Adolygiad o Little Brother gan Cory Doctorow

Cory Doctorow - Little Brother“But you must remember, my fellow-citizens, that eternal vigilance by the people is the price of liberty, and that you must pay the price if you wish to secure the blessing.”

Dyma oedd geiriau Andrew Jackson, seithfed Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn ei anerchiad ffarwelio ym 1837.

Beth sy’n digwydd pan fo gwyliadwraeth yr awdurdodau yn tramgwyddo ar ryddid y bobl? A oes unrhyw derfyn i’r camau y dylai llywodraethau eu cymryd er mwyn diogelu eu pobl eu hunain? Dyma’r cwestiynau sy’n gefndir i’r nofel afaelgar hon gan Cory Doctorow sy’n dechrau gydag ymosodiad terfysgol ar San Fransisco rhywbryd yn y deng mlynedd nesaf ac ymateb Llywodraeth yr Unol Dalaethiau iddo.

Fe ddes i ar draws Cory Doctorow am y tro cyntaf ar bodlediad This Week in Tech yn rhoi sylwadau ar ddatblygiadau diweddaraf yn y byd technolegol. Yn ogystal ag ysgrifennu nofel, mae Doctorow yn gyd-olygydd y wefan dechnolegol Boing Boing ac yn cadw gwefan debyg ei hun o’r enw Craphound.

Mae diddordeb Doctorow mewn technoleg gyfrifiadurol i’w weld yn gryf ar y nofel Little Brother. Cyflwynir y stori o safbwynt y prif gymeriad Marcus Yallow, bachgen 17 oed sy’n ymddiddori mewn gemau cyfrifiadurol ac yn hacio yn ei amser hamdden. Heb ddatgelu gormod, mae Marcus yn cael profiad annymunol wedi iddo gael ei garcharu yn dilyn yr ymosodiad terfysgol ar amheuaeth o fod yn rhan o’r cynllun. Am weddill y nofel, mae’r darllenydd yn dyst i ymdrechion Marcus i danseilio’r awdurdodau llawdrwm yn San Fransisco ac i adfer ei hawliau o dan gyfansoddiad yr Unol Dalaethiau.

Mae’n stori uchelgeisiol a llwydda Doctorow i’w chyflwyno mewn dull gafaelgar. Gellir gweld rhywfaint o debygrwydd rhwng Little Brother a gwaith George Orwell Nineteen Eighty-Four. Ond nid yw Doctorow yn ymylu ar ysgrifennu campwaith fel ag y gwnaeth Orwell.

Mae gan Little Brother gwpl o wendidau amlwg. Dyma ddau ddaeth i’r meddwl yn syth.

Mae Doctorow yn symud yn rhy gyflym ar ddechrau’r nofel, heb roi digon o amser i ddod i adnabod y cymeriadau cyn y digwyddiad sy’n siapio gweddill y stori. Erbyn tua’r hanner ffordd, mae’r cysylltiad rhwng y darllenydd a Marcus yn teimlo’n llawer mwy cyflawn ac mae’r stori yn cryfhau yn yr ail hanner. Serch hynny, does dim byd yn annisgwyl am y diweddglo.

Nid yw’r agwedd dechnolegol o’r nofel yn mynd i apelio at bawb. Mae Doctorow yn mynd i drafferth ar adegau i geisio esbonio sut yn union y llwydda’r cymeriadau i gyrraedd eu hamcanion, ac fe allai fod yn ddigon i ambell ddarllenydd golli diddordeb yn y nofel.

Wedi dweud hynny, os oes gennych ddiddordeb mewn technoleg, consyrn dros ymateb llywodraethau i’r bygythiad o ymosodiad terfysgol, ac yr ydych yn chwilio am nofel ddarllenadwy, rwy’n siwr y cewch chi flas ar hon.

