Dim ond rhai perfformiadau.
Dyma gwpl o eitemau eraill.
A’r ffilm.
x
diwylliannau | celf | cerddoriaeth | ffilm | gwleidyddiaeth | treigladau ansafonol | hollol annibynnol ers 2009
Dim ond rhai perfformiadau.
Dyma gwpl o eitemau eraill.
A’r ffilm.
x
Wawsa. Dyma Mirores, y sengl newydd sbon ardderchog gan Ani Glass – cerddor electronig, cynhyrchydd, arlunydd a ffotograffydd.
Mae ar gael ar Recordiau Neb ac dyma fideo trawiadol gan Carys Huws.
Mae’n werth nodi taw Ani Glass oedd cynhyrchydd y tiwn yn ogystal â chyfansoddwraig a chantores. Mae lefel galluogrwydd rhai pobl yn sgeri.
Mirores fydd enw yr albwm arfaethedig hefyd. Yn ôl y sôn mae cerddoriaeth yr albwm yn yr un draddodiad â Martin Rushent, Giorgio Moroder, Vangelis, Jean-Michel Jarre and Arthur Russell ac mae’r themau ehangachwedi eu hysbrydoli yn rhannol gan weithiau arlunydd haniaethol Agnes Martin a’r awdur ac ymgyrchydd Jane Jacobs.
Bydd taith o’r wlad i lansio’r albwm gyda Twinfield.
Paid methu.
Dyma ffilm ddogfen fach ysbrydoledig am lawer o bethau – am ddinas fach o’r enw Belffast (sydd â phoblogaeth llai na Chaerdydd), am ffilm fel celfyddyd, am ffilmiau penodol, am ryfel, am gartref, am ofn ac hiraeth, ac am fod yn ffan o ddiwylliant a diwylliannau.
Mae’r gwneuthurwr ffilm Mark Cousins yn ymddangos o flaen y lens y tro hwn i rannu straeon ei blentyndod yn y 70au ac 80au cynnar – adeg y rhyfel yn Iwerddon – pan nad oedd llawer iawn o bethau eraill i’w gwneud yn ddiogel ond cael ysbrydoliaeth trwy ffilmiau o bob math.
Gadawodd y ddinas yn 1983 yn 18 oed ac mae’n dychwelyd i fyfyrio ar sut mae’r lle a’i hanes wedi cael ei ddefnyddio gan sinema, a sut mae bywyd a phrofiadau wedi ei newid e.
Rhywsut mae’r ffilm ddogfen, sydd ond yn 47 munud o hyd, yn wneud synnwyr gyda sut gymaint o themâu ond roedd rhaid canolbwyntio’n llwyr arni hi a myfyrio.
Dw i yn sicr am wylio gwaith Mark Cousins, artist sydd yn gyfarwydd i mi, yn ogystal â rhai o’r ffilmiau gan eraill mae’n sôn amdanynt.
Mae Gruff yn tynnu ar ganu protest ar ei sengl newydd, Pang!, cân rhestr fel Caerffosiaeth, gyda help wrth Kliph Scurlock ar ddrymiau, Gavin Fitzjohn ar bres, a Krissy Jenkins ar ffliwt ac offerynnau taro.
Muzi, artist electroneg o Dde Affrica, wnaeth cynhyrchu a chymysgu yng Nghaerdydd a Johannesburg, ac mae’n debyg bod ei ddylanwad e dros ei naws yn gryf.
Dw i’n chwarae’r gân Bae Bae Bae gan Gruff o 2018 o hyd, a’i ailgymysgiad ardderchog gan Muzi sydd ychydig yn gyflymach ar gyfer dawnsio. Mae’r ddau wedi gwneud cân ar y cyd fel rhan o brosiect Africa Express ac dyna sut wnaethon nhw ddechrau cydweithio (yn ôl cyfweliad Lauren Laverne).
Mae sôn bod elfennau o’r fideo sy’n dod â Magritte a Microsoft Windows 95(!) i’r cof – diolch i Mark James, cydweithiwr oes Gruff Rhys am hynny. Mae’n iawn i fod yn hollol sgwâr bellach.
Pang! fydd enw yr albwm hefyd (gair amlbwrpas sydd â chyfeiriadau fel gair Cymraeg mewn Geiriadur Prifysgol Cymru yn ôl hyd at 1637), ac bydd ambell i bennill ar yr albwm yn cynnwys yr iaith Zulu yn ogystal â’r Gymraeg.
