Beganifs – MP3 o’r archif

Mae Rhys Llwyd wedi digido’r casét o’r albwm Aur gan Beganifs fel MP3.

Daeth yr albwm mas yn 1992 yn wreiddiol, 19 mlynedd yn ôl.

Nawr mae’n bron amhosib i’w ffeindio (hyd yn oed os oes gyda ti casét mewn bocs yn dy lofft).

Felly y cwestiwn ydy, pryd fydd ein labeli yn manteisio ar yr hen gatalog ac yn rhyddhau’r stwff yma yn swyddogol fel fersiynau digidol?

Mwy o wybodaeth am Beganifs / Big Leaves

264 llun o fandiau, gan Adam Walton

Martin Carr gan Adam Walton

Mae Adam Walton wedi cwrdd â llawer iawn o fandiau dros y blynyddoedd. Dw i wedi bod yn pori ei chasgliad o luniau ar Flickr.

Dyma llun blewog o Martin Carr, cyfansoddwr ac yn amgen Bravecaptain (’00 – tua ’06) a chyn-aelod o Boo Radleys (’88 – ’99).

Mae cyfanswm o 264 llun gan Adam, gan gynnwys Big Leaves, Fiona a Gorwel Owen, Melys gyda John Lawrence, Colorama, awto-telyn Colorama, Masters in France, Meilir, Richard James a’i band yng Ngŵyl Gardd Goll 2010 – a Mr Huw a’i band, The Gentle Good a Jen Janiro yn yr un gŵyl, Gallops, The Hot Puppies, Yucatan, Derwyddon Dr Gonzo, Lisa Jên o 9Bach, siop Recordiau Cob a mwy.

Wrth gwrs mae sioe radio Adam Walton ar BBC Radio Wales bob nos Sul yn ardderchog.