Cyfweliad Gorwel Owen

Super Furry Animals - MwngDatblygu - PystGorky's Zygotic Mynci - Spanish Dance Troupe

Bu Gorwel Owen yn gyfrifol am rhai o’r recordiau mwya’ gwefreiddiol i ddod allan o Gymru yn ystod yr 80au, y 90au a’r 00au.  Mae wedi cynhyrchu a chwarae ar glasuron fel ‘Mwng’ (Super Furry Animals), albyms Gorkys Zygotic Mynci, ac ar gyfer y grwpiau electroneg Eirin Peryglus a Plant Bach Ofnus. Fo oedd yn gyfrifol am redeg Recordiau Ofn, a rhyddhaodd recordiau gan Datblygu ymysg eraill. Yn fwy diweddar mae wedi bod yn recordio gyda’i bartner Fiona Owen (gynt o Eirin Peryglus), ac yn creu gwaith arbrofol fel yr osodiad sonig  Triawd I.

Pryd ddechreuodd Recordiau Ofn, a pham?

Tua 1984. Roedd y label yn ffordd o ryddhau stwff o’dd neb arall yn debygol o ryddhau ar y pryd. Canol yr wythdegau roedd lot o bobol yn rhyddhau stwff diddorol ar gasét ac yn osgoi gorfod meddwl am bethau tu fewn i gyffiniau mainstream.

Sut fath o stiwdio oedd Stiwdio Ofn yn y dyddiau cynnar? A be am rŵan?

Yn y cychwyn o’dd y stiwdio jyst yn ffordd o arbrofi hefo synau. Efo’r math o fiwsig oeddwn i’n ei wneud, doedd o ddim yn gwneud sens mynd i stiwdio oedd yn bwrpasol ar gyfer recordio bands ayyb, felly nes i jyst prynu ‘chydig o betha syml. Nath pobol eraill ofyn i mi eu recordio nhw, ac felly ohonom ni’n gallu ychwanegu at, a gwella’r offer mewn amser.

Dwi dal yn meddwl bod ‘limitations’ offer weithiau yn medru bod yn gyfle. Roedd lot o stwff cynnar Ffa Coffi Pawb, er enghraifft, yn stretsio’r technoleg i’r eithaf, ac roedd hyn yn ffordd cyffroes o weithio. Rwan, dwi’n dechra defnyddio offer digidol yn fwy, sydd hefo manteision, ond yn gallu gohirio penderfyniadau! Dwi’n gobeithio gallu arbrofi mwy efo recordio tu allan i’r sefyllfa stiwdio – rŵan bod y dechnoleg wedi gwella. A bod petha’n llai.

Yn yr wythdegau/nawdegau cynnar roeddet ti’n gysylltiedig â dau fand yn enwedig, sef Eirin Peryglus a Plant Bach Ofnus. Pwy oedd dy ddylanwadau di? O Gymru a thu hwnt.

Dechra’r wythdegau o’dd na scene annibynnol eithaf iach. Dwi’m yn siŵr am ddylanwadau, ond oeddwn i’n meddwl fy mod i’n gwrando reit eang ar y pryd – lot o betha o Ewrop, fel Einsturzende Neubauten, o Lloegr, fel Cabaret Voltaire – yn gyffredinol, pobol o’dd yn trio cyfuno arbrofi efo technoleg/synau, ond mewn cyd-destyn pop yn yr ystyr eang (beth bynnag ydi hynna).

Wedyn dechra gwrando ar fwy o betha – minimalism Americanaidd, music concrete, ayyb. a darllen lot o Cage! Mae lot o’r dylanwadau arnaf wedi bod drwy’r bobol dwi di bod digon lwcus i weithio hefo – trwy eu gwaith eu hunain, a hefyd drwy cyflwyno fi i lot o betha. Dwi’n falch mod i’n darganfod mwy o betha i wrando ar bron pob dydd.

Fyswn i’n disgrifio Eirin Peryglus fel synthpop, a Plant Bach Ofnus fel rhywbeth mwy leftfield/ experimental. Wrth wrando nol rŵan, Plant Bach Ofnus sy’n sefyll allan, yn enwedig stwff fel ‘Isharmonig’. Be wyt ti’n meddwl am y cerddoriaeth ‘ma rŵan? Be sy’n sefyll allan i ti?

