Plant a phobl ifanc yn canu caneuon Gruff Rhys

Dyma ambell i blentyn yn canu caneuon Gruff Rhys. Ffeindiais un pan o’n i’n chwilio am sioeau Gruff ar YouTube. Ac wedyn ffeindiais un arall ac un arall. Gadewch i mi wybod os oes mwy o gwmpas!

Gyrru, Gyrru, Gyrru yw’r cytgan hawsaf a mwyaf bachog erioed – mewn unrhyw iaith. Dyma berfformiwr ifanc yn gwneud ei ddehongliad trwy feicroffon Paper Jamz newydd sbon. Dyw e ddim yn hynod wahanol i’r offerynnau mae Gruff ei hun yn defnyddio. Cafodd y fideo ei lanlwytho ar ddydd Nadolig yn 2014. Efallai bod e wedi cael amser i ddysgu Iolo Iolo Iolo erbyn hyn hefyd, pwy a ŵyr.

Yn ôl y disgrifiad YouTube mae’r dyn nesaf yn ffan mawr o Gruff, yn enwedig ei albwm solo gyntaf Yr Atal Genhedlaeth.

Dyma fe’n ffeindio ystyron newydd o fewn Gwn Mi Wn. Arbennig iawn.

Mae hi’n edrych fel bod ei berfformiad o Sensations in the Dark o’r un cyfnod.

Dyma bobl ifanc o Gaernarfon a’i chylch yn wneud addasiad clyweledol o’r enw Cylchoedd Rownd Y Byd. Mae’r tiwn yn dechrau ar ôl tua 1:00. Diolch yn fawr iddyn nhw am berfformio a rhannu’r fideo siriol hwn. Nid cyfansoddiad Gruff yn unig ydy hwn ond yr holl Anifeiliaid Anhygoel o Flewog wrth gwrs.

Dylai geiriau ac alawon Gruff fod ar y cwricwlwm i bawb, nid jyst y rhai sy’n digon ffodus i gael rheini, athrawon a thiwtoriaid sy’n gwrando arno fe. Addysg Gruff i Bawb.

Terry Waite ar Asid, Pop Negatif Wastad a Big Black

Mae Turquoise Coal newydd rhannu recordiadau o EP gasét 1988 gan Terry Waite ar Asid. Aelodau y band oedd Paul O’Brien, Bonz, Gwion Llwyd, Al Edwards, Iwan Griffiths a, fel y welwch yn y fideo, Llŷr Ifans.

Mae’r fideo yn dod o’r rhaglen S4C Y Bocs. Doedd dim lot o berfformiadau neu gyfweliadau eraill yn y cyfryngau gan oedd y band mor brofoclyd. (Pwy sy’n gallu dweud yr un peth heddiw?)

Yn yr un flwyddyn roedden nhw ar flexidisc 7″ 2-trac gan gynnwys trac arall gan Ffa Coffi Pawb.

Y tiwn mwyaf diddorol ar yr EP yw’r trac lle mae Llŷr yn beirniadu Dechrau Canu Dechrau Canmol, Clwb Ifor Bach a phlant dosbarth canol dinesig Caerdydd. Mae’r tiwn yn seiliedig ar fersiwn Big Black o The Model, y gân gan Kraftwerk yn wreiddiol.

Pa mor boblogaidd oedd Big Black fel dylanwad ar bandiau Cymraeg yn yr 80au achos mae fersiwn o Kerosene gan Pop Negatif Wastad hefyd? Cafodd Pop Negatif Wastad EP ei rhyddhau yn 1989.

Mae rhagor o wybodaeth am Terry Waite ar Asid ar curiad.org ac mae modd lawrlwytho’r EP ar MP3 ar gofnod Turquoise Coal (neu Soundcloud).

Pwy samplodd pwy? Ffa Coffi Pawb, Tystion, Datblygu, SFA…

Mae samplo gallu bod yn ffordd greadigol i greu cerddoriaeth. Mae ailgylchu yn dda i’r amgylchedd. Hefyd mae’n rhatach (weithiau). Gofyna’r artistiaid isod.

Samplodd Ffa Coffi Pawb yn “Hydref Yn Sacramento”…

…y drymiau o’r cychwyn Rolling Stones “Get Off of My Cloud”.

Samplodd Datblygu yn “Pop Peth”

…y drymiau enwog gan Clyde Stubblefield o James Brown “Funky Drummer”. Mae’r darn yn dechrau tua 5:20. Roedd llawer o bobol yn samplo’r un drymiau, e.e. Public Enemy, Madonna, Prince a llawer o artistiaid jyngl/drwm a bas fel Future Cut.

Samplodd Super Furry Animals yn “Smokin'”…

…y ffliwt o Black Uhuru “I Love King Selassie”.

Samplodd Lo-Cut a Sleifar yn “Aduniad”…

y curiad o Cage “54” (dw i’n meddwl).

Samplodd Tystion yn “Dama Blanca”…

“Cocaine in my Brain” gan Dillinger. (Ond ble mae’r ffliwt yn dod, fersiwn dub arall?)