Ffred Ffransis: “obsesiwn Brecsit yn hybu meddylfryd Prydeinig ymhlith ein pobl”

Dwi ddim yn meddwl fod fawr neb yng Nghymru wedi sylwi ar wir arwyddocad Brexit a’i effaith andwyol ar Gymru.

Mae llawer yn gwrthwynebu nad yw Plaid Cymru’n gwrthwynebu Brexit ddigon yn y gêm gyfansoddiadol bresennol. Does gen i ddim llawer o gydymdeimlad â’r dadleuon hyn.

1. Anodd codi brwdfrydedd dros Undeb Ewropeaidd y mae ei holl raison d’etre dros hwyluso corfforaethau i symud cyflaf a phobloed ddros ffiniau i ble bynnag y bydd yr elw mwyaf gan chwalu cymunedau yn y broses ac atal cymorth cyhoeddus i ddiwydiannau sy’n cynnal cymunedau.

2. Dwi ddim yn hoff o’r “chwarae gwleidyddiaeth” gan roi’r argraff fod tebygolrwydd y byddai pleidleisiau pleidwyr yn debyg o atal y broses. Os diogwydd bod mai dyna’r rhifyddeg seneddol yn y pen draw, wrth gwrs defnyddied y grym hwnnw (am y rheswm rodda’i isod) ond peidied â rhoi’r argraff mai dyna’r senario tebygol.

3. Isiw i’r Brits yw hwn, ac mae’r grym gyda nhw i dynnu lawr y gwledydd Celtaidd efo nhw. Ond y broblem Gymreig yw fod Lloegr yn rheoli tynged Cymru a’r Alban (tu fewn neu du allan i’r UE). Mater i’r Brits yw eu perthynas nhw â’r UE, isiw gwleidyddol yr ydyn ni’n cymryd rhan ynddo fel “honorary Brits”. Mae’r obsesiwn Brecsit (ar y ddwy ochr) yn hybu meddylfryd Prydeinig ymhlith ein pobl – trafod Ewrop, mewnfudo, popeth o safbwynt Prydain, nid Cymru.

4. Dwin meddwl fod y Cymry sy’n treulio eu holl egni ers sbel ar y mater prydeinig hwn yn ddi-ofal iawn am eu hagwedd at refferendwm arall. Dwin gwrthwynebu fod Cymry wedi pleileisio gyda’r “pyblic-sgŵl-twits” a thygs adain dde i ymadael â’r UE, dwi hefyd yn gwrthwynebu eu bod yn pleidleisio dro ar ol tro dros bleidiau sydd am i Lundain reoli Cymru. Ond dyna’r realiti. Y prif obaith dros ryddid i Gymru yw sicrhau fod cymunedau tlawd dosbarth gweithiol nad sydd â budd yn y drefn bresennol yn gweld y byddai Cymru Rydd yn gweld mwy o werth ynddyn nhw. Roedd eu pleidlais yn erbyn UE ynbleidlais yn erbyn yr holl ddosbarth gwleidyddol sydd wedi eu gadael i lawr. Os am ennill eu hymddiried, go brin ei bod yn syniad da i genedlaetholwyr ddynwared y dosbarth gwleidyddol status quo a dweud wrthynt eu bod nhw yn eu typdra wedi pleidleisio’r ffordd rong. Canlyniad hynny fyddai eu gyrru’n fwy byth i ddwylo Brits asgell dde fel eu hunig ddull o brotest.

5. Bydd Cymru’n colli llawer o gyllid a chyfleon o ganlyniad i BRECSIT gan fod polisiau rhanbarthol cadarn gan yr UE (i geisio unioni’r niwed yr oedd ei phrif weithgarwch o ganoli grym yn ei achosi!). Dwin gweld hwn yn gyfle i’r mudiad cenedlaethol hyrwyddo protest Cymreig mawr wedyn yn erbyn llywodraeth Llundain – brwydr Gymreig nid brwydr Brits – am fradychu Cymru eto a oheidio â thalu’r arian yn ol yr oedd yr UE yn ei wneud. Gwthio’r frwydr yna hyd at weithredu uniongyrchol.

