Yn ddiweddar, ysgrifennwyd pethau cas am Gymru a’r Cymry gan y gŵr hwb ddychymyg hwnnw, Rod Liddle, yn dudalennau’r Sunday Times. Roedd hyn mewn ymateb i’r stŵr mawr (sy’n parhau) wedi’r newyddion bod bwriad i ail-enwi un o bontydd Hafren yn ‘Bont Tywysog Cymru’. Yn amlwg, roedd ymateb enfawr yn erbyn beth ysgrifennodd Liddle, gan fod hynny a ysgrifennwyd yn annerbyniol, yn bitw ac yn sarhaus.
Ond wrth i o leiaf dwsinau o bobol cymryd at Twitter, Facebook a mannau eraill i ddatgan eu dicter, roedd rhyw elfen anghyfforddus iawn yn amlwg yn nifer o’r sylwadau. Roedd rhyw syniad wedi dod i’r brig taw rhagfarn gwrth-Gymraeg yw’r ‘hiliaeth dderbyniol olaf’. Wrth drydar, mewn sylwadau Facebook a hyd yn oed erthyglau, roedd rhai Cymry yn mynd ati i honni bod y ffasiwn sarhau a senoffobia ddim yn digwydd i genhedloedd, pobloedd, hilioedd neu wledydd eraill. Roedd cynnig bod sylwadau o’r math hynny ddim yn cael eu printio, neu’n annerbyniol yn gymdeithasol, neu hyd yn oed yn anghyfreithlon.
Mae hyn yn hollol anghywir. Mae Liddle, fel un enghraifft, wedi gwneud gyrfa hir, allan o fod yn rhagfarnllyd ac yn hiliol. Mae o’n cyhoeddi’r fath sylwadau, mae pobol yn eu prynu ac yn cytuno gyda nhw, a – syndod – nid yw Liddle erioed wedi’i garcharu. Mae’r syniad yma, bod ni’n cael ein herlyn yn benodol ac yn arbennig, mor bell o’r gwirionedd mae’n ymddangos fel bod pobol sy’n credu hyn felly’n hollol anymwybodol o faterion hiliaeth a senoffobia os nad yw’n ymwneud â nhw’n uniongyrchol.
Gan ystyried pethau eraill sydd wedi digwydd yn ddiweddar yn y wasg Brydeinig – hiliaeth Quentin Letts yn ei adolygiad o gynhyrchiad y RSC o The Fantastic Follies of Mrs Rich, fel un enghraifft, neu ymosodiad afiach Guy Adams ar yr academydd Priyamvada Gopal – mae’n anodd gweld sut yn union gallwn ni synnu wrth weld barn gwrth-Gymraeg yn cael ei gyhoeddi hefyd. Pan mae dynes Sbaeneg yn cael ei ymosod arni ar drafnidiaeth gyhoeddus yn Llundain ac wrth i Lywodraeth Prydain mynd ati i alltudio aelodau’r genhedlaeth Windrush, na, nid dyn diflas yn gwneud hwyl am ddiffyg llafariaid yw’r hiliaeth dderbyniol olaf.
Os hoffwn ni weld sylwadau gwrth-Gymraeg yn cael eu cymryd o ddifri mae’n rhaid i ni wneud yn well gyda’n dicter. Os yr unig amser rydyn ni’n sylwi ar bobol fel Liddle ydi pan maen nhw’n ymosod ar ddiwylliant neu iaith Cymru, ac nid pan mae nhw’n ymosod ar bobol ddu, neu ar Fwslemiaid, neu ar unrhyw un arall, yna mae’n dicter ni’n ddibwys ac yn fethiant.
Mae cylchgrawn Monocle newydd ddathlu 10 mlynedd o fodolaeth, ac mae’n wael iawn.
Gadewch i mi ymhelaethu rhag ofn eich bod am ystyried tiwnio mewn i’w brand ar unrhyw gyfrwng neu wario arian ar gopi printiedig dros yr haf.
Yn rhifyn 105 o’r cylchgrawn (Gorffennaf/Awst 2017) mae cyfweliad â’r triawd Saint Etienne sy’n cyfeirio at eu hallbwn fel ‘electro pop’ heb unrhyw fanylion eraillo gwbl am y gerddoriaeth, datblygiad y grŵp dros ddegawdau na arwyddocad eu gwaith. Yn hytrach mae’r cyfweliad yn rhestru llwythi o enwau trefi yn Lloegr ac yn holi am eu magwriaeth yn yr Home Counties yna. Mae potensial i wneud rhywbeth hynod ddiddorol am y pwnc yna, peidiwch â chamddeall, ac mae’r band yn gallu siarad os oes rhywun sy’n gallu gofyn cwestiynau o safon. Ond mae hyn yn wan iawn ac yn ddiflas iawn.
