Yng nghanol paratoadau byrlymus gig Nadolig Mafon yng Nghrymych wythnos diwethaf, daeth i mi ennyd prin o glirder meddwl: nostalgia sydd ar fai. Mae’n hen jôc yn y Gymru freintiedig Gymraeg mai gair Cymraeg yw hiraeth, yn unigryw i’n hiaith a’n diwylliant; ni cheir gair sy’n cyfateb iddo yn y Saesneg dlawd. Ond hiraeth yw ein brwydr fwyaf. Pam arall y mae digwyddiadau fel Tryweryn yn dal i fod mor ganolog i’r ffordd y mae nifer fawr o genedlaetholwyr yn diffinio eu Cymreictod? Bu storm enfawr (ar Twitter, beth bynnag) y llynedd wedi i Iolo o Y Ffug bostio ‘Anghofiwch Tryweryn’ o gyfrif y band. Heb ystyried tarddiad y llinell cafwyd unigolion o bob oed yn rhegi a bloeddio mai amharch llwyr oedd y datganiad. Ai’r rhamant ynghlwm a’r symudiad yn y 60au sydd ar fai? Ai ni’r Cymry sydd wedi bod o dan orthwm ac wedi brwydro mor hir hyd nes ein bod ond yn gallu cymryd ysbrydoliaeth o’r trychinebau diwylliannol? Wedi’r cyfan, anaml iawn y sonir am lwyddiannau’r symudiad iaith Gymraeg ond am brotest symbolaidd Pont Trefechan (a doniol oedd gweld dicter nifer o Gymry nad oedd cynhyrchiad y Theatr Gen o’r digwyddiad yn ddigon nostalgic iddyn nhw). Efallai mai angen cyffredinol sydd ar Gymry i fod yn hyderus yn ein diwylliant yn lle defnyddio grym diwylliannau arall fel esgus dros fethu. Ond dadl arall yw honno. Yr eiliad o glirder meddwl i mi oedd mai nostalgia sy’n gyrru sîn roc Cymru ers y 60au a’r 70au chwyldroadol hynny. Mae bron pob symudiad ers hynny wedi bod yn ymgais i ail-fyw cyfnod Edward H a Neuadd Blaendyffryn.
Meddwl oeddwn i ar y pryd am yr oedolion ifanc nad oedd yn y gig; pobl tua’r un oed a mi, rhai ychydig yn hŷn; a nifer o rheini ddim yn dod gan nad oedd bandiau yr oedden nhw’n eu hadnabod ers eu dyddiau ysgol (llynedd, Mattoidz oedd yn chwarae). Dwi’n hoff iawn o Mattoidz, ond sîn gerddoriaeth, a diwylliant yn gyffredinol yw’r hyn sy’n digwydd yn awr, ar yr eiliad hon. Y pedwar band ifanc yn chwarae i 400 o bobl y noson honno oedd y sîn a nhw oedd y diwylliant. Nhw sy’n byw’r Gymru fodern; yn palu trwyddi, yn siarad amdani, yn ei llusgo ymlaen gyda nhw. Ond nid yma y mae pobl eisiau. Mae llawer o Gymry eisiau i’w diwylliant Cymreig nhw aros lle y mae, fel novelty bach hyfryd iddyn nhw ei fwynhau pan mae nhw adref o Gaerdydd dros y Nadolig. Dwi’n cofio sefyll ar ymylon protest Cymdeithas yr Iaith ar Bont Trefechan ym mis Chwefror yn gwrando ar rhywun (ymddiheiriadau, gwn i ddim bwy) yn datgan mae eisiau i’w hardal HI aros yn Gymraeg oedd hi. Dyna pam oedd hi yn y brotest. Eisiau cadw ei hardal fach hi yr union fel yr oedd pan adawodd hi am y coleg. Pa ots am bawb arall. A dyma yw problem y sîn mewn nifer o lefydd, yn enwedig mewn ardaloedd mwy gwledig, lle mae nifer yn dianc i ffwrdd beth bynnag. Mae’n braf cael mynd yn ôl yno i fwynhau’r ‘diwylliant traddodiadol’ ond dydyn nhw methu aros i fynd nôl i’w dinasoedd mawr am ychydig o ddiwylliant go iawn.