OND – y mae problem o edrych mlaen, problem nad sy’n derbyn sylw. Pan ddaw Brecsit, bydd rhwystr ychwanegol difrifol i’r frwydr dros annibyniaeth i Gymru. Daw mwy o rym i’r hen ddadl (oedd yn ffug ar y pryd fel mae benelux yn dangos) y byddai pob math o rwystrau ar y ffin (cannoedd o ffyrdd bach) sy’n cysylltu Cymru a Lloegr. Er mwyn osgoi hyn, byddai’n rhaid wrth flynyddoedd o brecsit-steil drafodaethau a Lloegr yn llawer mwy o rym na Chymru. Byddai ein pobl mor ffed-yp â’r holl drafodaethau presennol fel na fydden nhw isie wynebu sefyllfa fel yna eto. Gall Brecsit ychwanegu rhwystr enfawr i’r frwydr dros annibyniaeth i Gymru. Am y rheswm yna, dwin mawr obeithio na ddaw brecsit ac y bydd pleidleisio yn ei erbyn. Ond rhaid stopio dweud clwydde wrth ein pobl am ein gallu i’w atal, a rhaid wrth ymgyrch wedyn yn erbyn Llundain sy mor fawr fel y gall oresgyn y broblem ychwanegol y bydd brecsit yn ei achosi.

Ailgyhoeddwyd y darn yma trwy ganiatâd Ffred Ffransis, a gyhoeddodd ar ei broffil Facebook yn wreiddiol.

Felindre a’r cwestiwn cenedlaethol

Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre

Ar gyrion rhanbarth Sir Abertawe mae pentref Felindre. Fe’i henwyd ar ôl melin ddŵr sydd yn sefyll o hyd ar sgwâr canolog y pentref. Yno hefyd mae’r pethau y disgwylir eu gweld mewn pentref gwledig yng Nghymru – tafarn, capel a’i aelodaeth yn gwywo, ac ysgol. Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre. Ysgol gymunedol, fach yw hi. Roedd rhyw 30 o blant yn mynychu pan oeddwn i’n blentyn, ac mae’r niferoedd wedi amrywio dros y blynyddoedd, gan godi a gostwng.

Rwy’n meddwl bod mynychu’r ysgol honno wedi cael effaith fawr ar sut rwy’n gweld Cymru. Roedd yn feicrocosm o’r amlddiwylliannedd cynnil sydd yn bodoli oddi fewn i boblogaeth ein gwlad. Dydw i ddim yn sôn am hil na chrefydd – roedden ni i gyd yn blant bach gwyn â thraddodiad Cristnogol yn ein teuluoedd – ond yn hytrach sôn am ein cefndiroedd ydw i. Roedd plant ffermwyr, plant breintiedig doctoriaid Saesneg, plant o gefndiroedd difreintiedig, a phlant dosbarth canol Cymraeg fel minnau i gyd yn cydfodoli o fewn y paradocs o ysgol yma oedd yn wledig a Chymraeg a chymunedol, er mai dim ond 6 milltir o ganolfan ddinesig a gweddol Seisnig Abertawe ydoedd.

Yr hyn sy’n fy mhoeni i, a’r rheswm pam y mae’n bwysig sôn am Felindre ar hyn o bryd, yw nad oes cartref i’r paradocs hwn o fewn naratifau presennol y Mudiad Cenedlaethol. Nid yw’n gorwedd yn gysurus o fewn unrhyw esboniad o ‘Arfor’ rydw i wedi dod ar ei draws, nac ychwaith yn medru cael ei gynnwys yn rhan o’r dadeni diweddar o genedlaetholdeb ymhlith cymoedd ôl-ddiwydiannol Cymru. Rwy’n tybio mai’r rheswm am hyn yw parhad, gan y ddwy garfan, o duedd i weld ei gilydd fel rhywbeth ‘arall’. Mae’r naill a’r llall yn arddel ei gilydd fel ‘dosbarth gweithiol di-Gymraeg y de’ a ‘North Wales Welsh Speakers’. Ond nid ydynt yn cydnabod hunaniaeth dosbarth ac iaith pobl nad ydynt yn cwympo i’r categorïau hyn, fel rhai o fy hen ffrindiau ysgol – dosbarth gweithiol naturiol Gymraeg De Cymru.

