Mae’n werth nodi taw Ani Glass oedd cynhyrchydd y tiwn yn ogystal â chyfansoddwraig a chantores. Mae lefel galluogrwydd rhai pobl yn sgeri.
Mirores fydd enw yr albwm arfaethedig hefyd. Yn ôl y sôn mae cerddoriaeth yr albwm yn yr un draddodiad â Martin Rushent, Giorgio Moroder, Vangelis, Jean-Michel Jarre and Arthur Russell ac mae’r themau ehangachwedi eu hysbrydoli yn rhannol gan weithiau arlunydd haniaethol Agnes Martin a’r awdur ac ymgyrchydd Jane Jacobs.
Bydd taith o’r wlad i lansio’r albwm gyda Twinfield.
Mae’r foment wedi cyrraedd! Mae’r albwm Pang! wedi cael ei rhyddhau, a fel ffan mawr o Gruff Rhys, faswn i ddim yn fwy cyffrous. Gwrandais i i’r albwm yn syth ar ôl ffeindio rhyw amser rhydd, a thrawyd fi gan natur eclectig ac ysbrydol yr albwm. Wnaeth egni y trac cyntaf, Pang!, teimladau hafaidd Bae Bae Bae, lleisiau ysgafn Ara Deg (Ddaw’r Awen), tiwn lleddf Niwl o Anwiredd, a thrymder Ôl Bys / Nodau Clust yn wneud yr argraffiadau cyntaf cryfaf.
Mae’n anodd i fi i beidio dod yn emosiwnol tra’n gwrando ar gerddoriaeth Gruff, ac y rheswm yw bod yna cysylltiad cryf rhwng ei gerddoriaeth o a fy narganfyddiad o’r iaith Gymraeg. Ar y pryd pan roeddwn i’n gwrando ar gerddoriaeth Gruff am y tro cyntaf, gwrandais i ar yr albwm Candylion yn gyntaf, ac wedyn, Yr Atal Genhedlaeth. Y traciau Gyrru Gyrru Gyrru a Ffrwydriad yn y Ffurfafen oedd fy nghyflwyniadau cyntaf i’r iaith Gymraeg, ac roedd yr albwm Yr Atal Genhedlaeth yn archwiliad fwy drylwyr o’r iaith. Ar ôl cael cyflwyniad i’r iaith, mi benderfynais i ddysgu hi, allan o chwilfrydedd. A, diolch i adnoddau ar gael ar yr we, dwi wedi cael rhyw llwyddiant gyda dysgu.
Fasai fy mhrofiad o ddysgu Cymraeg ddim yr un fath heb gerddoriaeth Gymraeg. Mae na wastad wedi bod cysylltiad rhwng cerddoriaeth Gymraeg a fy nghymhelliad i ddechrau (ac wedyn, parhau) dysgu Cymraeg, a chedoriaeth Gruff yn benodol yn golygu llawer i fi. Mae yna rhywbeth am y gerddoriaeth sy wedi cael effaith cryf arna i, efallai oherwydd mae yna wastad rhywbeth newydd i ddarganfod o fewn y gerddoriaeth, ac mae Gruff wastad yn defnyddio rhyw fath o arloesedd sy’n fy syfrdanu. Drwy wrando ar gerddoriaeth fo, wedi cael profiad nid yn unig o ieithoedd wahanol, ond o rhythmau a synau wahanol, a steiliau eraill o gerddoriaeth na chlywais i erioed o’r blaen.
