Andy Votel ac ail-darganfod recordiau o Gymru

Andy Votel, Caerdydd

Llun o Andy Votel yng Nghaerdydd gan Naomi Lane

Pam nawr ydy BBC Radio 4 yn darlledu rhaglen newydd sbon gan Andy Votel am hen gerddoriaeth Cymraeg?

Daeth ei gasgliadau o Recordiau Sain cynnar (a Dryw ac ati) o’r enwau Welsh Rare Beat a Welsh Rare Beat 2 – gyda ail-rhyddhad o faterion Galwad y Mynydd – ar ei label Finders Keepers yn wreiddiol tua chwech mlynedd yn ôl.

Ers hynny mae’r proffil y DJ, cloddiwr a chasglwr finyl proffesiynol wedi tyfu mwy trwy gigs DJ o gwmpas y byd, gan gynnwys yn diweddar Cock Diesel yn ei Manceinion brodorol a Gŵyl y Dyn Gwyrdd (un thema, beiciau modur yn unig; dychmyga delweddau, clipiau a chân ar ôl cân – rockabilly a genres gwahanol – tan y bore gynnar).

Beth bynnag ydy’r rheswm tu ôl amseru’r rhaglen wythnos nesaf dw i’n meddwl bydd e’n cyfle i ofyn am yr hen stwff… eto.

Yn ôl yr albymau Welsh Rare Beat, crynhowyd gyda Gruff Rhys a Dom Thomas, mae diddordeb Andy Votel yn eithaf penodol, sef stwff o’r 60au a 70au gyda churiadau caled a seiniau lounge a seicadelig. Mae cynyrchiadau Hefin Elis a’r solos gitâr anhygoel yn ymddangos yn aml. Dim corau wrth gwrs, dim Dafydd Iwan a dim byd ar ôl tua 1975. Does dim gymaint o bwysigrwydd yn yr eiriau – iddo fe. Mae elfen o kitsch ffactor yn yr atyniad – cerddoriaeth rhyfedd i ffans Serge Gainsbourg a David Axelrod.

Roedd y project a’r safbwynt yma yn bwysig i’n diwydiant recordiau. Dylen ni gwerthfawrogi ein cerddoriaeth brodorol lot mwy (gweler sgwrs ar maes-e o 2004) a dylai’r cwmnïau sylweddoli’r cyfleoedd rhyngwladol yn yr ôl-gatalog. Ond, tua chwech mlynedd ar ôl rhyddhad yr albwm cyntaf, dyw’r diwydiant recordiau ddim wedi manteisio arno fe.

Cer i iTunes er enghraifft. Gaf i brynu unrhyw beth gan Y Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog? Yr unig traciau sydd ar gael yw Cwmwl Gwym (sic) o Welsh Rare Beat a thrac arall o hen gasgliad Sain. Cyfanswm: dau drac o’u yrfa gyfan.

Teulu Yncl Sam gan Sidan

Beth am gopi digidol o Teulu Yncl Sam, albwm cyntaf Caryl Parry Jones a Sioned Mair ac eraill dan yr enw Sidan? Ond does dim sôn am yr albwm ar iTunes, eMusic, Spotify a’r gwasanaethau eraill, dim ond y traciau o’r albymau Welsh Rare Beat a rhai o gasgliadau Sain. Yr unig opsiynau yw eBay/ar-lein a gwerthiannau car boot, yn yr ardal Prestatyn efallai.

Beth am y band Y Nhw, project gyda Hefin Elis ar y cynhyrchiad? Heblaw y trac Siwsi o Welsh Rare Beat ac yr un trac o gasgliad arall, dim byd.

Beth am Chwyldro, project Hefin Elis gan gynnwys canu gan Meinir Ffransis, Eleri Llwyd ac eraill? Doedden nhw ddim ar Welsh Rare Beat ond ymgeisydd bosib i unrhyw casgliad dychmygol yn y dyfodol. Mae dim ond un trac ar iTunes. Mae’r teulu Meinir wedi rhannu’r MP3s ond mae pobol eisiau prynu’r stwff hefyd.

Beth am draciau Huw Jones, cadeirydd newydd yr awdurdod S4C, cyd-sylfaenydd Sain a’r record cyntaf ar Sain?! Wrth gwrs mae Dŵr ar gael. Ond ffansïo blast cyflym o Dw i Isho Bod yn Sais ar dy iPod? Wel bydd rhaid i ti ffeindio’r trac rhywsut arall. Efallai ar finyl mewn siop elusen yn Eglwys Newydd os ti’n lwcus.

