1. Ani Glass – Y Ddawns
Daeth ychwanegiad pwysicaf 2016 i ganon y Cymruddyfodoliaeth newydd ar ffurf cân bop berffaith bedair munud o hyd. Ymdriniaeth o gof cenedlaethol a’n hanes diwydiannol via siwrne hypnotig i ddisgo ar ben draw’r byd, a gall ddim fod wedi dod allan mewn unrhyw foment ond am yr Haf tywyllaf erioed. Anthem i’r-gad ar gyfer ein hoes ôl-real.
2. Chroma – Datod
Oh os ti’n gadwyn / ti’n gadwyn i fi. Riff agoriadol sy’n swnio fel bod chi di nabod e ers erioed; naratif propulsive o benbleth ac o erfyn; a charisma lleisiol insane Katie Hall, presenoldeb cerddorol newydd y flwyddyn heb os.
3. Carcharorion – Y Carcharorion
Dwi’n gorddefnyddio’r gair ‘bangyr’ – un o’r geiriau yna chi’n dechrau defnyddio yn ‘eironic’ sydd yn sydyn iawn yn dial arnoch trwy ddiferu mewn i lif gwaed eich geirfa dyddiol. Beth bynnag, mae Y Carcharorion yn swnio’r ffordd mae’r weithred o roi glityr ar eich gwyneb ar ddechrau noson mas yn teimlo; neu falle’r weithred o baratoi eich bomiau powdwr-lliw cyn y brotest. Co dy arf co dy arf co dy arf / mae’n amser dianc. (O.N.: Albym HMS Morris – h.y. grwp Heledd Watkins, h.y. llais Y Carcharorion – oedd un o uchafbwyntiau cerddorol fy mlwyddyn; yr unig reswm nad oes cân oddi arno ar y rhestr hwn yw bod pob un Cymraeg wedi bod o gwmpas ers cyn 2016. Dwi’n meddwl?)
4. Anelog – Y Môr
O lle ddaeth Anelog? Cerddoriaeth bop cynnil, synhwyrus, gwreiddiol – gallai mwy neu lai unrhyw gan oddi ar eu EP fod yn y pum-uchaf yma.
5. 9Bach – Llyn Du
Mae 9Bach dal i drawsnewid mewn i rywbeth mwy arbrofol, sinematig a llawn dirgel gyda popeth maen nhw’n rhyddhau. Llyn Du yw un o’r caneuon – a’r fideos – mwyaf iasol a llesmeiriol i mi glywed mewn amser hir iawn.