Nid yw Pang! yn eithriad i hynny. I fi, mae’r albwm yr un mor alawol a siriol ag y mae’n anturus a llawn lledrith. Pob tro dwi’n gwrando ar yr albwm, mae rhywbeth wahanol yn sefyll allan i fi, tra ar yr un pryd yn atgoffa fi o beth wnaeth wneud i fi syrthio mewn cariad a cherddoriaeth Gruff bron i ddegawd yn ôl. Tro yma, drwy gwrando ar Pang!, dwi wedi cael fy nghyflwyno i offeryn o orllewin Affrica (y balafon) nad oeddwn erioed wedi clywed o’r blaen, ac ychydig bach o’r iaith Zulu (yn benodol ar y trac Ara Deg), diolch i’r cynhyrchydd Muzi. Heblaw am newydd-deb, mae Pang!, mewn ffordd, yn atgoffa fi o’r drysiau i gyd sy wedi agor i fi, o ganlyniad o gael profiad o rywbeth newydd. Mae gan yr albwm yr un natur anturus â’i ragflaenwyr, ond mae’n atgoffa fi yn arbennig o Candylion ac Yr Atal Genhedlaeth, ond efallai achos dwi’n teimlo’n mor hiraethus amdan y ddau albwm.
Erbyn hyn, dwi wedi sylweddoli bod gwrando ar gerddoriaeth Gruff drwy’r blynyddoedd wastad wedi bod yn ffordd i fi ehangu fy ngorwelion yn bell iawn iawn. Mae’r albwm Pang! yn beth gysurus i fi, ac yn rhywbeth i fwynhau, ond hefyd mae’n ysbrydoliaeth i fod yn anturus a pheidio byth bod yn agored i bethau a phrofiadau newydd.
Mae Gruff yn tynnu ar ganu protest ar ei sengl newydd, Pang!, cân rhestr fel Caerffosiaeth, gyda help wrth Kliph Scurlock ar ddrymiau, Gavin Fitzjohn ar bres, a Krissy Jenkins ar ffliwt ac offerynnau taro.
Muzi, artist electroneg o Dde Affrica, wnaeth cynhyrchu a chymysgu yng Nghaerdydd a Johannesburg, ac mae’n debyg bod ei ddylanwad e dros ei naws yn gryf.
Dw i’n chwarae’r gân Bae Bae Bae gan Gruff o 2018 o hyd, a’i ailgymysgiad ardderchog gan Muzi sydd ychydig yn gyflymach ar gyfer dawnsio. Mae’r ddau wedi gwneud cân ar y cyd fel rhan o brosiect Africa Express ac dyna sut wnaethon nhw ddechrau cydweithio (yn ôl cyfweliad Lauren Laverne).
Mae sôn bod elfennau o’r fideo sy’n dod â Magritte a Microsoft Windows 95(!) i’r cof – diolch i Mark James, cydweithiwr oes Gruff Rhys am hynny. Mae’n iawn i fod yn hollol sgwâr bellach.
Pang! fydd enw yr albwm hefyd (gair amlbwrpas sydd â chyfeiriadau fel gair Cymraeg mewn Geiriadur Prifysgol Cymru yn ôl hyd at 1637), ac bydd ambell i bennill ar yr albwm yn cynnwys yr iaith Zulu yn ogystal â’r Gymraeg.
Dyma’r rhestr o draciau ar Pang!:
Pang!
Bae Bae Bae
Digidigol
Ara Deg (Ddaw’r Awen)
Eli Haul
Niwl O Anwiredd
Taranau Mai
Ôl Bys / Nodau Clust
Annedd Im Danedd
Yn yr oes gythryblus hon mae rhywbeth addas iawn ac addawol iawn am gydweithrediadau amlieithog ar draws wledydd, a dros ffiniau o gwmpas beth sydd wedi cael ei glywed o’r blaen. Hynny yw, dw i ddim wedi clywed llawer iawn o affro-guriadau Cymraeg hyd yn hyn, mae’n diriogaeth ffrwythlon iawn ac dw i eisiau clywed mwy.
Fel mae’n digwydd dw i’n darllen Rip It Up and Start Again gan Simon Reynolds, sydd yn canolbwyntio ar y cyfnod cerddorol hynod ddiddorol rhwng 1978 a 1984 – bandiau cymysg, ym mhob ystyr o’r gair, fel The Selecter, The Specials, Magazine, The Pop Group – ac mae rhywfaint o gymhariaeth i’w wneud â heddiw o ran gyflwr y gymdeithas ehangach a gwrthdaro gwleidyddol.