Dyma’r rhestr o draciau ar Pang!:
Yn yr oes gythryblus hon mae rhywbeth addas iawn ac addawol iawn am gydweithrediadau amlieithog ar draws wledydd, a dros ffiniau o gwmpas beth sydd wedi cael ei glywed o’r blaen. Hynny yw, dw i ddim wedi clywed llawer iawn o affro-guriadau Cymraeg hyd yn hyn, mae’n diriogaeth ffrwythlon iawn ac dw i eisiau clywed mwy.
Fel mae’n digwydd dw i’n darllen Rip It Up and Start Again gan Simon Reynolds, sydd yn canolbwyntio ar y cyfnod cerddorol hynod ddiddorol rhwng 1978 a 1984 – bandiau cymysg, ym mhob ystyr o’r gair, fel The Selecter, The Specials, Magazine, The Pop Group – ac mae rhywfaint o gymhariaeth i’w wneud â heddiw o ran gyflwr y gymdeithas ehangach a gwrthdaro gwleidyddol.
Fel yn achos Carwyn Ellis & Rio 18 mae’n ddiddorol nodi bod cerddor[ion] o’r traddodiadau gwahanol yn cyfrannu fel cydweithwyr go iawn ar y prosiectau.
Oedd prinder o bossa nova Cymraeg yn y byd hyd yma, ac sawl ffordd o geisio cael y sain yn iawn. Ond nid oes budd mewn ceisio efelychu arddull rhywun arall mewn modd Jamie Oliver-aidd. Mae parch i’r genre, y traddodiad a’r bobl – y ddwy (tair, pedair) ffordd. Mae technolegau’r byd cyfredol wedi hwyluso hyn ond mae’r sain yn fytholwerdd fel baner Brasil.
I enwi rhai o’r cerddorion ar brosiect Carwyn Ellis & Rio 18: Kassin, Domenico Lancellotti, Andre Siqueira, Manoel Cordeiro, Shawn Lee hefyd, yn ogystal ag Elan a Marged Rhys, Georgia Ruth Williams, Gwion Llewelyn ac Aled Wyn Hughes.
Dyna oedd un o anthemau o’n i wedi clywed yng Ngharnifal St Paul’s ym Mryste dros y penwythnos eleni, cân fachog am fendithion a diolchgarwch gan gantores egnïol o Spanish Town, Jamaica.
Mae Koffee yn rhan o dueddiad arwyddocaol tuag at ganeuon ymwybodol yng ngherddoriaeth Jamaica gyda Chronixx, Protoje ac artistiad eraill fel Kabaka Pyramid a Junior Kelly.
Mae lot o ymdrech wedi mynd mewn i’r teimlad naturiol yn y fideo – dungarees, canu wrth gael trin gwallt, olwyn yn yr awyr gyda gwên. O ran hyn mae wheelies i weld wedi dod yn ôl ar strydoedd byd-eang, ac mae’n teimlo fel bod elfen o wrthdystiad iddyn nhw.
Mae tipyn o beiriant tu ôl i Koffee – un o brif labeli’r byd (Columbia) a sawl cynhyrchydd profiadol megis Walshy Fire o Major Lazer.
Cân yn rhannol am fod yn ffan ydy Iawn gan Pop Negatif Wastad (yn fy nghlustiau i). Dyma Twinfield, peiriant un-dyn, yn wneud ei fersiwn newydd ei hun, ac mae’n swnio’n rymus ar system sain fawr. Mae ei gynhyrchiad yn atgoffa fi o’r gân Your Silent Face gan New Order oddi ar Power, Corruption & Lies – mewn ffordd dda.
Gallech chi lawrlwytho’r ffeil Iawn am y tro, a phodlediad Dim Byd Gwell i Neud am bach o ysbrydoliaeth.
Nodwch fod rhai o’r hen ganeuon wedi diflannu oddi ar gyfrif Soundcloud Twinfield, pob un oedd wedi ei chynnwys yn y cyfweliad Twinfield dair blynedd yn ôl! Dw i’n cymryd bod rhaid i rywun symud ymlaen weithiau… efallai bod dileu gwaith yn rhan o’r celfyddyd rhywsut. Croeso i fyd Twinfield.
Dyma ffilm ddogfen drawiadol sy’n werth eich amser, Being Blacker, am y cynhyrchydd reggae a dyn busnes Blacker Dread.
Mae’r gyfarwyddwraig Molly Dineen, sydd yn ffrind agos iddo fe ers blynyddoedd, yn cael cyfleoedd unigryw i ddangos rhai o’r cyfnodau mwyaf anodd ac hapus ei fywyd a theulu. Ceir argraff ddifyr o’i gymuned yn Brixton, Llundain a’i gymeriadau difyr.