Dwi’n hapus o’r stwff fel adlewyrchiad o be oedden ni’n ei wneud ar y pryd. Arbrofi oedd y prif beth efo Plant Bach Ofnus – gyda arbrofi mae petha weithiau’n gweithio a weithia ddim, ac mae’r llwybr mor bwysig â’r terfyn. Dwi’n meddwl mai ‘Isharmonig’ yw un o’r rhai nath weithio orau. Robin, Alun a Fiona oedd yn gyfrifol am y sgwennu yn Eirin Peryglus – er nid arbrofi oedd y peth canolog, o’dd na agwedd reit agored i recordio – ma hyn yn wir efo rhan fwyaf o’r bobol dwi wedi gweithio hefo.

Fe recordiodd Plant Bach Ofnus dau sesiwn ar gyfer sioe John Peel. Dwi’n cofio torri lawr ar yr M6 ar y ffordd i’r sesiwn gyntaf a meddwl fysa ni di colli’r cyfle – nhw’n ffonio diwrnod wedyn i ddweud wrthym i ddod lawr yr wythnos wedyn. Yr wythnos wedyn o’dd na eira yn Sir Fôn ac felly fethon ni gyrraedd eto. Fe wnaethon nhw ofyn eto a’r tro yma fe gyrhaeddom ni! O’dd o reit od gweithio yn rhywle gwahanol, ond yn diddorol clywed sut oedd pobol arall yn recordio, a chael cyfle i ddefnyddio technoleg well, er mae perthynas fi a thechnoleg dal yn un eithaf cymhleth.

Pryd ddechreues ti weithio gyda Datblygu?

Oeddem ni wedi gwneud ‘chydig o gigs hefo’n gilydd ac efo syniada tebyg ynglŷn â miwsig, ond o heddiw mae’n edrach fath bod ni’n debyg yn bennaf am fod tu allan o beth bynnag o’dd y ‘mainstream’ yng Nghymru. Es i lawr i Lanfaircaereinion fel ‘ffan’ pan oedden nhw’n recordio Hwgrgrawthog, ac oeddwn i’n edmygu’r ffordd roedden nhw’n gweithio mor gyflym yn y stiwdio. Nes i ofyn nhw gyfrannu at EP amlgyfranog (Dyma’r Rysait) ac ar yr un pryd dechreuom ni recordio Wyau.

Pa record Datblygu ydi dy ffefryn?

Pyst. Dwi’n meddwl o’dd o’n un o’r amgylchiada na pan ma popeth mewn rhyw fath o synchronicity. Ma David, wrth gwrs, yn uffernol o dalentog, o’dd Pat yn dod a petha gwahanol i mewn, a hefyd oedd Wyn yn bwysig iawn o ran cynhyrchu. Eto, o’dd y broses recordio yn gyflym iawn.

Mae na deimlad reit organic/spontaneous i lot o stwff Datblygu; sut oeddech chi’n gweithio?

Fel o ni’n son, oedd y peth yn gyflym. Fel grwpiau eraill dwi di gweithio gyda, oedde nhw efo agwedd positif tuag at y broses recordio – parodrwydd i arbrofi ayyb ond ar seiliau caneuon cryf. Oedd yn caneuon wedi eu gorffen o ran ‘sgwennu’ ond o’dd na lot o le i arbrofi. Oeddem i gyd yn taflu syniadau mewn, ac wedi datblygu (sori!) perthynas agos yn y stiwdio.

Be ti’n feddwl o’r holl sylw mae David Edwards wedi cael yn y blynyddoedd diweddar? Mae’n teimlo fel fod y diddordeb yn tyfu bob blwyddyn.

Ma’i gyfraniad o mor bwysig – dwi’n falch bod mwy a mwy o bobol yn gwerthfawrogi hyn.

Dros y degawd diwetha ti wedi cynhyrchu recordiau anhygoel fel Mwng a stwff Gorkys (a llwyth o rai eraill hefyd). Pa rai ydi dy ffefrynnau? Beth wyt ti mwya falch ohono? Oes ‘na artistiaid ti’n gweithio efo ar hyn o bryd?

Dwi newydd orffen LP Euros (Childs) sydd allan nawr. Roeddwn i a Fiona yn bwriadu dechra recordio ail albwm ond nes i dislocatio fy mys canol jyst cyn dolig! – er bod ni’n debygol o iwsio mwy o electroneg tro yma – doedden ni ddim isio gwneud albym hollol electroneg. Dwi’n mwynhau rhan fwyaf o’r recordiau dwi wedi gweithio ar am wahanol resymau, ac yn falch iawn mod i wedi cael y cyfle i weithio arnynt. Dwi dal yn anghyffyrddus o’r term ‘wedi cynhyrchu’ achos dwi’n gobeithio mod i jyst yn helpu pobol neud records.

