Mae’r Twll yn dathlu degawd o Mwng gan Super Furry Animals

Mwynha’r fideo Drygioni hwn gan cefnogwr.

Mae’r Twll yn dathlu 10 mlynedd ers yr albwm Mwng gan Super Furry Animals yn 2000. Mae’r albym yn cynnwys y caneuon Drygioni, Ysbeidiau Heulog (yr unig sengl), Y Teimlad (fersiwn o’r can gan Datblygu) a Gwreiddiau Dwfn / Mawrth Oer ar y Blaned Neifion (fy hoff personol). Naeth y band rhyddhau yr albwm ar eu label eu hun Placid Casual.

Mae’n anodd iawn i brynu’r albwm ar CD neu prynu lawrlwyth yn 2010. (Ti’n gallu trio Sadrwn efallai.) Dw i wedi gofyn aelod o’r band os maen nhw yn gallu  ail-rhyddhad. Gobeithio bydd y sefyllfa yn newid cyn hir!

ATEB GAN Y “FFYNHONNELL” SUPER FURRY ANIMALS: “Diolch i ti Carl, Am trio cael rhywbeth allan cyn diwedd y flwyddyn .”
“tan tro nesa!”

Radio Amgen, cyfweliad gyda Steffan Cravos

Mae’n annodd coelio fod yr orsaf weradio Radio Amgen wedi bod yn mynd ers bron i ddegawd erbyn hyn. Mae’r orsaf wedi darlledu dros 170 o sioeau ers 2001 – micsys o gerddoriaeth tanddaearol newydd gyda’r pwyslais ar hip hop, electroneg, drwm a bas, bwtlegs, tecno, swn a dyb. Mae pob un o’r sioeau hyn dal ar gael i wrando a lawrlwytho o radioamgen.com – ewch i’r archif am y rhestr llawn.

Dros y blynyddoedd mae Radio Amgen wedi datblygu a tyfu yn araf bach a heb ffwdan i fod yn drysor cenedlaethol (ymddiheuriadau i Stephen Fry). Mae bodolaeth parhaol yr orsaf yn arbennig o bwysig nid yn unig yng nghyd destun tirlun cerddorol ‘mainstream’ Cymru, ond hefyd y  ‘Sîn Roc Gymraeg’, byd mewnblyg lle mae bandiau ffync gwael yn gael eu cysidro yn ‘alternative’ a ‘edgy’. Heb swnio fel ormod o hipi, mae gwir angen presenoldeb fel Radio Amgen i herio’r sefydliadau hyn – mae bodolaeth yr orsaf yn cyfrannu’n enfawr tuag at amrywiaeth a iechyd ein diwylliant cerddorol.

Y dyn tu ol i Radio Amgen yw Steffan Cravos – yr un person a fu’n gyfrifol am chwyldroi/dyfeisio cerddoriaeth hip hop Cymraeg ar droad y ganrif gyda’r Tystion.  Sioe gynta’r orsaf oedd mics gan DJ Lambchop (aka Cravos), a’r trac gynta un ar y sioe honno oedd y clasur tanddaearol Cymreig “Dwi’n Licio Dafydd Iwan” gan Gwallt Mawr Penri (aka Dyl Mei).

Sut ddechreuodd yr orsaf?

Steffan Cravos: O ni’n rhedeg label o’r enw Fitamin Un ar y pryd ond doedd dim digon a arian da fi i rhyddau’r holl traciau oedd yn cael eu hanfon atai. Oedd Johnny R wedi cychwyn yr orsaf radio Cymraeg gyntaf ar y we cwpwl o flynyddoedd yn gynt (Radio D – gweler DVD Ankst ‘Crymi No.1′ am raglen ddogfen fer) a nath hwnna ysbrydoli fi i gychwyn Radio Amgen. Oedd e’n ffordd gwych o rhoi platfform i deunydd newydd yn gyflym ac ar lefel rhyngwladol. Outlet oedd Radio Amgen ar gyfer cerddoriaeth tanddaearol doedd ddim yn cael ei chwarae ar Radio Cymru.

Sut ddyliwn ni disgirifio RA? Radio we? Weradio? Gweradio?

Radio rhydd annibynnol ag onest.

Dros y blynyddoedd mae’r orsaf wedi pledu allan nifer fawr o sioeau o fewn amser byr, a wedyn wedi cymryd saib am wythnosau neu fisoedd, neu blynyddoedd maith.

