Cwpwrdd Nansi: traddodiad ac arloesedd yng Nghaerdydd

Mae trefnwyr Cwpwrdd Nansi yn cynnal gigs misol yng Ngwdihw sydd ymlith y gigs gorau yng Nghaerdydd ar hyn o bryd. Os wyt ti’n darllen Y Twll yn rheolaidd dydyn ni ddim jyst yn dweud pethau fel ‘na wili nili.

Bwriad y noson ydy arddangos bandiau gwerinol (ie, GWERINOL) o bob math, gan gynnwys bandiau sy’n cyfuno pethe traddodiadol a phethau arloesol. Mae’r digwyddiad yn hollol hygyrch – fydd neb yn brofi dy wybodaeth o’r anifeiliad yn Un O Fy Mrodyr I cyn i ti mynd mewn. Mewn gwirionedd mae croeso i bawb a phopeth heblaw am rhagdybiaethau ystradebol. Wedi’r cyfan, gwerin yw’r punk newydd (neu y ffordd arall rownd?). Cyfranogiad yw’r nod ac mae pob noson yn gorffen gyda sesiwn ad hoc gyda cherddorion amryw o’r cynulleidfa.

cwpwrdd-nansi-carreg-lafar-jamie-bevan-877

Yn ddiweddar maent wedi cael power trio Manaweg o’r enw Barrule ac hyd yn oed cyfuniad o’r werinol gydag electronica byw, diolch i’r ddeuawd Solarference sydd yn cyfeirio at Pentangle ac Autechre fel dylanwadau.

Mae’r noson nesaf yn cynnwys Carreg Lafar a Jamie Bevan. Gwranda ar y tiwn Carreg Lafar isod. Mae ffan wedi ei rhannu ar YouTube gyda delwedd o’r castell yr adeiladwyd gan Edward I sydd yn anffodus achos, fel Mussolini, doedd Edward ddim yn hoff iawn o ddiwylliant gwerinol. Ond mae’r tiwn yn benigamp.

Dilyna Cwpwrdd Nansi ar Twitter, Facebook neu’r wefan.

Roxejam Caerdydd: celf newydd yn yr awyr agored

Cynhaliodd grŵp o artistiaid gŵyl celf stryd Roxejam yn orllewin Caerdydd dydd Sadwrn diwethaf. Wedi dweud ‘celf stryd’ roedd y digwyddiad ym Mharc Sevenoaks yn hytrach na’r stryd.

Ta waeth, mae’r canlyniadau yn arbennig o dda. Er wnes i golli dydd Sadwrn a’r holl hwyl, DJs a’r broses gelfyddydol mae’r canlyniadau ar y wal hir ger y rheilffordd am flwyddyn arall. Es i drwy’r parc prynhawn dydd Sul ac roedd dau artist wrthi’n gorffen gweithiau gyda chynulleidfa fach.

Mae Roxejam yn digwydd bob blwyddyn yn ystod yr haf ym Mharc Sevenoaks, Trelluest, Caerdydd. Bob blwyddyn mae’r wal yn troi yn ddu yn ystod yr wythnos ac mae’r gweithiau i gyd yn diflannu er mwyn creu lle ar gyfer y flwyddyn newydd.

Mae’r grŵp Roxe (mae e’n odli gyda ‘Sevenoaks’) wedi bod ers pum mlynedd bellach. Cafodd e ei sefydlu er cof am yr artist ifanc diweddar Bill Lockwood.

Dim ond flas bach sydd ar y cofnod blog yma. Ac mae’r arddangosfa yn parhau am flwyddyn ac yn werth ymweliad.

Celf gan artistiaid amryw

30 mlynedd o Datblygu

Arddangosfa Datblygu30

Bore yma gwnes i weld yr arddangosfa Datblygu yn Waffle, Caerdydd (63 Heol Clive, Treganna – ddim yn bell o Dafarn y Diwc).

Mae’r perchennog caffi Waffle, Victoria Morgan, wedi bod yn casglu eitemau Datblygu ac mae hi’n croesawi unrhyw fenthyciadau er mwyn ehangu’r casgliad. Wedi dweud hynny, mae’r amrywiaeth o luniau, cloriau, gohebiaeth ac adolygiadau yn wych eisoes, gan fod Victoria yn chwaer i Patricia Morgan o’r band.