Mae Felindre’n cael ei cholli ymysg y diffiniadau deuol hyn o ddiwylliannau Cymru. Nid dim ond Felindre ychwaith, ond cymunedau eraill Cymraeg tebyg, fel Brynaman, Alltwen, Y Tymbl, Y Bynie, Pontsenni, Yr Hendy i enwi ond rhai. Mae’r rhain yn gymunedau sy’n bodoli rhwng hegemoni clir ‘Arfor’ a ‘The Valleys’. Nid yw profiadau’r cymunedau hyn yn medru cael eu categoreiddio’n dwt ac yn deidi. A chyhyd â bod pobl yn parhau â’r ffurfiau gor-syml hyn o ddisgrifio Cymru, bydd cymunedau tebyg yn cael eu gadael ar ôl.

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre nawr o dan fygythiad o gael ei chau. Byddai hyn yn fwy na diwedd ar ysgol, mi fyddai’n ddiwedd ar gymuned Gymraeg, gynhenid na ddylid, yn ôl y ffordd y mae rhai pobl yn meddwl am Gymru, fodoli. A chan mai dyma’r disgwrs sy’n amgylchynu cenedlaetholdeb Gymraeg ar hyn o bryd, nid yw’n bodoli, i bob pwrpas. O fy rhan i, rwyf am sicrhau nad yw sylfaen fy addysg yn Ysgol Felindre yn cael ei anwybyddu na’i anghofio.

Gadewch sylw isod os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r ymgyrch.

Nid yw senoffobia yn erbyn Cymry’n arbennig

Yn ddiweddar, ysgrifennwyd pethau cas am Gymru a’r Cymry gan y gŵr hwb ddychymyg hwnnw, Rod Liddle, yn dudalennau’r Sunday Times. Roedd hyn mewn ymateb i’r stŵr mawr (sy’n parhau) wedi’r newyddion bod bwriad i ail-enwi un o bontydd Hafren yn ‘Bont Tywysog Cymru’. Yn amlwg, roedd ymateb enfawr yn erbyn beth ysgrifennodd Liddle, gan fod hynny a ysgrifennwyd yn annerbyniol, yn bitw ac yn sarhaus.

Ond wrth i o leiaf dwsinau o bobol cymryd at Twitter, Facebook a mannau eraill i ddatgan eu dicter, roedd rhyw elfen anghyfforddus iawn yn amlwg yn nifer o’r sylwadau. Roedd rhyw syniad wedi dod i’r brig taw rhagfarn gwrth-Gymraeg yw’r ‘hiliaeth dderbyniol olaf’. Wrth drydar, mewn sylwadau Facebook a hyd yn oed erthyglau, roedd rhai Cymry yn mynd ati i honni bod y ffasiwn sarhau a senoffobia ddim yn digwydd i genhedloedd, pobloedd, hilioedd neu wledydd eraill. Roedd cynnig bod sylwadau o’r math hynny ddim yn cael eu printio, neu’n annerbyniol yn gymdeithasol, neu hyd yn oed yn anghyfreithlon.

Mae hyn yn hollol anghywir. Mae Liddle, fel un enghraifft, wedi gwneud gyrfa hir, allan o fod yn rhagfarnllyd ac yn hiliol. Mae o’n cyhoeddi’r fath sylwadau, mae pobol yn eu prynu ac yn cytuno gyda nhw, a – syndod – nid yw Liddle erioed wedi’i garcharu. Mae’r syniad yma, bod ni’n cael ein herlyn yn benodol ac yn arbennig, mor bell o’r gwirionedd mae’n ymddangos fel bod pobol sy’n credu hyn felly’n hollol anymwybodol o faterion hiliaeth a senoffobia os nad yw’n ymwneud â nhw’n uniongyrchol.

Gan ystyried pethau eraill sydd wedi digwydd yn ddiweddar yn y wasg Brydeinig – hiliaeth Quentin Letts yn ei adolygiad o gynhyrchiad y RSC o The Fantastic Follies of Mrs Rich, fel un enghraifft, neu ymosodiad afiach Guy Adams ar yr academydd Priyamvada Gopal – mae’n anodd gweld sut yn union gallwn ni synnu wrth weld barn gwrth-Gymraeg yn cael ei gyhoeddi hefyd. Pan mae dynes Sbaeneg yn cael ei ymosod arni ar drafnidiaeth gyhoeddus yn Llundain ac wrth i Lywodraeth Prydain mynd ati i alltudio aelodau’r genhedlaeth Windrush, na, nid dyn diflas yn gwneud hwyl am ddiffyg llafariaid yw’r hiliaeth dderbyniol olaf.

