Mae’n debyg bod pawb wedi clywed am y stori erbyn rwan. Roedd fflôt hiliol wedi’i gynnwys fel rhan o garnifal Aberaeron ac fe wnaeth cannoedd o bobol ei amddiffyn. Dyna yw craidd y stori’n wir. Oes, mae manylion bellach am bwy sydd wedi dweud a datgan be, pwy sydd wedi newid eu meddyliau, pwy sydd wedi ymddiheuro a maddeuo. Ond yn syml iawn, fe ddigwyddodd rhywbeth hiliol a chafodd y weithred hynny ei amddiffyn.
Yw lliwio’ch wyneb gwyn yn frown neu’n ddu’n hiliol? Ydi. Yw chwarae cân sy’n trafod pobol Jamaica yn nhermau gwawdlun hiliol yn hiliol? Syrpreis! Ydi. Yw amddiffyn y pethau hyn fel hwyl ddiniwed yn hiliol? Ydi. A yw’n bosib nad oedd gan y bobol oedd yn gyfrifol am y fflôt na’u ffrindiau na threfnwyr y carnifal unrhyw amcan o ba mor hiliol oedd eu gweithredodd? Ydi, ond nid bwriadol yw bob math o hiliaeth. Mae’n holl bwysig ein bod ni’n cymryd cyfleoedd fel rhain i ymddiheuro ac i ddysgu, nid i weiddi amddiffyniad o’n hunain neu’n ffrindiau.
Fy siom mwyaf i yn y llanast hwn i gyd yw’r gymharol distawrwydd oedd i’w gael gan Gymry Cymraeg. Wrth edrych ar Twitter pan mae sarhad diweddaraf yn erbyn yr iaith wedi’i brintio, mae bron pob yn ail trydariad ar fy ffrwd i’n ymateb cryf. Roedd cryn ddistawrwydd i’w weld ar Twitter pan ddaeth y stori am y carnifal i’r golau dydd. Rhai ail-drydariadau o ddolenni straeon newyddion, falle, ond prin oedd yr ymatebion ffyrnig o’n i wedi arfer â nhw. Rydw i’n falch iawn o weld erbyn rwan bod pobol fel @Madeley wedi gwneud cryn ymdrech i ymateb yn gryf i’r digwyddiadau ond mae rhai o’r ymatebion iddyn nhw wedi bod yn ffiaidd i’w darllen.
Mae’n rhaid i ni wynebu’r anwybodaeth sydd yn amlwg i’w gael o hyd yn ein cymdeithasau ni. Mae angen cael sgyrsiau anghyfforddus. Mae angen herio pobol a herio’n hunain. Mae angen gwneud hyn mewn ffordd sy’n barchus, yn sicr, ond mwy na dim byd mae angen ei gwneud. Nid trwy ddistawrwydd mae newid agweddau na dysgu.
Mae’r wythnos diwethaf wedi’n siomi fi’n llwyr fel Cymraes. Mae’n rhaid i ni wneud yn well.
Llun gan Aeronian (CC BY SA)