Sut wnes ti a Gareth Potter (Pop Negatif Wastad, Tŷ Gwydr, Traddodiad Ofnus) dod i weithio gyda’ch gilydd?

Dwi’m yn cofio! – ond debyg roeddem ni’n gwneud yr un gigs. Oeddwn i’n ffan o Traddodiad Ofnus cynnar, a hefyd yn nabod Esyllt trwy Crisialau Plastig. Na’th llwybrau cerddorol ni groesi am ychydig.

Fe ymddangosodd y cyfweliad hwn yn wreiddiol yn ffansin Trosi/Translate (RIP) nôl yn 2006. Dwi wedi golygu/dileu rhai darnau er mwyn helpu strwythyr a llif yr erthygl i’r rheini sy’n darllen yn 2010.

Daw Slavoj Žižek i Gaerdydd

zizekAr Ddydd Mercher , Mawrth 3ydd 2010, caiff Brifysgol Caerdydd y fraint o groesawi Slavoj Žižek, un o ffigurau mwyaf adnabyddus y byd athroniaeth fodern i’r ddinas er mwyn trafod ei lyfr newydd First as Tragedy, Then as Farce. Mae Žižek, yn wreddiol o Slovenia, nid yn unig yn enwog am ei gyfraniad helaeth i’r byd academaidd sy’n cylchynu ‘psycho-analysis’, ffilm, gwleidyddiaeth a diwylliant, ond hefyd am ei bersonoliaeth egsentrig a’i allu i wneud theori cymhleth yn berthnasol i fywyd cyfoes. Gwelir dylanwadau cryf o Lacan, Hegel a Marx yn ei waith ac fe’i ddisgrifwyd gan The Times fel ‘the Elvis of cultural theory’.

Yn ei lyfr diweddara, trafodir yr argyfwng economaidd rhyngwladol o bersbectif Neo-Marcsaidd. Ar ôl i utopia’r gorllewin datblygiedig ffrwydro ymysg digwyddiadau 9/11, ac eto o ganlyniad i’r argyfwng economaidd rhyngwladol, credir Žižek bod angen i ddiwedd hanes, fel y disgrifiwyd gan Francis Fukuyama yn y nawdegau, digwydd dwywaith.

Cyn yr argyfwng, ein prif flaenoriaethau oedd datrys problemau megis cynhesu byd eang, AIDS a’r hawl i feddyginiaethau, bwyd a dŵr glan, ond serch hynny, fe gohurwyd unrhyw gamau penodol gan lywodraethau’r byd datblygedig. I’r gwrthwyneb, arllwyswyd cyfansymiau anghredadwy i fewn i’r sector ariannol er mwyn ceisio achub y sefyllfa heb unrhyw ystyriaeth am yr ‘hen’ flaenoriaethau a chysgodwyd o ganlyniad. Mae Žižek felly yn dadlau fod dirywiad ariannol ac economaidd y Gorllewin yn 2008, sydd wedi gadael miliynau o bobl yn ddiwaith, yn dystiolaeth bod y ffantasi o economi cyfanfyd a’i rhesymeg ansefydlog ar fin dod i ben.

Fe fydd y ddarlith yn cymryd lle ar Ddydd Mercher 3ydd o Fawrth 2010 yn Adeilad Julian Hodge, Prifysgol Caerdydd am 7 o’r gloch y.h.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: zizekconference@cardiff.ac.uk

Budapest yn galw – Ez itt a Tilos Rádió

PalotaiErs ei ddyfodiad mae’r we yn sicr wedi chwyldroi ein bywydau ni am byth. Mae wedi chwarae rhan enfawr yn y modd da ni’n cyfathrebu a rhannu gwybodaeth gyda’n gilydd; sut dda ni’n prynu a gwerthu nwyddau ac wedi trawsnewid y ffordd dda ni’n derbyn, rhannu a chael mynediad at gerddoriaeth. Bellach mae’n hawdd i ni gael gafael ar unrhywbeth da ni isho (yn gyfreithlon neu yn anghyfreithlon) – diolch i’r we fyd eang. Nid yn unig y gallwn ni islwytho a dosbarthu cerddoriaeth ond fe allwn wrando ar wasanaethau radio o bob math ac o bob man ar draws y glôb ar unrhyw adeg drwy glicio botwm.