Dyma pam yr oedd 5000 (3000-8000 yn dibynnu ar y ffynhonnell) yn gwylio Edward H Dafis yn yr Eisteddfod fis Awst. Wrth gwrs, mae gan bawb hawl i edmygu eu caneuon, ond peidiwch ag esgus fod eu cerddoriaeth yn berthnasol yn awr na’u bod nhw erioed wedi bod yn offerynwyr na chyfansoddwyr arbennig o safonol. Yna oherwydd yr hiraeth oedd nifer fawr; a’r peth trist yw bod nifer o’r rhai hyn wedi pasio’r hiraeth ymlaen i’w plant. Dyna lle ‘roedd bandiau ag artistiaid ym Maes B yn chwarae i gynulleidfa o wyth o bobl, a’n pobl ifanc – achubwyr yr iaith – yn gwylio hen ddyn yn canu o gopi. Petai’r digwyddiad yn un ynysig mewn sîn fywiog, hunan-gynhaoliol, buasai’n ddigwyddiad positif, ond mae gweld cynifer o bobl ifanc, a thrwch diwylliant iaith Gymraeg Cymru yn pentyru i ail-fyw gorffennol na fu, yn dorcalonnus. Pa ots os yw gigiau y dyddiau yma’n debyg i gigiau’r 70au? Dyw technoleg ddim yr un peth, dyw ein cyfryngau ddim yr un peth, a dyw pobl ifanc yn sicr ddim yr un peth. Mae’n hen bryd i’r hen ffordd Gymreig o weld ein diwylliant i newid.
Ar ben arall y sbectrwm mae bandiau ifanc, di-brofiad sy’n ysu i gael eu caneuon wedi eu clywed. Roedd yn ddiddorol i mi ddechrau sgwrsio gydag ambell i fand dros Twitter yn ddiweddar am effaith y cyfryngau ar y sîn Gymraeg, a darganfod bod nifer ohonynt yn cwyno am nad oeddent yn cael sylw ar Radio Cymru. Eto, mae ein diwylliant Cymraeg wedi mynnu mai Radio Cymru YW diwylliant; mai yma yn unig y mae’r pethau da yn digwydd; yma yn unig y cewch glod sydd werth unrhywbeth; yma y mae pob band gwerth ei halen yn cyrraedd. Rôl gorsaf radio mewn diwylliant bychan yw i ddarlunio diwylliant i gynulleidfa ehagach. Nid eu rol nhw yw i greu a hyrwyddo’r gerddoriaeth, ond yn hytrach, i ddefnyddio digwyddiadau fel dechreubwynt i’w gwaith. Gellir dadlau a ydynt yn gwneud hyn yn effeithiol ai peidio, ond cefais fraw clywed y bandiau ifanc yma’n cwyno nad oeddent ar y radio. Yn amlwg, mae angen dechreubwynt, ac mae gigiau’n cael eu cynnal dros Gymru (yn achlysurol), ond os mai llafur cariad yw eu cerddoriaeth, dylai chwarae i gynulleidfa ddim bod yn broblem. O safbwynt trefnydd gigiau, dwi’n teimlo mai arna i y mae’r cyfrifoldeb i gynnwys bandiau ifanc, addawol ar y line-up yn hytrach na swyddogaeth gorsaf radio. Yr hyn sy’n ofid ydy nad ydy Radio Cymru na rhai o gyfryngau arall amlwg Cymru wastad yn gwrando ar yr hyn sydd yn digwydd ar y gwaelod. Yn amlwg, y gigiau sy’n dod yn gyntaf ac airplay wedi hynny gyda nifer o gamau yn y canol, ac ar adegau, mae’n rhaid i fandiau ac artistiaid aberthu rhywfaint i gael y gigiau cynnar ac i roi eu sŵn eu hunain allan i’w glywed. Mae’n help os oes gyda nhw sŵn unigryw y mae pobl yn awchu i’w glywed. Rôl Radio Cymru, cwmnïau teledu a’r wasg yw i gofnodi’r digwyddiadau diwylliannol yma. I gynulleidfa ehangach, mae’n weithred holl-bwysig ond yn cael ei anghofio’n rhy aml.
Ta waeth, y noson honno roedd pedwar band go ifanc yn chwarae mewn pentref go fach mewn sir go amherthnasol i neuadd llawn o bobl ifanc nad sy’n rhan o’r brif ffrwd Gymreig gan amlaf. Yma mae diwylliant. Yma mae’r Gymru fodern. Anghofiwch Dryweryn, anghofiwch Edward H, Ni Yw yr Haul.