Os hoffwn ni weld sylwadau gwrth-Gymraeg yn cael eu cymryd o ddifri mae’n rhaid i ni wneud yn well gyda’n dicter. Os yr unig amser rydyn ni’n sylwi ar bobol fel Liddle ydi pan maen nhw’n ymosod ar ddiwylliant neu iaith Cymru, ac nid pan mae nhw’n ymosod ar bobol ddu, neu ar Fwslemiaid, neu ar unrhyw un arall, yna mae’n dicter ni’n ddibwys ac yn fethiant.

Llun Pont Hafren gan Yummifruitbat (CC BY-SA)

Achos Carl Sargeant: Myfyrdodau am gyfrifoldeb

Yng nghanol y tristwch, y dicter a’r edifarhau, mae’n naturiol bod y trafod o amgylch hunanladdiad Carl Sargeant yn cael ei nodweddi gan y dyhead i ddeall beth ddigwyddodd a sicrhau ymateb sy’n gwneud cyfiawnder a’i fywyd – a bod rhyw ddaioni yn dilyn o’r trasiedi. Mae’n naturiol hefyd na fydd y sgyrsiau yma’n rhai hawdd, ac y bydd geiriau dig a safbwyntiau gwrthwynebus yn cael eu hamlygu.

Mewn amgylchiadau o’r fath mae’n bwysig, wrth gwrs, ceisio sicrhau nad yw’r dyheadau yma’n cael eu tanseilio gan natur y trafod, ac yn aml mae hyn yn haws i’r sawl nad sydd yn ei chanol hi. Nid syndod, efallai, mai Leanne Wood sydd wedi cynnig y sylwadau mwyaf adeiladol dros yr wythnos ddiwethaf, nid yn unig oherwydd bod ei chwmpawd moesol gyda’r un mwyaf cywir fel arfer, ond oherwydd ei bod hi’n edrych mewn o’r tu allan i raddau.

Erbyn hyn mae llawer o’r trafod – neu hapdamcaniaethu – yn ymwneud â dyfodol y Prif Weinidog Carwyn Jones. Eto mae hyn yn naturiol o dan yr amgylchiadau ac mae yna gwestiynau i’w hateb.

Un o’r elfennau mwy dyfaliadol sydd ymhlyg yn y trafod yw’r awgrym ei fod rhywsut yn gyfrifol am farwolaeth ei gyfaill; nid yw hyn wedi cael ei ddatgan fel y cyfryw ond mae rhywun yn synhwyro ei fod yn is-destun i’r ffaith ei fod dan y lach. Ac os nad dyna yw’r ensyniad, ‘does yna ddim rhyw lawer o ymdrech wedi bod i egluro hynny.

Gall trafodaeth o’r hyn rydym yn meddwl wrth ‘gyfrifoldeb’ fod o help yn y cyswllt yma. Gallwn nodi o leiaf bedwar math gwahanol o ‘gyfrifoldeb’ all fod yn berthnasol.

Y cyntaf yw cyfrifoldeb ‘canlyniad’. Mae rhywun yn gyfrifol yn yr ystyr hwn, pan fyddwn yn priodoli canlyniadau’r weithred i’r person hwnnw – mewn ffordd sy’n golygu y dylent ysgwyddo rhywfaint o’r baich o leiaf. Efallai y bydd gofyn iddynt wneud yn iawn am y niwed mewn rhyw ffordd, er enghraifft.

Oherwydd y goblygiadau posib o ran cost, rydym yn tueddu priodoli cyfrifoldeb o’r fath yng ngoleuni’r hyn y mae’n rhesymol i’w ddisgwyl gan bobl; felly pe bai angen gallu goruwchnaturiol i osgoi canlyniad o’r fath, nid ydym yn ystyried bod cyfrifoldeb ‘canlyniad’ yn berthnasol.