Dwi’n gwrando ar bob math o wahanol fathau o gerddoriaeth, ond cerddoriaeth electroneg, yn ei gyd-destun eang, sy’n mynd a fy mrid. Drwy’r we fe allai wrando unrhyw amser o’r dydd neu’r nos ar ystod eang o orsafoedd radio sy’n apelio at fy chwaeth gerddorol. Dwi ddim angen bod yn Llundain er mwyn clywed y tiwns grime, dybstep a crack house diweddaraf ar Rinse FM. Allai ymlacio i synnau ambient llorweddol y Buzz Out Room heb orfod mynd i Ganada neu fe allay neidio o gwmpas y ty i drac sain tecno, jyngl a drwm a bas sydd ar Full Vibes Radio o Ffrainc. Os dwi yn fwd i wrando ar weithgaredd sain, ffonograffi a chofnodion maes (field recordings innit) yna mi a’i draw at Framework Radio heb orfod mentro allan o’r tŷ, heb sôn am fynd i Estonia. Ond o’r nifer enfawr o orsafoedd radio sydd ar gael i mi, fy ffefryn yn sicr ydi Tilos Rádió, Budapest.

Ar droad y mileniwm fe ddes i gysylltiad â Beáta Pozitíva, cerddor a DJ oedd o dras Hwngareg. Ar y pryd rho ni yn rhedeg label recordiau o’r enw Fitamin Un, a dyma hi yn cynnig cytundeb dosbarthu digidol ar gyfer ôl-gatalog y label gyda Xenomusic, Budapest. Roedd Beáta yn ogystal â bod yn aelod o’r grŵp Széki Kurva, yn DJ ar Tilos (mae hi dal i fod) ac roedd hi ac amryw o’r DJs eraill ar yr orsaf wedi bod yn chwarae recordiau Tystion. Dyna sut ges i fy nghyflwyno gyntaf i Tilos.

Fast-forward deng mlynedd a dwi’n mynd allan gyda merch o Budapest sydd bellach wedi ymgartrefi yng Nghymru. Am unwaith yn fy mywyd mae gen i gariad sy’n rhannu’r un chwaeth gerddorol a fi ac mae Mara, wrth gwrs, yn ffan o Tilos Rádió. Yna yn Hydref 2009 dyma’r ddau ohonom ni’n hedfan allan i brif ddinas Hwngari ac yn ystod ein cyfnod yna, yn galw mewn (heb wahoddiad!) i Stiwdios Tilos Rádió wedi ein harfogi gyda llwyth o CDs o gerddoriaeth electroneg o Gymru. Roedd yn union fel y dychmygais – stiwdio ddiymhongar wedi ei leoli lawr stryd gefn ac i fyny ar drydydd llawr adeilad digon di-nod ond yn byrlymu ag egni unwaith aethon ni mewn drwy’r drws…

Tilos Rádió

Ystyr Tilos ydi ‘gwaharddedig’ yn Hwngareg, a hon oedd yr orsaf radio gymunedol gyntaf i’w sefydlu yn Hwngari yn 1991 – gorsaf radio ‘pirate’ oedd hi bryd hynny. Erbyn 1995 daeth yr orsaf mor boblogaidd rhoddod yr awdurdodau drwydded iddi ac erbyn 2002 fe estynnwyd y drwydded darlledu o 12 i 24 awr. Serch hynnu, o’r cychwyn mae Tilos wedi bod yn orsaf nid-am-elw, gwirfoddol a chymunedol sydd byth wedi darlledu unrhyw hysbysebion. Mae’r orsaf wedi ei ymrwymo i ethos cryf o ryddid i fynegiadaeth gan chwarae rhan amlwg ym mywyd diwylliannol Budapest. Nid ydi’r DJs na’r cyflwynwyr yn cael eu talu am ei gwaith, ond hytrach yn ei wneud allan o gariad am ei bod nhw’n angerddol am y gerddoriaeth maen nhw’n troellu.  Mae’r orsaf yn cael ei ariannu yn bennaf gan gyfraniadau gan wrandawyr ac incwm o ddigwyddiadau codi arian ac yn rhannol gan brosiectau’r Undeb Ewropeaidd a sefydliadau elusennol rhyngwladol.