Heblaw Meic Stevens, Edward H ac yr enwau ‘mawr’, pob lwc os ti eisiau ffeindio’r traciau eraill.

Dyw pawb ddim yn gallu ffonio Dyl Mei i ofyn os oes gyda fe LP sbar, dw i’n siarad am adlewyrchu diwylliant Cymraeg i’r byd (ac yn wneud arian ychwanegol tu fas o freindaliadau PRS).

Beth am yr hawliau? Roedd y cytundebau gydag artistiaid yn y 60au a 70au yn wahanol. Wel, os mae rhywun yn gallu trefnu’r hawliau ar gyfer Welsh Rare Beat dylai fe bod yn bosib gyda’r hen gatalog. (Os mae trosglwyddiad i ddigidol yn anodd beth am ofyn y BBC am gopi o archif digidol nhw? Dim ond syniad.)

Yn y cyfamser rydyn ni’n dilyn safbwynt Votel achos mae Welsh Rare Beat yn bron canonaidd fel canllaw i’r cerddoriaeth. Prin iawn ydy’r cyfle i glywed y math o beth yma ar Radio 4 ac mae wastad yn ddiddorol i glywed safbwynt rhywun tu allan i’r byd Cymraeg. Gobeithio bydd y triniaeth yn dda ar y rhaglen, er dyw y teitl Free Wales Harmony a rhai o dermau lletchwith yn y disgrifiad isod ddim. Ond o leiaf dydyn ni ddim yn dod o wlad gydag enw fel Hwngari – cerddoriaeth anhygoel ond beth oedd teitl Votel? Well Hung.

Free Wales Harmony: When Pop Went Welsh

Andy Votel is a DJ, producer and record label boss from Manchester who first found fame setting up Twisted Nerve Records, home to the singer Badly Drawn Boy. Obsessed with collecting records, today Andy runs Finders Keepers, a record company which specialises in releasing non-English language pop music from all over the world. About 9 years ago, in a charity shop, he stumbled across a collection of vinyl which he’d never seen or heard before. Not able to place the language, he initially guessed it was Icelandic, Breton or Hungarian. But on closer inspection it turned out the records were made less than a hundred miles from his house. These unidentified spinning objects were from Wales.

From that moment on Andy’s world was opened up to whole discography of idiosyncratic pop music. Girl-groups, close harmony pop, Acid Folk, Prog Rock, concept albums, pop poetry, indie rock and DIY punk. And to his amazement he discovered that – outside of Wales – this very cool music scene had been virtually ignored. Researching further in to his new found obsession, Andy discovered the story behind the songs was just as intriguing as the music: a tale of passion, politics, poetry, oppression, triumph and a bloody good disco!

In this Radio 4 documentary Andy reveals a cultural revolution that happened on our doorsteps and the music that made it sing. A struggle to save a dying language that involves protest, prison, Mabinogion concepts, the Royal family, cottage burning and even the death of Jimi Hendrix. With contributions from Super Furry Animals’ Gruff Rhys, Cerys Matthews, Dafydd Iwan, Heather Jones, Meic Stephens and Geraint Jarman amongst others.

DIWEDDARIAD 18/06/2011: yn ôl sgwrs ar Twitter, mae tyllau yn y darpariaeth o gatalog Meic Stevens hefyd (ffeindiwyd ar ôl 3 Lle):

[blackbirdpie url=”http://twitter.com/francogallois/status/80939149917564928″]

[blackbirdpie url=”http://twitter.com/dylmei/status/80940594632990720″]

[blackbirdpie url=”http://twitter.com/francogallois/status/80941373859168256″]

Location Baked – teithio’r byd mewn gludweithiau o seiniau

Location BakedLocation Baked yw llysenw Justin Toland, cerddor gludwaith ‘looptop’ (ei gair fe) sy’n byw yng Nghaerdydd.

Rydyn ni’n clywed seiniau natur, adar ac offerynnau amrywiol o hen recordiau; piano, gitâr o bob math; hyd yn oed rhythmau achlysurol.