Fodd bynnag, nid yw cyfrifoldeb o’r fath yn lleihau neu ddiflannu oherwydd gallu cyfyngedig – dyweder bod rhywun yn anghymwys neu’n anghyson yn ei weithredoedd. Ni fyddai’r amgylchiadau yma’n osgoi cyfrifoldeb canlyniad (os ydych chi’n berson lletchwith sy’n tueddi at ddamweiniau, peidiwch â threulio eich diwrnodau mewn siopau tsiena).

Ac eto, yn y pen draw, nid yw cyfrifoldeb canlyniad yn ymwneud ag adnabod bai; yn hytrach mae’n ymwneud â chydnabod pan mae gweithredoedd rhywun wedi dod â chostau uniongyrchol, neu yn anfwriadol, mewn modd y gellid ei resymol rhagweld.

Mae cyfrifoldeb moesol yn fwy llym, gan gynnwys barn foesol ar y person dan sylw -gan osod bai arnynt – ac yn yr ystyr negyddol hwn yn awgrymu bod yna wendid neu ffaeleddau moesol pendant yn perthyn i’r person hwnnw yng nghyswllt ei weithredoedd.

Byddwn hefyd yn siarad weithiau yn nhermau’r hyn a elwir yn gyfrifoldeb ‘adfer’, lle yr ydym am adnabod pwy all fod mewn sefyllfa i unioni neu adfer cam. Weithiau mae modd adnabod y sawl sy’n foesol gyfrifol, neu sydd â chyfrifoldeb canlyniad, ond weithiau bydd y bobl hynny yn analluog i fynd i’r afael â’r mater. Mewn achos o’r fath byddwn yn ceisio adnabod y sawl sydd yn y sefyllfa gorau i weithredu – nhw fydd a chyfrifoldeb adfer.

O un persbectif, efallai y byddai rhai am awgrymu bod gennym enghraifft o gyfrifoldeb canlyniad neu gyfrifoldeb moesol yn yr achos trist yma: gweithredoedd neu gamgymeriadau y mae’n rhaid i’r Prif Weinidog ysgwyddo’r baich amdanynt. Fodd bynnag, wrth hawlio hynny byddai rhaid rhagdybio y gallai ragweld yn rhesymol ganlyniadau posibl ei weithredoedd.

Dyma le mae angen troi at y pedwerydd syniad o gyfrifoldeb sy’n berthnasol i’r amgylchiadau – sef cyfrifoldeb ‘achosol’. Mae cyfrifoldeb o’r math yma yn llawer ‘ehangach’ na chyfrifoldeb ‘canlyniad’ neu ‘foesol’ – oherwydd mae’n gyfrifoldeb sydd yn berthnasol i ganlyniadau sy’n codi mewn ffyrdd anarferol neu anrhagweladwy.

Os ydym yn taflu carreg fechan dros ochr clogwyn sy’n creu tirlithriad, efallai ein bod ni’n rhannol gyfrifol am y canlyniadau mewn ystyr achosol, ond nid ydym yn ‘ganlyniad’ neu’n ‘foesol’ gyfrifol. Nid yw’r canlyniad yn rhagweladwy neu’n awgrymu bai moesol ar ein rhan ni. Yma, efallai y byddwn yn honni bod gweithredoedd rhywun wedi achosi canlyniad penodol yn rhannol, ond ni allwn ddisgwyl iddynt ddwyn unrhyw gostau na chymryd y bai mewn ystyr moesol.

Yn anffodus, yr hyn y gallwn ei ddweud gyda sicrwydd yw bod cyfrifoldeb ‘adferol’ yn amherthnasol yn yr achos sydd ohoni. Ni allwn unioni neu adfer y sefyllfa. Ni ddaw Carl Sargeant yn ôl. Ni fydd dicter, pwyntio bys nac ymddiswyddiadau yn llwyddo yn yr ystyr yma.

Efallai mai’r gorau y gallwn ni ei wneud yw ymddwyn ac ymateb i hyn i gyd mewn ffordd sy’n parchu ei gof, ac yn ceisio sicrhau na fydd unrhyw drasiedïau pellach yn digwydd. Gall hyn cynnwys craffu ar y mesurau presennol sydd gan y Cynulliad a’r pleidiau er mwyn delio gydag achwynion.

Llun adeilad y Senedd gan Rtadams (CC BY)