodd gydag e.  Dim ond 17 oed oedd Seberg pan wnaeth ei ffilm gyntaf hi fel y prif gymeriad yn Saint Joan (Otto Preminger, 1957). Breathless oedd ei thrydedd ffilm. Roedd yn weithgar iawn yn y byd gwleidyddol ac yn gefnogwr brwd o fudiad y Black Panthers. Bu’r awdurdodau yn ei gwylio’n ofalus ac aeth paranoia yn drech na hi. Bu farw’n 41 oed ar ôl cymryd gor-ddos o gyffuriau.

Seiliodd Godard ei sgript ar fraslun o stori gan Truffaut a chyfrannodd Chabrol at olwg y ffilm. Yn ystod y ffilmio ceisiodd Godard gael Belmondo a Seberg i gyfansoddi eu deialog yn fyrfyfyr a llwyddodd y ddau i greu dau gymeriad digon anghynnes. Roedd hynny’n iawn gan nad oedd e am i’r gynulleidfa uniaethu â nhw.

Parhaodd arloeswyr y Nouvelle Vague i wneud ffilmiau ond Godard oedd yr unig un i ymatal rhag ymuno â changen fasnachol y diwydiant ar ôl ei boblogrwydd cynnar. Derbyniodd César arbennig ym 1986 am ei gyfraniad i fyd y ffilm.

Mae’r sinema Chapter, Caerdydd yn dangos À Bout de Souffle ym mis Mehefin 2010.

Mae’r Twll yn dathlu degawd o Mwng gan Super Furry Animals

Mwynha’r fideo Drygioni hwn gan cefnogwr.

Mae’r Twll yn dathlu 10 mlynedd ers yr albwm Mwng gan Super Furry Animals yn 2000. Mae’r albym yn cynnwys y caneuon Drygioni, Ysbeidiau Heulog (yr unig sengl), Y Teimlad (fersiwn o’r can gan Datblygu) a Gwreiddiau Dwfn / Mawrth Oer ar y Blaned Neifion (fy hoff personol). Naeth y band rhyddhau yr albwm ar eu label eu hun Placid Casual.

Mae’n anodd iawn i brynu’r albwm ar CD neu prynu lawrlwyth yn 2010. (Ti’n gallu trio Sadrwn efallai.) Dw i wedi gofyn aelod o’r band os maen nhw yn gallu  ail-rhyddhad. Gobeithio bydd y sefyllfa yn newid cyn hir!

ATEB GAN Y “FFYNHONNELL” SUPER FURRY ANIMALS: “Diolch i ti Carl, Am trio cael rhywbeth allan cyn diwedd y flwyddyn .”
“tan tro nesa!”

Radio Amgen, cyfweliad gyda Steffan Cravos

Mae’n annodd coelio fod yr orsaf weradio Radio Amgen wedi bod yn mynd ers bron i ddegawd erbyn hyn. Mae’r orsaf wedi darlledu dros 170 o sioeau ers 2001 – micsys o gerddoriaeth tanddaearol newydd gyda’r pwyslais ar hip hop, electroneg, drwm a bas, bwtlegs, tecno, swn a dyb. Mae pob un o’r sioeau hyn dal ar gael i wrando a lawrlwytho o radioamgen.com – ewch i’r archif am y rhestr llawn.

Dros y blynyddoedd mae Radio Amgen wedi datblygu a tyfu yn araf bach a heb ffwdan i fod yn drysor cenedlaethol (ymddiheuriadau i Stephen Fry). Mae bodolaeth parhaol yr orsaf yn arbennig o bwysig nid yn unig yng nghyd destun tirlun cerddorol ‘mainstream’ Cymru, ond hefyd y  ‘Sîn Roc Gymraeg’, byd mewnblyg lle mae bandiau ffync gwael yn gael eu cysidro yn ‘alternative’ a ‘edgy’. Heb swnio fel ormod o hipi, mae gwir angen presenoldeb fel Radio Amgen i herio’r sefydliadau hyn – mae bodolaeth yr orsaf yn cyfrannu’n enfawr tuag at amrywiaeth a iechyd ein diwylliant cerddorol.

Y dyn tu ol i Radio Amgen yw Steffan Cravos – yr un person a fu’n gyfrifol am chwyldroi/dyfeisio cerddoriaeth hip hop Cymraeg ar droad y ganrif gyda’r Tystion.  Sioe gynta’r orsaf oedd mics gan DJ Lambchop (aka Cravos), a’r trac gynta un ar y sioe honno oedd y clasur tanddaearol Cymreig “Dwi’n Licio Dafydd Iwan” gan Gwallt Mawr Penri (aka Dyl Mei).

Sut ddechreuodd yr orsaf?

Steffan Cravos: O ni’n rhedeg label o’r enw Fitamin Un ar y pryd ond doedd dim digon a arian da fi i rhyddau’r holl traciau oedd yn cael eu hanfon atai. Oedd Johnny R wedi cychwyn yr orsaf radio Cymraeg gyntaf ar y we cwpwl o flynyddoedd yn gynt (Radio D – gweler DVD Ankst ‘Crymi No.1′ am raglen ddogfen fer) a nath hwnna ysbrydoli fi i gychwyn Radio Amgen. Oedd e’n ffordd gwych o rhoi platfform i deunydd newydd yn gyflym ac ar lefel rhyngwladol. Outlet oedd Radio Amgen ar gyfer cerddoriaeth tanddaearol doedd ddim yn cael ei chwarae ar Radio Cymru.