Felly, os ydych chi, fel fi, yn ddwli ar gerddoriaeth ffync, soul, reggae, hip hop a phob ystod o gerddoriaeth electroneg o Detroit tecno i dyb step, yna mae Tilos Rádió yn nefoedd cerddorol. Rhwng 6 y nos a 10 y bore mae’r orsaf yn darlledu sioeau arbenigol a’r DJs yn cymysgu yn fyw. Heblaw am gyfarchiad byr ar gychwyn a diwedd slotiau dwy i dair awr yn achlysurol, mae’r pwyslais ar y miwsig. Does dim ‘personality DJs’. Dim malu cachu rhwng caneuon – unai mae DJs fel Palotoi yn cymysgu’r gerddoriaeth ddawns fwyaf cutting edge diweddar yn esmwyth am ddwy awr neu ma DJs fel I.Ration ar ei sioe Dub Vibration yn chwarae hen LPs Reggae o’r 60au gan adael gaps rhwng pob trac heb ddim ‘inane chatter’ fel sy’n bla ar donfedd radio fel arfer.

Os ydw i wirioneddol ishe gwybod be sy’n cael ei chwarae, yna mi edrychai ar fforwm fyw (a bywiog) yr orsaf sydd ar ei gwefan, lle ma’r DJs o bryd i’w gilydd yn dweud be sydd ymlaen, neu mi allaf eu holi nhw. A hyd yn oed gyda’r sioeau sgwrsio yn ystod y dydd ar Tilos, ma’r gerddoriaeth sy’n cael ei chwarae yn hollol cŵl. Eat your heart out Jonsi.  Ond dwi’n licio’r syniad mod i allu gwrando yn fyw ar rywun tair mil o filltiroedd i ffwrdd yn chwarae records gwych am 4am. A dyna pam dwi’n caru Tilos Rádió – gorsaf lle mae’r gerddoriaeth yn cael y flaenoriaeth.

tilos.hu

Hywel Teifi Edwards – Cawr o Gymro

Hywel Teifi EdwardsTrist iawn oedd clywed am farwolaeth Hywel Teifi Edwards, cawr o Gymro a gyfrannodd ei oes tuag at Gymru a’r iaith Gymraeg.

Roedd Hywel Teifi Edwards yn un o’r enghreifftiau prin hynny o feirniaid diwylliannol Cymraeg a oedd â holl gynhysgaeth hanes a diwylliant Cymru yn berwi trwy ei wythiennau. Deuai hynny’n glir i bawb a gafodd y fraint o wrando arno’n areithio mewn raliau wrth iddo gyfeirio at wahanol adegau mewn hanes a chyffelybu â’r sefyllfa bresennol. Nid rhywbeth sych oedd hanes iddo ond rhywbeth a allai roi goleuni i’n llywio yn ein presennol a thuag at y dyfodol.

Y rali Cymdeithas yr Iaith cyntaf i fi ei mynychu erioed oedd rali ynghylch dyfodol cymunedau Cymraeg tua 2002, a bu araith Hywel Teifi Edwards yn gymaint o ysbrydoliaeth fe ymunais â’r mudiad. Sôn yr oedd e’ bryd hynny y mae y Cymry fel cenedl yn tenacious ac fe ddefnyddiodd y gair Saesneg oherwydd fod y gair mor addas i’n disgrifio (yr unig le roeddwn i wedi clywed y gair o’r blaen oedd wrth wrando ar gerddoriaeth Tenacious D – cofiwch mai deunaw oeddwn i ar y pryd). Mae’r gafael hwn sydd gyda ni ar ein hanes a’n diwylliant, y cof cenedl tenacious hwn, yn bwysig iawn meddai Hywel Teifi Edwards.

