Cyriak: gwaith fideo Pythonaidd/annaearol

Rhybudd: rhyfedd iawn.

Pum munud o bethau anhygoel gan gynnwys slebs o Loegr, gwaed, ceir ac anifeiliaid. Dyw e ddim mor newydd (wedi cael bron 4m ers 2006) ond efallai’r fideo mwyaf rhyfedd dw i wedi gweld erioed. Trac sain da hefyd.

Rhywbeth newydd o 2011, arddull debyg:

Mwy ar wefan Cyriak

Dechreuodd dyn o Feirionnydd y busnes recordiau yn y DU – yn 1897

Edmund Trevor Lloyd WilliamsDelwedd o Edmund Trevor Lloyd Williams o Gasteldeudraeth, Meirionnydd ydy hon.

Mae fe’n gyfrifol am yr enedigaeth a llwyddiant cynnar o’r busnes recordiau yn y DU, yn ôl yn 1897 – dechrau gyda The Gramophone Company, y cwmni tu ôl y label HMV a hwyrach, yn y pen draw, EMI.

Mae’r blog Sound Of The Hound yn dweud dechrau y stori:

The American, who was William Owen Barry, was not there to dance. He had moved across from the US to set up a new company. In fact he was seeding a new industry that did not yet exist in the UK; sound recording. He needed investors and had presumably taken rooms at the expensive Cecil in order to suggest the seriousness and potential rewards of his business proposal.

.
.
.

He was pacing up and down the room as he waited to meet a potential investor; Trevor Williams (or to give him his formal Edmund Trevor Lloyd Williams) was a Welshman from North Wales who worked as a solicitor at Lincoln’s Inn and impressed by the new technology and had a yen to invest.

But the American needn’t have worried. The Welshman had formed a syndicate to invest $5,000 to secure the European rights to the new fangled Gramophone. They shook hands on a deal and agreed to work together to establish and grow this new business. They would reconvene in the New Year to dot the i’s and cross the t’s and formalise The Gramophone Company. Possibly a glass or two were taken? Maybe a cigar smoked? And then the Welshman would have stepped outside onto the teeming Strand, back into the bustle of the city at the centre of a huge empire, at the peak of the Naughty Nineties, head spinning with the new business opportunity…

Mwy o’r stori: “A Welshman and an American went into a hotel. They came out as employees #1 and 2 of the UK recording industry” ac hefyd delweddau o’r swyddfeydd The Gramophone Company.

Roedd gyda Trev sinema yn Wandsworth, Llundain hefyd, un o’r sinemâu cyntaf, o’r enw Picture Palladium.

Sin pop Corea

Mae hwn yn eitem diddorol iawn am y diwydiant bandiau pop yn Corea yn gynnwys fideos annibynnol gan y ffans, llawer o ddawnsio egnïol, cyfeiriadau i’r “monetization” a “branding” a geiriau gyda dy hoff (EFALLAI) artist newydd G. Dragon. Nes i chwilio am rhai o’r artistiaid yma, roedden nhw yn ddifyr ond dw i ddim yn siŵr os dw i’n fodlon gwrando arnyn nhw mwy nag unwaith. Ond efallai bydd y 40,883,358 person arall sydd wedi gwylio “Gee” gan Girls’ Generation (소녀시대) ar YouTube yn anghytuno.

LLUNIAU: syniadau swrrealaidd ar gyfer rhaglenni teledu

Ces i ebost gan rywun o’r enw “S4C Newydd” heddiw:

Hawddamor gyfeillion,

Ymwelwch a: http://s4cnewydd.wordpress.com os gwelwch yn dda.

Mae dyfodol ein cenedl yn dibynnu ar safon rhaglenni S4C. Does dim amheuaeth am hyn. Ffaith ydyw. Amcan S4CNewydd yw cyflwyno syniadau newydd am raglenni newydd i’r byd sydd ohoni. I gyffwrdd eneidiau Cymry’r byd heddiw ac yfory. I lenwi’r bylchau diwylliannol. I sicrhau dyfodol i Gymru. I ni. I ti. I mi. I ni.

Ychwanegiadau pob dydd Llun a Iau.

Diolch yn fawr.

Dros Gymru,

Tîm S4CNewydd

Dim enw go iawn ond dw i’n gallu dyfalu.

Braf i weld mwy o’r swrrealaidd yn y sgwrs. Mwy ar y flog s4cnewydd.