FIDEO: Gareth Potter a Huw Stephens am #g20g “llythyr caru”


Mwy o Gareth Potter heddiw, newydd gweld cyfweliad 10 munud gyda Huw Stephens am Gadael yr Ugeinfed Ganrif, y cynhyrchiad Sherman/Dan Y Gwely. Hoffi’r wal o finyl yn y cefndir.

Mae’r sioe yn Chapter, Caerdydd wythnos yma ac ar daith ym mis Mawrth.

Gweler hefyd ar Y Twll: Darn Awst 1992 o’r sgript Gadael yr Ugeinfed Ganrif neu… POPETH GYDA POTTER AR Y TWLL!

Ffansin newydd gan Cravos a ffrindiau

Mae Cravos yn dweud:

helo! chwilio am gyfraniadau ar gyfer ffansin newydd… adolygiadau o gigs, erthyglau gwleidyddol, dwdls – yr unig rheol ydi bod cyfraniadau yn gorfod cael eu gwneud heb gyfrifiadur – hand-drawn neu teipiadur yn unig! anfonwch neges ar gyfer cyfeiriad i bostio eich stwff.

Gadawa sylw yma os ti eisiau helpu neu gofyna Cravos am y cyfeiriad a manylion eraill.

Dokkebi Q, seiniau craiddcaled a melys o Tokyo trwy Dalston

Mae Dokkebi Q yn dod o Tokyo trwy Dalston, dwyrain Llundain ac yn gynnwys aelodau Kiki Hitomi a Gorgonn. Mae Kiki yn canu yn Saesneg a Japaneg, weithiau yn yr un gân. Efallai rwyt ti wedi clywed ei waith llafur gyda Goth Trad neu King Midas Sound/The Bug eisoes.

Os ti’n cyfarwydd ar dubstep o Japan fel Goth Trad a Quarta 330 byddi di’n adnabod rhai o’r elfennau gan cynhyrchydd Gorgonn. Mae fe’n cymryd y bas a churiadau o dub(step) a dancehall ac yn cymysgu gyda seiniau arcêd a samplau. Mae Kiki yn dod gyda efallai mwy o felyster ac elfennau annisgwyliadwy na’r sain dub clasurol fel dyfyniadau hip-hop ac agwedd pioden gyffredinol.

Dw i’n methu ffeindio crynodeb well na’r enw yr albwm newydd, sef Hardcore Cherry Bon Bon.

Ffeiliau Ffansin: Llmych gyda Gareth Potter yn 1988

Ffeiliau Ffansin yw cyfres achlysurol ar Y Twll – delweddau o hen ffansins gyda pherthnasedd i heddiw.

Enw y ffansin heddiw yw Llmych. Mae Huw Prestatyn yn dweud “penderfynwyd ar yr enw reit ar ddiwedd cyfarfod hir hir Rhanbarth CyIG. Pawb yn mynd yn ffed up efo’r enw yn syth a galwyd y rhifynau canlynol yn “Chmyll”, “Mychll” etx.. nes dropio’r enw yn gyfan gwbl. “Cynhyrfu Addysgu Trefnu” oedd o tiwn rap old skool uffernol… efo rapper yn dweud “Educate Agitate Organise” ynddi, sef hen slogan undeb llafur Americanaidd.”

“Beth sydd wedi bod yn digwydd ers y rhifyn diwethaf?” meddai’r golygyddol yn rhifyn Haf 1988. Mae rhai o’r atebion yn ffurfio ein cyd-destun:

  • Peel Sessions gan y Llwybr Llaethog, Plant Bach Ofnus, Y Fflaps a Datblygu.
  • Sefydlu label Ankst yn Aberystwyth.
  • Bernard Manning yn perfformio’n Y Rhyl.
  • Fideo 9 yn dechrau.
  • Trac oddi ar y E.P. “Galwad ar holl filwyr byffalo Cymru” yn cael ei chwarae ar y South Bank Show fel rhan o raglen Ken Russell ar hanes cerddoriaeth.

Yn yr un rhifyn o Llmych oedd erthyglau am Malcolm X, Y Fflaps, Label Ofn a’r cyfweliad isod gyda Gareth Potter – gan Bronwen Miles.