Yn ei gyfrol olaf, The National Pageant of Wales, fe adroddodd hanes perfformio pasiant mawr yn dathlu hanes Cymru drwy’r oesoedd yng nghysgod Castell Caerdydd, gyda dros 5000 o bobl yn cymryd rhan o bob dosbarth o gymdeithas. Yn y dyfyniad hwn, dengys sut y gwelai perthnasedd y digwyddiad hwn gyda’r angen am addysgu pobl Cymru am hanes eu gwlad ynghyd â’r sefyllfa wleidyddol bresennol:

If only we had his like again in 2009 to script a National Pageant (or better still an epic film) to tell the Welsh, who are awaiting yet another referendum to test their readiness for “a proper parliament”, what he told them in the wake of the Cymru Fydd collapse in 1896. Quite simply, as Barack Obama put it on the night of his election victory, when he confronted the difficulties to be overcome, ‘Yes, we can.’

Meddylfryd neu seicoleg y Cymry oedd ei ddiddordeb mawr, ac er y dywedai fod hyn o ganlyniad i imperialaeth Lloegr yng Nghymru roedd hefyd yn awyddus i’r Cymry adfer yr hyder ynddynt eu hunain ac ymladd y seicoleg hwn. Ysgrifennodd yn helaeth am Frad y Llyfrau Gleision er enghraifft gan sôn sut y trodd y ‘sgarmesi’ ynghylch yr iaith ‘yn faes rhyfel cartref’ wrth i’r feddylfryd fod angen addysg drwy gyfrwng y Saesneg i lwyddo yn y byd ymledu tra gwthiwyd a cyfyngwyd y Gymraeg i’r aelwyd a’r capel. Y neges i wyrdroi ein hanes a’n seicoleg am yr iaith Gymraeg oedd ei gri yn ei araith mewn rali fis Mai 2009, a oedd yn galw am ddatganoli pwerau llawn dros y Gymraeg i Gymru: ‘Ni ein hunain sydd i iachau y wlad ma lle mae’r iaith yn y cwestiwn’ meddai, ‘drwy ein cynrychiolwyr yng Nghaerdydd.’ Cyfeiriodd at allu’r genedl i reoli ei hun yn wâr a theg drwy gyfraith Hywel Dda yn y gorffennol gan ddweud am y presennol: ‘ni’r Cymry biau’r busnes yma.’ Nid oedd pwyslais Hywel Teifi ar ymyrraeth Lloegr â Chymru, ond ar yr hyder sydd angen ei adfeddiannu i ryddhau o’r feddylfryd o israddoldeb ynghylch yr iaith Gymraeg.

Nid dyn dweud yn unig oed Hywel Teifi Edwrads, ond dyn gwneud. Rhai blynyddoedd yn ôl roeddwn i’n gwrando ar ei feirniadaeth befriog yn y Pafiliwn o gystadleuaeth y Fedal Ryddiaith ac fe ddywedodd fel hyn: ‘Pe bae pawb sy’n bresennol yn y pafiliwn yn prynu chwech neu saith llyfr Cymraeg y flwyddyn fe fyddai gennym ni chwyldro yn y wasg Gymraeg.’ Nes i feddwl – WOW – ma hynna’n wallgo! Ers hynny rwyf wedi gwneud yn siwr fy mod i’n prynu o leia’r nifer hynny o lyfrau Cymraeg bob blwyddyn.

Ni all unrhyw Gymro gwneud llai nag edmygu ei ymroddiad a’i gyfraniad i Gymru. Dangosodd mai dim ond ni ein hunain all godi Cymru unwaith eto a bod angen torri’n rhydd o’r feddylfryd israddol am yr iaith Gymraeg. Hefyd, roedd ei wybodaeth a’i allu hudolaidd i draethu am ystod eang o bynciau hanesyddol a diwylliannol yn rhywbeth i ni fel cenhedlaeth ifanc ei edmygu, fel y gallwn edmygu llawer o haneswyr diwylliannol rydym ni’n prysur eu colli. Gan obeithio y bydd ein cenhedlaeth ni mor frwd â pobl fel Hywel Teifi Edwards i ddal cyfoeth y dychymyg Cymraeg ar lafar gwlad!

Llun gan dogfael