Fel yn achos Carwyn Ellis & Rio 18 mae’n ddiddorol nodi bod cerddor[ion] o’r traddodiadau gwahanol yn cyfrannu fel cydweithwyr go iawn ar y prosiectau.
Oedd prinder o bossa nova Cymraeg yn y byd hyd yma, ac sawl ffordd o geisio cael y sain yn iawn. Ond nid oes budd mewn ceisio efelychu arddull rhywun arall mewn modd Jamie Oliver-aidd. Mae parch i’r genre, y traddodiad a’r bobl – y ddwy (tair, pedair) ffordd. Mae technolegau’r byd cyfredol wedi hwyluso hyn ond mae’r sain yn fytholwerdd fel baner Brasil.
I enwi rhai o’r cerddorion ar brosiect Carwyn Ellis & Rio 18: Kassin, Domenico Lancellotti, Andre Siqueira, Manoel Cordeiro, Shawn Lee hefyd, yn ogystal ag Elan a Marged Rhys, Georgia Ruth Williams, Gwion Llewelyn ac Aled Wyn Hughes.
Dyna oedd un o anthemau o’n i wedi clywed yng Ngharnifal St Paul’s ym Mryste dros y penwythnos eleni, cân fachog am fendithion a diolchgarwch gan gantores egnïol o Spanish Town, Jamaica.
Mae Koffee yn rhan o dueddiad arwyddocaol tuag at ganeuon ymwybodol yng ngherddoriaeth Jamaica gyda Chronixx, Protoje ac artistiad eraill fel Kabaka Pyramid a Junior Kelly.
Mae lot o ymdrech wedi mynd mewn i’r teimlad naturiol yn y fideo – dungarees, canu wrth gael trin gwallt, olwyn yn yr awyr gyda gwên. O ran hyn mae wheelies i weld wedi dod yn ôl ar strydoedd byd-eang, ac mae’n teimlo fel bod elfen o wrthdystiad iddyn nhw.
Mae tipyn o beiriant tu ôl i Koffee – un o brif labeli’r byd (Columbia) a sawl cynhyrchydd profiadol megis Walshy Fire o Major Lazer.
Cân yn rhannol am fod yn ffan ydy Iawn gan Pop Negatif Wastad (yn fy nghlustiau i). Dyma Twinfield, peiriant un-dyn, yn wneud ei fersiwn newydd ei hun, ac mae’n swnio’n rymus ar system sain fawr. Mae ei gynhyrchiad yn atgoffa fi o’r gân Your Silent Face gan New Order oddi ar Power, Corruption & Lies – mewn ffordd dda.
Gallech chi lawrlwytho’r ffeil Iawn am y tro, a phodlediad Dim Byd Gwell i Neud am bach o ysbrydoliaeth.
Nodwch fod rhai o’r hen ganeuon wedi diflannu oddi ar gyfrif Soundcloud Twinfield, pob un oedd wedi ei chynnwys yn y cyfweliad Twinfield dair blynedd yn ôl! Dw i’n cymryd bod rhaid i rywun symud ymlaen weithiau… efallai bod dileu gwaith yn rhan o’r celfyddyd rhywsut. Croeso i fyd Twinfield.
Ychydig dros flwyddyn yn ôl er mwyn ennill ychydig o arian fe fues i yn gweithio i Gyngor Dinas Caerdydd – roedd o yn teimlo fel tawn i’n gwerthu fy enaid – ond dyna fo mae pawb isho byw! Rhwng y paneidiau di bendraw a’r dydd-fyfyrio fe glywais sôn am “unofficial tag-line” roedd y ddinas yn ceisio ei mabwysiadu. “Dinas y digwyddiadau”. Chware teg ‘ro’n i’n credu bod y teitl yma yn un fyddai’n ffitio i’r dim.
