Paul McCartney – pump can gorau am y clwb

Paul McCartneyMae gyda fi perthynas arbennig gyda Paul McCartney.

Dw i ddim yn wrando am yr albymau llawn.

Ond dw i’n hapus iawn pan fi’n chwarae tlysau bach – unrhyw beth yn ei canon fe sydd dan y categori Nice Little Groovers neu guff Balearig yn enwedig.

Wrth gwrs mae fe’n lot o hwyl i chwarae recordiau fe yn y clwb pan mae pobol yn gwenu a gofyn “beth yw HWN?”.

Dyma fy cofrestr o ganeuon fi’n hoffi DJo.


1. Wings – Let ‘Em In
Ro’n i wastad meddwl bod e’n canu am gyfartaledd yma ond mae Wikipedia yn siarad am ei deulu a ffrindiau. Beth bynnag mae gyda Wings curiad ffynclyd yma. Mae’n swnio’n briodol rhwng caneuon hip-hop canol-thempo fel Showbiz & AG neu ODB. Mae gyda fi’r albwm finyl, sengl 7″ a fersiwn byw ar albwm arall. Mae fersiwn dyb hir answyddogol ar gael.


2. Paul McCartney – Temporary Secretary
Mae’r peth yma yn swnio fel Drexciya neu rhywbeth o techno/electro Detroit! Gyda llais cawslyd a geiriau sy’n swnio’n eitha amheus. Mae’r sengl 12″ yn amhosib i ffeindio, prynais i’r albwm am 50c yn y marchnad Bessemer Road, Treganna, Caerdydd. YCHWANEGOL: Secret Friend ochr B o’r sengl 12″, prin iawn, ac y diffiniad guff Balearig.


3. Paul McCartney – Check My Machine
Creuodd Macca y groover canol-thempo yma fel prawf gyda pheiriant newydd. Mae’r can ar gael ar yr ochr B o Waterfalls 7″. Mae Huw Evans yn caru’r can hon.


4. Paul McCartney a Wings – Goodnight Tonight
Yn y 70au hwyr ac 80au gynnar, roedd disco yn dylanwadol iawn. David Bowie, Talking Heads, Rod Stewart, Rolling Stones, Caryl Parry Jones, roedd pawb yn creu disco ar y pryd. Mae Goodnight Tonight yn bodoli ar y llinell aur/caws. Rhaid i ti caru’r bas yma a lliadau gitar. Efallai dylai DJs chwarae e ar diwedd y nos (beth yn y byd allet ti chwarae nesaf?).


5. Wings – Silly Love Songs
Ac eto. Silly Love Songs oedd y daith cyntaf Macca i mewn disco. Mae’r gan yn bodoli ar y llinell sbwriel/gwerthfawr. Pa ochr? Paid a phoeni, jyst dawnsio a gofyna wedyn. Mae Macca wedi ateb dy ymholiadau yn yr eiriau beth bynnag. Dw i wedi clywed ail-golygiad answyddogol gan DJ rhywle.

Dyma fi, fy hoff caneuon Paul McCartney am y clwb. Dw i wedi osgoi pethau amlwg fel Band On The Run achos dw i eisiau rhoi focws ar ei gwaith i DJs ym mhob man. Diolch Macca, ymddiheuriadau wnes i colli dy gig yn y Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd mis diwetha. Mae dal gyda fi dy finyls.

IAWN, UN ARALL: Let Me Roll It gan Paul McCartney a Wings

RIP Rammellzee, arloeswr hip-hop

Bu farw Rammellzee (neu RAMMΣLLZΣΣ) yn Far Rockaway, Queens, Efrog Newydd wythnos yma.

Oedd e’n rhan bwysig o’r sin hip-hop (y sin gynnar yr 80au yn enwedig) fel cerddor ac artist graffiti. Mae’r fideo yn dangos e ar y llwyfan yn rapio yn y ffilm Wild Style.

Mae fe’n enwog am y can Beat Bop o 1983 gyda K-Rob. Mae cefnogwyr hip-hop yn galw’r record 12″ y holy grail o recordiau hip-hop achos mae pobol yn fodlon talu prisiau gwallgof amdano fe. Mae pob copi yn dod gyda chlawr sydd wedi cael ei pheintio gan Jean Michel-Basquiat.

Adolygiad albwm Gruff Rhys v Tony Da Gatorra – The Terror Of Cosmic Loneliness

Mae Gruff Rhys wedi cydweithio â nifer o artistiaid gwahanol yn ystod ei yrfa gerddorol, megis y band post-rock Albanaidd Mogwai ar y trac anferthol Dial:Revenge, a gyda Bryan Hollon/Boom Bip ar y trac gwych Do’s And Don’ts ag albym difyr Neon Neon Stainless Style a enwebwyd am y Wobr Mercury.

Cydweithiad â cherddor unigryw o Frasil, Tony Da Gatorra, yw’r albwm newydd hon. Mae Gatorra wedi dyfeisio teclyn gitâr/peiriant drwm lloerig o’r enw y ‘Gatorra’, ac mae’r ddau wedi creu casgliad o ganeuon yma sydd heb os yn cynrychioli gwaith mwya out there Gruff Rhys.

Mai rhai wedi disgrifio’r record hon fel electronica, ond er bod peiriant drwm y Gatorra a chydig o synau electroneg eu naws i’w clywed yn y cefndir, mae nhw’n cael eu boddi rhan fwya o’r amser gan ton ar ôl ton o gitars swnllyd, wyrgamus sy’n rhoi teimlad bowld ac arbrofol i’r gwaith. Yn wir, mae’r trac agoriadol ‘O Que Tu Tem’ yn swnio mwy fel synth-pync y band Suicide o Efrog Newydd, neu synau diwydiannol Cabaret Voltaire. Mae Da Gatorra yn swnio’n dywyll a brawychus: dau air Portiwgaleg o’n i’n medru deallt oedd ‘capitalista’ a ‘mercenarios’.

Na, tydi’r albym hon ddim yn hawdd gwrando arno ar y cyfan (heblaw efallai ar un neu ddau o’r tracs ble mae Gruff yn canu ac mae pethau’n nesáu at pop/harmoni). Ond mae yn record uffernol o ddifyrrus, yn llawn hwyl a rhyddid sonig – weithiau’n swnio fel Bill a Ted yn jamio yn eu garej, ac ar adegau eraill yn fy atgoffa o vibe chwareus The Whitey Album gan Sonic Youth. Dydi The Terror Of Cosmic Loneliness ddim yn mynd i apelio i holl ffans Gruff Rhys a’r Super Furry Animals, ond efallai dyna’r pwynt – gwneud rhywbeth hollol gwahanol ac annisgwyl.