Sut ddyliwn ni disgirifio RA? Radio we? Weradio? Gweradio?

Radio rhydd annibynnol ag onest.

Dros y blynyddoedd mae’r orsaf wedi pledu allan nifer fawr o sioeau o fewn amser byr, a wedyn wedi cymryd saib am wythnosau neu fisoedd, neu blynyddoedd maith.

Da ni yn ein pedwerydd cyfnod ond dros y blynyddoedd mae Radio Amgen wedi cymryd seibiant am wahanol rhesymau – diffyg amser, diffyg adnoddau, gan fwyaf. Ar y foment da ni’n rhoi sioe allan bob yn ail ddydd(ish) ac yn derbyn dros 6,000 ergyd y mis.

Pam nad yw sefydliadau fel y Cyngor Celfyddydau ayb yn cefnogi’r orsaf?

Dwi ddim eisiau pres gan y CCC. Well bod yn annibynnol.

Mae na elfen politicaidd gref i’r orsaf.

Dwi wedi bod yn ymwneud a gwleidyddiaeth radical ers i fi fod yn fy arddegau, felly mae’n siwr bod hwnna yn dod drosodd weithiau yn y sioeau, yn enwedig y rhai dwi’n greu. Dwi’n teimlo hefyd fod y cyfryngau Cymraeg yn llawer rhy geidwadol o rhan allbwn, felly ma angen platfform ar gyfer cerddoriaeth heriol a syniadau radical.

Fy hoff enw ar gyfer DJ gwadd yw ‘Athro Diflas Ffwc’ – neu efallai ‘DJ Dai Trotsky’.

Athro Diflas oedd enw gwreiddiol Y Lladron. DJ Dai Trotski, ie fi oedd hwnna!

Mae Huw Stephens, ac eraill ar adegau, yn chwarae cerddoriaeth ‘tanddaearol’ ar Radio Cymru erbyn hyn. Ydi pethau wedi gwella?

Mae angen mwy. Pam ddim cael DJs i mewn a chwarae drwy’r nos (DJs go iawn hyny yw, nid radio DJs) – jyst miwsig, dim malu cachu!

Weithiau mae’n teimlo mai Radio Amgen yw’r unig allbwn ar gyfer cerddoriaeth ‘gwahanol’ o Gymru. Be fysa’n digwydd i tirlun cerddorol Cymru petai’r orsaf yn dod i ben?

Se ni’n gobeithio fase rhywun arall yn cychwyn rhywbeth tebyg… ond mae Radio Amgen yn mynd trwy gyfnodau o ddim gweithgaredd. da ni yn ein 4ydd neu 5ed cyfnod ar y foment. Da ni’n rhoi sioeau allan bob yn ail ddydd, ond wrth rheswm, nid cerddoriaeth o Gymru neu Gymraeg ydi ein darpariaeth, achos does dim digon ohono fe i gael. Fase ni’n dwli rhoi sioe dyb step Cymraeg allan – ond lle ma’r tracs? Does dim! Ma dyb step gyda ni ers 2004 fel genre newydd, ond neb yn ei gynhyrchu yn y ‘sîn gymraeg’

Oes rhaid i pobol o tu hwnt i Gymru wrando ar Radio Amgen er mwyn i ti cysidro’r gorsaf yn ‘llwyddiant’? Neu ydi hynny’n bonus?

Dim rili, ond ar ddiwedd y dydd, y we fyd ehang yw’r cyfrwng! Ma na agwedd shit yn bodoli os ti’n cael dy ‘dderbyn’ tu hwnt i Gymru (hynny yw yn Lloegr) bod ti wedi ‘llwyddo’. A dim ond wedyn bydd ti’n cael dy dderbyn yng Nghymru. Adolygiad yn yr NME – o woopie ffycin dooo – ti di ‘llwyddo’.

Ma miwsig yn gyfrwng rhywngwladol. Dwi’n gwrando ar gerddoriaeth mewn ieithoedd erill nad ydw i’n deall (ond falle fi sy’n od) a dwi’n siwr bod na mwy o bobl fel fi o gwmpas y glôb.

Sa well da fi ddarlledu Radio Amgen ar FM yn ogystal a’r we – hwnna fydd y sefyllfa ddelfrydol, a basa grandawyr rhyngwladol yn fonws wedyn.

Cyfweliad gyda Daf Wil, cyd-drefnwr noson ffilm From The Shelf yng Nghaerdydd

Ces i amser da yn y noson ffilm From The Shelf neithiwr.

Yn y fideo, mae Daf Wil yn trafod y syniad gwreiddiol a chynllun am yr ail flwyddyn y digwyddiad.

Mae From The Shelf yw’r unig le i weld ffilm dda ac yfed cwrw rhad ar yr un pryd. Mae e’n digwydd pob pythefnos ar llawr cyntaf, tafarn The Gower, Y Rhath, Caerdydd.

Mynediad am ddim.

Y ffilm nesaf yw Dancer In The Dark gan Lars von Trier gyda Björk ar 2ail mis Mai 2010. Dere am 7:30YP, mae’r ffilm yn dechrau 8YP.

Mae’r grŵp Facebook ar gyfer From The Shelf yn rhestru’r ffilmiau gwych mae Daf a Dyl wedi dangos hyd yn hyn.