Wedi’r cyfan mae’r brifddinas wedi dangos i’r byd ar sawl achlysur ei fod yn lle delfrydol i gynnal digwyddiadau o bob math: Gem derfynol y Cynghrair y Pencampwyr, gemau cwpan Rygbi’r byd, Ras Fôr Volvo, gornestau bocsio, cyngherddau enfawr fel Beyonce heb son am Steddfod i’w chofio. Mae’r ddinas fel llechen gyfleus y mae modd darlunio arni a gosod pa bynnag ddigwyddiad neu firi sydd ei angen – mae’n llwyddo i dicio y bocsus cywir – ddim yn Llundain, cysylltiadau trafnidiaeth gweddol (peidiwch dechra fi ar hwn), dogn o hanes “By the way we have a castle but we’ve built over the rest; if you could just throw in a few Welsh phrases that would be wonderful. The locals love that.” A mae nhw’n gywir, da ni ddinasyddion yn dwli ar gael y digwyddiadau bondigrybwyll ‘ma, achos ei fod yn “rhoi Caerdydd ar y map” ac mae hynny i rai yn hanfodol i’w hunan werth.
Does gen i ddim llawer o wrthwynebiad i roi Caerdydd ar y map a cheisio meddiannu’r teitl “ail ddinas y Deyrnas Unedig” – mae’n braf gweld uchelgais am unwaith, ond, yn anffodus y mae’r uchelgais yma yn dod ar draul dieithrio diwylliant cynhenid. Yn ôl yr hyn dwi’n ei weld mae Caerdydd yn troi yn araf bach yn gragen i granc meudwyol gael cartref dros dro ynddi ac yn lle i ambell gwmni mawr sydd ond yn rhy barod i symud i rywle arall pan fo’r heip yn pylu. Mae’n ddinas sy’n cynnig y stop olaf i fandiau sy’n heneiddio, yn ddinas y meysydd parcio a fflatiau moethus i fyfyrwyr ac yn ddinas sydd a’i bryd ar dyfu heb gyfri’r wir gôst. Tybed a ydi Cyngor Caerdydd yn ceisio rhoi’r drol o flaen y ceffyl ac yn ceisio codi tyrrau ar sylfaeni simsan?
Mae’r cyhoeddiad cyffrous llynedd o droi’r ddinas yn grochan cerdd bellach yn ganiad ansoniarus. Ymddengys yn awr bod ceidwaid tân y crochan hwn wedi penderfynu ei adael i ddiffodd. Nid yn unig gwarchod yw gwaith Cyngor ond cynllunio a rhagweld. Mae Caerdydd fel pob dinas fyrlymus dan warchae y datblygwyr a’r buddsoddwyr. Mae gan y tirfeddiannwr ei hawliau ond mae gan y ddinas ei chymeriad a Chyngor ei chyfrifoldebau ac y mae’n atebol i’w dinasyddion. Dangoswyd bod ewyllys y bobl yn drech nag arglwyddi’r wlad pan achubwyd Stryd Womanby. A fedrir gwireddu’r gwirionedd ‘Trech gwlad nac Arglwydd’ eto. Heb os dylid gweiddi’r cwetiynnau:
A yw dileu llwyfan sy’n feithrinfa i fandiau yn ergyd i ddiwylliant y ddinas? A yw dileu cyrchfan sy’n hwb i’r gymuned Gymraeg ei hiaith yn llesol i enaid Caerdydd? A yw hygrededd y bobl a gyhoeddodd ac a fuddsoddodd arian i geisio meithrin ‘Dinas Cerdd’ yn cael ei chwalu? A’i dyma esiampl arall o’r cyngor yn hau hedyn a peidio ei ddyfrhau? Lles pwy fydd dymchwel Guildford Crescent yn y pen draw? A oes gwir angen fflatiau moethus i fyfyrwyr? A ddylai’r tirfeddiannwr sydd ai fryd ar ymgyfoethogi fwyfwy gael difetha bwrlwm cymdeithasol a cherddorol cymdeithas?