Fel mae’n digwydd, eleni mae’r band dylanwadol yn dathlu 30 mlynedd ers dechrau fel deuawd o Aberteifi – David R. Edwards a T. Wyn Davies. Roedd adolygiadau Y Cymro a Sgrech yn 1982 o’r casét cyntaf Amheuon Corfforol yn ffafriol iawn. Dyma’r cân Problem Yw Bywyd o’r casét:

Ymunodd Patricia Morgan y band yn 1985 ac wedyn wnaeth y band tri albwm ardderchog, pum sesiwn i John Peel ac ambell i fideo i Criw Byw a Fideo9 ar S4C gan gynnwys Santa a Barbara:

A mwy… Ar hyn o bryd mae bwcibo cyf, cwmni y cynhyrchydd Owain Llŷr, wrthi’n creu Prosiect Datblygu (bwcibo 005), sef ffilm ddogfen annibynnol Cymraeg i ddathlu trideg mlynedd o Datblygu. Bydd premiere yn Theatr Mwldan, Aberteifi tua mis Medi 2012.

Tra bod i’n siarad am ffilm dyma clip o Llwch ar y Sgrin am sesiwn Datblygu yn 2008 pan wnaethon nhw recordio’r sengl olaf Can y Mynach Modern (diolch i Pete Telfer a’r Wladfa Newydd, sydd wedi sgwennu erthygl newydd am y dathliad).

Am ragor o wybodaeth am y dathliadau cer i Datblygu30.

Mae Nic Dafis yn rhedeg gwefan (an)swyddogol ynglŷn â phopeth Datblygu.

DIWEDDARIAD: mae Lowri Haf Cooke wedi sgennu lot mwy am yr arddangosfa gyda lluniau hefyd, mmm.

Gwerin yn canu yn y de-ddwyrain

Efa Supertramp

Tiwns am heddlu yn dod a spwylio’ch hwyl, am malu’ch teledu’n racs, am gariad ac am chwyldro. Am ddim ‘fyd, ‘Celf Nid Pres’ yng ngeiriau ei hunain! Cradaf ei bod yn bwriadu gigio y Gwanwyn yma. Clywais llawer o’r traciau Efa Supertramp yma pan fe wnaeth perfformio mewn sgwat yng Nghaerdydd, gig llawn egni ag angerdd, o du Efa Supertamp a’r cynulleidfa! Er nad ydi cerddoriaeth acwstig fy hoff genre yn bersonnol… rhaid i mi gyfaddau i mi fwynhau miri llawer o ganeuon ar yr albym yma. Yr wyf yn hoff o’r modd mae’r geiriau mor eglur a mae wir ystyr i ganeuon Efa. Gyda artistiaid fel Lady Gaga yn dominyddu tomfeddi’r radio prif ffrwd a’i nonsens ra ra blah blah blah ma’n dda clywed hogan sy’n siarad mymryn o sens! Mae sain meddal yr acwstig yn cyferbynnu’n dda efo pyncdod ei llais hefyd.

Clayton Blizzard a Cosmo

Dydw i ddim yn awdurdodes o gwbwl ar gerddoriaeth acwstig ond mi wn fod yna sin o gerddoriaeth acwstig radicalaidd gwefreiddiol yn ninas Caerdydd ar ol mynd i nosweithiau Folk Against Facism yn Gwdihw. Mae’r noson yma wedi chwalu fy rhagfarnau ynglyn a cerddoriaeth gwerin ac acwstig, yn enwedig ar ol gwrando ar Clayton Blizzard a Cosmo.

Jamie Bevan, Torri’r Cerffiw

Yn y cymoedd gallwn glywed fod canu gwerin gwahanol yn ffynu hefyd. Yn 2011 fe wnaeth Jamie Bevan, cyn aelod o’r Betti Galws, ryddhau albym Torri’r Cerffiw. Caneuon ynglyn a bywyd ym Merthyr Tudful a’i brofiad o weithredu yn erbyn y Ceidwadwyr a’u toriadau wrth falu swyddfa gyda aelod arall o Gymdeithas yr Iaith. Gweithred a arweinodd iddo cael ei garcharu. Dyma casgliad o ganeuon gwerin gwerth chweil gyda digon o hwyl a sbri! Mi fydd Jamie Bevan yn gigio yn y Gwanwyn hefyd gyda Twmffat, taith Tin Dweud Twndis a Dwi’n Dweud Twmffat.