Fel y mae’r enw yr artist yn awgrymu mae fe’n licio llefydd: cyntaf yn y teitlau, pob cynhyrchiad o’r ffurf Lle (bwlch) Blwyddyn, ac yn ail yn y samplau o leisiau fel dolenni. Mae’r deunyddiau ffynhonnell yn chwareus yn hytrach na rhywbeth uber-difrifol gan Steve Reich. Fel Barry 1972.

Pan dw i’n gwrando ar Guangzhou 2007 dw i’n meddwl efallai cymhariaeth deg a chyfoes fydd Person Pitch gan Panda Bear er bod Location Baked yn rhydd o strwythur caneuon.

Yn seico-daearyddiaeth Location Baked mae bron pob llefydd yn dychmygol. Dyw e ddim yn ail-ymweld llefydd fel Hawaii 1958; mewn ffordd mae fe’n adeiladu llun clywedol ar sail atgofion a chofnodion pobol eraill. Mae’r pedal steel yn Hawaii 1958 yn atgoffa fi o Chill Out gan KLF, fel road movie ti’n gallu hanner cofio.

London 1944. Ond mae’r seiren rhybudd yn golygu rhywbeth gwahanol ddyddiau yma (dw i’n meddwl am rave tiwns o’r 90au neu ganeuon gan Public Enemy).

Nes i golli ei gig ddiwethaf gyda Juffage. Tro nesaf efallai achos bydd e’n neis i weld yr adwaith i’r rhythmau toredig yma.

Manylion am albwm Location Baked sydd ar gael trwy ei Bandcamp.

Gweler hefyd: y mudiad hauntology, erthygl gan k-punk

Gareth Potter – y drafodaeth radio bythgofiadwy gyda Peter Hughes Griffiths

Dyma’r drafodaeth radio bythgofiadwy o’r rhaglen Taro Post.

Mae’r hwyl go iawn yn dechrau yn rhan 1 tua 8:22 gyda Gareth Potter. Neu cer yn syth i ran 2 os ti’n methu aros i glywed y darnau gorau.

Wnawn ni ddim cyhoeddi trawsgrifiad llawn ond dyma blas:

3:50 rhan 2
HUGHES GRIFFITHS: Mae dyfodol y Gymraeg, uh, os mae dyfodol Gareth yw e gyda phob pwrpas os yw Gareth yn gweld mae dyna yw dyfodol y Gymraeg, allai dweud fan hyn, wrthoch chi, heddiw, does fawr o ddyfodol iddi a waeth i ni rho ffidl yn y to…

POTTER: (YMYRRYD) Rhowch ffidl yn y to! Nai siarad fel y fi moyn siarad! T’mod… (DIGYSWLLT) wrth Cylch yr Iaith… stick a website up there er mwyn i ni gweld beth yw eich amcanion chi. Sa’ i’n gallu ffeindio chi ar y we. (DIGYSWLLT)… Illuminati Cymraeg… elite…

(MWY)…

POTTER: Chi actually yn casau ni. Dewch i’r gorllewin a byw yn eich bubble chi. Da iawn. Nawr ni’n cari ymlaen, fan hyn. Os dych chi moyn darlledu mae’n digon hawdd darlledu. Do a podcast byt…

(MWY GAN GYNNWYS RANT ENFAWR)…

5:41 rhan 2
POTTER: Mae e fel cân Datblygu, “Cymraeg, Cymraeg Cymraeg”! A dim byd arall.

(Y TWLL: mae fe’n siarad am Cân i Gymry gan Datblygu.)

Bragdy’r Beirdd – noson newydd yng Nghaerdydd

Bragdy Beirdd

Mae digwyddiadau fel Bragdy’r Beirdd, sef rhywbeth llenyddol o ansawdd sy’n hollol annibynnol gyda phresenoldeb cwrw, yn eitha prin yn fy mhrofiad i – hyd yn oed yn y prifddinas. (Heb sôn am y fwyd Caribïaidd yn y Rocking Chair, sy’n ardderchog.)

Manylion y digwyddiad cyntaf:

Rocking Chair, Glan yr Afon, Caerdydd
nos Iau, 9fed mis Mehefin 2011
8PM
Mynediad am ddim.

Gwestai:
Rhys Iorwerth
Osian Rhys Jones
Catrin Dafydd
DJ Meic P
“Gwestai gwadd arbennig”

Cer i’r tudalen Facebook a digwyddiad Facebook.

DIWEDDARIAD: @BragdyrBeirdd ar Twitter