Ymddengys bod yr union bobl a ddangosodd bositifrwydd a dyhead clodwiw dro yn ôl yn awr yn ildio i’r hyn a elwir yn ddatblygiad. Eto ar yr un gwynt mae yna son am nodi’r lle fel ardal Gadwraeth. Yn aml y mae gweld gwerth yn ein hanes diweddar yn anos na gweld pwysigrwydd a gwerth adfeilion yr hen gastell gwag. Onid yw gweld ardal sy’n ein cysylltu â’r hen Gaerdydd ond sydd eto’n cael ei defnyddio’n ddyddiol ac felly’n creu hanes y presennol yn gynhyrfus a chyffrous? Ni fydd creu, na cherdd, cymuned na chymdeithas wrth godi rhagor o dyrrau fflatiau’r preswylwyr dros dro.
Heb os bydd dymchwel y stryd hynafol yn ergyd i’r diwylliant oedd yn ffrwtian. Mae’r tirfeddiannwr unwaith eto yn dymchwel yr aelwyd a’r Gwdihw yn ymddangos fel Ty Unnos! Wrth gwrs, nid awgrymu ydw i mai dyletswydd Cyngor a swyddogion, nac unrhyw gorfforaeth yw cynnal lleoliad oedd wedi ennill ei blwyf ac yn cyfrannu i gymeriad sŵn Caerdydd. Perygl hynny yw bod rheoli yn digwydd. Bod y cyfan yn cael ei ffurfioli a’i saniteiddio. Os yw’r clybiau lle gellir clywed cerddoriaeth fyw yn cau ar y raddfa bresennol, pa hawl fydd gan Caerdydd i’w galw ei hun yn Ddinas Cerdd? Pa mor haeddiannol yw’r teitl os yw un o’r lleoliadau gigio hynaf yn cael ei droi yn far chwaraeon di-enaid? Mae’r sefyllfa’n gymaint mwy na chau clybiau: symptom yw hyn o’r trywydd o homogeneiddio y mae sawl cyngor trefol yn ei dilyn. Ond fe all y symptom yma uno gwrthwynebiad ar draws sbectrwm o ddaliadau gyda’r gobaith o ddeffro mwy i weld y darlun cyflawn. Ar hyn o bryd mae’r ecosystem gerddorol – i ddefnyddio terminoleg y cwmni sydd wedi ei dalu i’w gwarchod – yn ymdebygu i baradwys ar gyfer parasites. Dinas glôn arall ac y mae’r buddsoddiad ariannol sydd wedi ei wario i warchod amrywiaeth hanfodol yr ecosystem yn ymddangos fel gwastraff llwyr.
Rhaid i’r cynor feithrin gweledigaeth a honno wedi ei gwreiddio mewn penderfyniad. Hunan-dwyll ar ran y cyngor yw’r awydd am benawdau bras heb weledigaeth bellgyrhaeddol. Gydag unrhyw ddatblygiad mae angen ystyried yr oblygiadau ar yr iaith, ac yn yr un modd dylai pob cais cynllunio rhoi ystyriaeth fanwl i’r effaith a gaiff ar ddiwylliant yn enwedig os ydi hwnnw yn ddiwylliant sydd wedi ei feithrin yn naturiol ac yn ffynnu. Codwn lais, a byddwn ochelgar o’r mewnforwyr miri, a boed i ni warchod y lleoliadau unigryw sy’n rhoi bwrlwm ac yn cynnal gwir gymeriad ein crochan cerdd.
Mae Björk newydd ddadorchuddio manylion am ei sengl newydd sbon, The Gate – sydd yn gyfle da i sôn am ei fideo yng Nghymru dros 20 mlynedd yn ôl. 🙂
Daeth Björk a’r cyfarwyddwr Michel Gondry i’r Ganllwyd, Meirionedd yn 1995 er mwyn cynnal sesiynau ffilmio fideo i’r gân Isobel (oddi ar yr albwm Post).
Ffilmiwyd y fideo yn y coedwigoedd a dyma’r canlyniad.
Gyda nos roedd Björk yn digon hapus i aros mewn pabell tu allan i westy Penmaenucha – yn ôl ysôn.
Aeth Gondry ymlaen i greu ffilmiau hudolus a thrawiadol megis Eternal Sunshine of the Spotless Mind, The Science of Sleep a Be Kind Rewind.