Terry Waite ar Asid, Pop Negatif Wastad a Big Black

Mae Turquoise Coal newydd rhannu recordiadau o EP gasét 1988 gan Terry Waite ar Asid. Aelodau y band oedd Paul O’Brien, Bonz, Gwion Llwyd, Al Edwards, Iwan Griffiths a, fel y welwch yn y fideo, Llŷr Ifans.

Mae’r fideo yn dod o’r rhaglen S4C Y Bocs. Doedd dim lot o berfformiadau neu gyfweliadau eraill yn y cyfryngau gan oedd y band mor brofoclyd. (Pwy sy’n gallu dweud yr un peth heddiw?)

Yn yr un flwyddyn roedden nhw ar flexidisc 7″ 2-trac gan gynnwys trac arall gan Ffa Coffi Pawb.

Y tiwn mwyaf diddorol ar yr EP yw’r trac lle mae Llŷr yn beirniadu Dechrau Canu Dechrau Canmol, Clwb Ifor Bach a phlant dosbarth canol dinesig Caerdydd. Mae’r tiwn yn seiliedig ar fersiwn Big Black o The Model, y gân gan Kraftwerk yn wreiddiol.

Pa mor boblogaidd oedd Big Black fel dylanwad ar bandiau Cymraeg yn yr 80au achos mae fersiwn o Kerosene gan Pop Negatif Wastad hefyd? Cafodd Pop Negatif Wastad EP ei rhyddhau yn 1989.

Mae rhagor o wybodaeth am Terry Waite ar Asid ar curiad.org ac mae modd lawrlwytho’r EP ar MP3 ar gofnod Turquoise Coal (neu Soundcloud).

Ffeiliau Ffansin: Llmych gyda Gareth Potter yn 1988

Ffeiliau Ffansin yw cyfres achlysurol ar Y Twll – delweddau o hen ffansins gyda pherthnasedd i heddiw.

Enw y ffansin heddiw yw Llmych. Mae Huw Prestatyn yn dweud “penderfynwyd ar yr enw reit ar ddiwedd cyfarfod hir hir Rhanbarth CyIG. Pawb yn mynd yn ffed up efo’r enw yn syth a galwyd y rhifynau canlynol yn “Chmyll”, “Mychll” etx.. nes dropio’r enw yn gyfan gwbl. “Cynhyrfu Addysgu Trefnu” oedd o tiwn rap old skool uffernol… efo rapper yn dweud “Educate Agitate Organise” ynddi, sef hen slogan undeb llafur Americanaidd.”

“Beth sydd wedi bod yn digwydd ers y rhifyn diwethaf?” meddai’r golygyddol yn rhifyn Haf 1988. Mae rhai o’r atebion yn ffurfio ein cyd-destun:

  • Peel Sessions gan y Llwybr Llaethog, Plant Bach Ofnus, Y Fflaps a Datblygu.
  • Sefydlu label Ankst yn Aberystwyth.
  • Bernard Manning yn perfformio’n Y Rhyl.
  • Fideo 9 yn dechrau.
  • Trac oddi ar y E.P. “Galwad ar holl filwyr byffalo Cymru” yn cael ei chwarae ar y South Bank Show fel rhan o raglen Ken Russell ar hanes cerddoriaeth.

Yn yr un rhifyn o Llmych oedd erthyglau am Malcolm X, Y Fflaps, Label Ofn a’r cyfweliad isod gyda Gareth Potter – gan Bronwen Miles.