Mae eitem am ddawnsio yn Tel Aviv sydd ond yn cyfeirio at sut gymaint o hwyl y mae’r awdur wedi ei chael mewn clybiau yna. Mae croeso i bawb yn Tel Aviv! Mae hyn at fy atgoffa o raglennu teithio ar y teledu pan mae hi’n amlwg bod y criw a’r cyflwynwyr yn cael gormod o hwyl i ganolbwyntio ar greu rhaglen o safon. Yn waeth byth does dim sôn am unrhyw gymhlethdodau yn yr ardal o unrhyw safbwynt. Ond mae cyfeiriad at ‘Hen Jaffa’. Mae’n rhyfedd iawn ac yn wleidyddol iawn.
Sut mae’r fath rwtsh yn cael goroesi? Mae rhyddiaith Monocle yn swnio’n union fel y math o destun uchelgeisiol rydych chi’n cael am ddim ar awyren. Mae’n gwerthu lifestyle i ddynion, y rhai sy’n deithio’n barhaus a’r rhai sy’n breuddwydio am ei wneud. Ie, dynion. Gweler bennawd ‘Snack In Your Trunks’, y llun ar y clawr o ddyn generig, a’r hysbysebion sy’n cynnwys dynion, Rolex ac ati. Fyddwn i ddim yn synnu os mae’r un llawryddion sy’n cynhyrchu ‘copi’ i’r brochures awyrennau yn cyfrannu at gylchgrawn Monocle hefyd.
Y gwahaniaeth yw bod Monocle yn costio £7 yn fwy na’r cylchgrawn ar yr awyren.
Yn y ‘dinasoedd gorau i drigo ynddyn nhw’ doedd dim sôn am Lanelwy chwaith.
Helo. Elidir dwi. Ac mae gen i bethau i’w dweud. Ewch i nôl panad.
Flwyddyn diwetha, wnes i a fy nghyfaill Dafydd Prys sefydlu’r wefan Fideo Wyth. Os ‘da chi ddim ‘di clywed amdanom ni, peidiwch a phoeni. Dim chi ‘di’r unig un.
Ar Fideo Wyth, ‘da ni’n trafod bob math o stwff nyrdi, efo ffocws cryf ar gemau fideo. Ac ar ben sgwennu erthyglau, ‘da ni hefyd yn gwneud cynnwys fideo’n weddol gyson. Fel allwch chi ddisgwyl o’r enw. ‘Da ni’n gwneud adolygiadau, adroddiadau byw, trefnu digwyddiadau… ‘da ni wedi atgyfodi’r rhaglen S4C Mega o’r 90au cynnar (y tro diwetha i’r sianel roi unrhyw fath o sylw estynedig i gemau fideo, gyda llaw). Flwyddyn yma, fe wnaethon ni ddechrau cyflwyno eitemau ar raglen Y Lle. ‘Da ni’n hefyd yn gwneud fideos comedi. Dyma un gweddol boblogaidd ella wnewch chi licio. Mae Rhys Mwyn ynddo fo.
Y gwir ydi, dyna ydi’n fideo mwya poblogaidd hyd yn hyn. Ac efo twtsh yn llai na 500 o wylwyr (wrth i fi sgwennu hwn), mae’n deg dweud ein bod ni ddim yn union yn rhoi’r byd ar dân. Mae ‘na ddau reswm am hyn.
Yn gynta, ‘da ni’n rybish am hyrwyddo ein hunain. Fysa chi’n meddwl erbyn hyn fysa ganddo ni grys-T neu rwbath. Ond na. Dim byd. Sori.
Ac yn ail, dydi’r syniad o wneud (a gwylio) cynnwys fideo eich hun yn Gymraeg ddim cweit wedi cydio yn nychymyg pobol eto. A dwi ddim yn siŵr iawn pam. Dydi hi erioed wedi bod yn haws creu cynnwys safonol eich hun. Ac yn fwy pwysig, mae angen cynnwys Cymraeg arnom ni rŵan yn fwy nag erioed o’r blaen.
Nôl yn yr 80au, pan gafodd S4C ei sefydlu, roedd cael un sianel yn beth hollol naturiol. Dim ond pedair sianel oedd ‘na i gyd, wedi’r cwbwl. Ac roedd y ffordd oedd S4C yn cael ei redeg yn hollol naturiol hefyd, yn dilyn fformiwla’r hollol sianelau eraill: sawl comisiynydd, pob un yn edrych ar ôl adran wahanol, yn ateb i un pennaeth.
Ond bellach, ydi hi’n gwneud synnwyr cael un sianel yn trio plesio pawb yng Nghymru? Ac un comisiynydd yn penderfynu, er enghraifft, pa siâp ddylai “comedi Cymraeg” gymryd?
Wel, nag’di. Fel arall, fyswn i ddim yn sgwennu hwn.