Da ni yn ein pedwerydd cyfnod ond dros y blynyddoedd mae Radio Amgen wedi cymryd seibiant am wahanol rhesymau – diffyg amser, diffyg adnoddau, gan fwyaf. Ar y foment da ni’n rhoi sioe allan bob yn ail ddydd(ish) ac yn derbyn dros 6,000 ergyd y mis.

Pam nad yw sefydliadau fel y Cyngor Celfyddydau ayb yn cefnogi’r orsaf?

Dwi ddim eisiau pres gan y CCC. Well bod yn annibynnol.

Mae na elfen politicaidd gref i’r orsaf.

Dwi wedi bod yn ymwneud a gwleidyddiaeth radical ers i fi fod yn fy arddegau, felly mae’n siwr bod hwnna yn dod drosodd weithiau yn y sioeau, yn enwedig y rhai dwi’n greu. Dwi’n teimlo hefyd fod y cyfryngau Cymraeg yn llawer rhy geidwadol o rhan allbwn, felly ma angen platfform ar gyfer cerddoriaeth heriol a syniadau radical.

Fy hoff enw ar gyfer DJ gwadd yw ‘Athro Diflas Ffwc’ – neu efallai ‘DJ Dai Trotsky’.

Athro Diflas oedd enw gwreiddiol Y Lladron. DJ Dai Trotski, ie fi oedd hwnna!

Mae Huw Stephens, ac eraill ar adegau, yn chwarae cerddoriaeth ‘tanddaearol’ ar Radio Cymru erbyn hyn. Ydi pethau wedi gwella?

Mae angen mwy. Pam ddim cael DJs i mewn a chwarae drwy’r nos (DJs go iawn hyny yw, nid radio DJs) – jyst miwsig, dim malu cachu!

Weithiau mae’n teimlo mai Radio Amgen yw’r unig allbwn ar gyfer cerddoriaeth ‘gwahanol’ o Gymru. Be fysa’n digwydd i tirlun cerddorol Cymru petai’r orsaf yn dod i ben?

Se ni’n gobeithio fase rhywun arall yn cychwyn rhywbeth tebyg… ond mae Radio Amgen yn mynd trwy gyfnodau o ddim gweithgaredd. da ni yn ein 4ydd neu 5ed cyfnod ar y foment. Da ni’n rhoi sioeau allan bob yn ail ddydd, ond wrth rheswm, nid cerddoriaeth o Gymru neu Gymraeg ydi ein darpariaeth, achos does dim digon ohono fe i gael. Fase ni’n dwli rhoi sioe dyb step Cymraeg allan – ond lle ma’r tracs? Does dim! Ma dyb step gyda ni ers 2004 fel genre newydd, ond neb yn ei gynhyrchu yn y ‘sîn gymraeg’

Oes rhaid i pobol o tu hwnt i Gymru wrando ar Radio Amgen er mwyn i ti cysidro’r gorsaf yn ‘llwyddiant’? Neu ydi hynny’n bonus?

Dim rili, ond ar ddiwedd y dydd, y we fyd ehang yw’r cyfrwng! Ma na agwedd shit yn bodoli os ti’n cael dy ‘dderbyn’ tu hwnt i Gymru (hynny yw yn Lloegr) bod ti wedi ‘llwyddo’. A dim ond wedyn bydd ti’n cael dy dderbyn yng Nghymru. Adolygiad yn yr NME – o woopie ffycin dooo – ti di ‘llwyddo’.

Ma miwsig yn gyfrwng rhywngwladol. Dwi’n gwrando ar gerddoriaeth mewn ieithoedd erill nad ydw i’n deall (ond falle fi sy’n od) a dwi’n siwr bod na mwy o bobl fel fi o gwmpas y glôb.

Sa well da fi ddarlledu Radio Amgen ar FM yn ogystal a’r we – hwnna fydd y sefyllfa ddelfrydol, a basa grandawyr rhyngwladol yn fonws wedyn.

Cyfweliad gyda Daf Wil, cyd-drefnwr noson ffilm From The Shelf yng Nghaerdydd

Ces i amser da yn y noson ffilm From The Shelf neithiwr.

Yn y fideo, mae Daf Wil yn trafod y syniad gwreiddiol a chynllun am yr ail flwyddyn y digwyddiad.

Mae From The Shelf yw’r unig le i weld ffilm dda ac yfed cwrw rhad ar yr un pryd. Mae e’n digwydd pob pythefnos ar llawr cyntaf, tafarn The Gower, Y Rhath, Caerdydd.

Mynediad am ddim.

Y ffilm nesaf yw Dancer In The Dark gan Lars von Trier gyda Björk ar 2ail mis Mai 2010. Dere am 7:30YP, mae’r ffilm yn dechrau 8YP.

Mae’r grŵp Facebook ar gyfer From The Shelf yn rhestru’r ffilmiau gwych mae Daf a Dyl wedi dangos hyd yn hyn.

Adolygiad o Little Brother gan Cory Doctorow

Cory Doctorow - Little Brother“But you must remember, my fellow-citizens, that eternal vigilance by the people is the price of liberty, and that you must pay the price if you wish to secure the blessing.”

Dyma oedd geiriau Andrew Jackson, seithfed Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn ei anerchiad ffarwelio ym 1837.

Beth sy’n digwydd pan fo gwyliadwraeth yr awdurdodau yn tramgwyddo ar ryddid y bobl? A oes unrhyw derfyn i’r camau y dylai llywodraethau eu cymryd er mwyn diogelu eu pobl eu hunain? Dyma’r cwestiynau sy’n gefndir i’r nofel afaelgar hon gan Cory Doctorow sy’n dechrau gydag ymosodiad terfysgol ar San Fransisco rhywbryd yn y deng mlynedd nesaf ac ymateb Llywodraeth yr Unol Dalaethiau iddo.

Fe ddes i ar draws Cory Doctorow am y tro cyntaf ar bodlediad This Week in Tech yn rhoi sylwadau ar ddatblygiadau diweddaraf yn y byd technolegol. Yn ogystal ag ysgrifennu nofel, mae Doctorow yn gyd-olygydd y wefan dechnolegol Boing Boing ac yn cadw gwefan debyg ei hun o’r enw Craphound.

Mae diddordeb Doctorow mewn technoleg gyfrifiadurol i’w weld yn gryf ar y nofel Little Brother. Cyflwynir y stori o safbwynt y prif gymeriad Marcus Yallow, bachgen 17 oed sy’n ymddiddori mewn gemau cyfrifiadurol ac yn hacio yn ei amser hamdden. Heb ddatgelu gormod, mae Marcus yn cael profiad annymunol wedi iddo gael ei garcharu yn dilyn yr ymosodiad terfysgol ar amheuaeth o fod yn rhan o’r cynllun. Am weddill y nofel, mae’r darllenydd yn dyst i ymdrechion Marcus i danseilio’r awdurdodau llawdrwm yn San Fransisco ac i adfer ei hawliau o dan gyfansoddiad yr Unol Dalaethiau.

Mae’n stori uchelgeisiol a llwydda Doctorow i’w chyflwyno mewn dull gafaelgar. Gellir gweld rhywfaint o debygrwydd rhwng Little Brother a gwaith George Orwell Nineteen Eighty-Four. Ond nid yw Doctorow yn ymylu ar ysgrifennu campwaith fel ag y gwnaeth Orwell.

Mae gan Little Brother gwpl o wendidau amlwg. Dyma ddau ddaeth i’r meddwl yn syth.

Mae Doctorow yn symud yn rhy gyflym ar ddechrau’r nofel, heb roi digon o amser i ddod i adnabod y cymeriadau cyn y digwyddiad sy’n siapio gweddill y stori. Erbyn tua’r hanner ffordd, mae’r cysylltiad rhwng y darllenydd a Marcus yn teimlo’n llawer mwy cyflawn ac mae’r stori yn cryfhau yn yr ail hanner. Serch hynny, does dim byd yn annisgwyl am y diweddglo.

Nid yw’r agwedd dechnolegol o’r nofel yn mynd i apelio at bawb. Mae Doctorow yn mynd i drafferth ar adegau i geisio esbonio sut yn union y llwydda’r cymeriadau i gyrraedd eu hamcanion, ac fe allai fod yn ddigon i ambell ddarllenydd golli diddordeb yn y nofel.

Wedi dweud hynny, os oes gennych ddiddordeb mewn technoleg, consyrn dros ymateb llywodraethau i’r bygythiad o ymosodiad terfysgol, ac yr ydych yn chwilio am nofel ddarllenadwy, rwy’n siwr y cewch chi flas ar hon.