Dydw i ddim yn bwriadu gweld bai ar S4C, gyda llaw, na galw am ddiwedd y sianel, nac unrhywbeth fel’na. Ond mae’r cyfle yma rŵan i gynhyrchu bob math o stwff mwy ymylol o gwmpas piler mawr S4C, sy’n sefyll yng nghanol bob dim.
(Mae ‘na ddadl i’w wneud, wrth gwrs, nad ydi stwff am gemau fideo a ffuglen wyddonol a ffantasi yn ymylol o gwbwl, yn enwedig i’w gymharu efo rhywbeth fel – o, dwi’m yn gwbod – Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc. Ond wnawn ni adael hwnna lonydd am y tro.)
Mae’n rhyfedd cyn lleied o bobol sydd wedi meddwl am wneud eu cynnwys Cymraeg eu hun a’i sticio ar YouTube. Dwi wedi bod yn gweithio fel awdur a sgriptiwr am dair mlynedd erbyn hyn, yn treulio lot gormod o fy amser yn gwylio YouTube, a wnes i ddim meddwl am y peth. Achos dydi’r Cymry, ar y cyfan, ddim yn gwneud. Sy’n od, achos yn mhob rhan arall o’r byd creadigol, mae gan y Cymry agwedd hynod o iach at greu stwff yn annibynnol.
Mae ‘na gannoedd o awduron a beirdd yn mynd ati i sgwennu nofelau, straeon byrion a barddoniaeth, wedi eu cynnal gan rwydwaith gref o wahanol gyrff a chwmnïau. Mae gwaith sgriptwyr i’w weld mewn ambell noson o ddrama annibynnol ar hyd y lle, ac yn yr Eisteddfod bob blwyddyn. Dydi cyflwr blogiau Cymraeg erioed wedi bod yn gryfach, efo’r Blogiadur yn tynnu pob dim at ei gilydd a’i roi mewn un lle. Ac wrth gwrs, dyna’r Sîn Gerddoriaeth Gymraeg – cyflawniad mwya diwylliant Cymraeg dros yr hanner canrif diwetha, heb os nac oni bai. Mae’r ffaith bod pobol ifanc yn dal i godi gitârs, neu feicroffons, neu offerynnau pres, neu’n twidlo efo’u cyfrifiaduron, er mwyn gwneud cerddoriaeth Gymraeg wreiddiol a diddorol, yn beth y dyliwn ni i gyd fod yn falch iawn ohono fo.
Ond o ran cynnwys fideo? Boed o’n gomedi, yn ddrama, yn stwff ffeithiol? Wel, dydi’r dewis ddim yn grêt.
Ac o’r stwff sydd yn bodoli, mae’n nodedig iawn bod lot ohono fo wedi ei wneud gan blant – yn cynnwys sawlfideo am y gêm Minecraft…
(Cofio pan ddywedais i bod gemau’n berthnasol? Ddim i ymddangos yn smyg na’m byd, ond…)
Na, dim blog. Flog. Vlog yn Saesneg. Mae’r ffaith bod hyd yn oed y gair Cymraeg am y peth yn ddryslyd yn deud lot, dydi?
O gael dewis, stwff ar wefannau fel YouTube a Twitch mae plant yn dueddol o wylio dyddiau yma, yn hytrach na theledu byw. A dydi’r arfer yna ddim yn mynd i newid unrhywbryd yn fuan. Rheswm arall, felly – os nad y rheswm pennaf – pam bod pethau angen newid.
Oni bai am hynny? Wel, mae angen llongyfarch criw’r rhaglen Y Neuadd am fynd yn syth at YouTube i’w ddarlledu, ac mae’n dda gweld ei fod wedi bod yn dipyn o lwyddiant. Ar yr un pryd, mae lot o gast a chriw’r rhaglen yn enwau cyfarwydd i wylwyr S4C beth bynnag. I fod yn llwyddiannus, dwi’n meddwl y dylai unrhyw “sîn” o gynnwys fideo Cymraeg feithrin talentau cwbwl newydd, yn gweithredu y tu allan i’r system sy’n bodoli’n barod, ac yn gwneud pethau na fyddai’n cael eu dangos ar sianel fel S4C.
I hynny allu digwydd, mae’n rhaid i lot o bethau newid. Ond mae angen i’r newid yna ddigwydd, ac yn fuan, neu fydd darlledu Cymraeg yn dod yn gwbwl amherthnasol.
Wel… yn fwy amherthnasol nag ydi o’n barod, o leia.
Mae angen rhyw fath o rwydwaith o fideos gwreiddiol Cymraeg, fel y Blogiadur, er mwyn rhoi popeth mewn un lle, hawdd i’w gyrraedd. Yn ddelfrydol, mae angen system o gefnogi cynhyrchwyr cynnwys Cymraeg yn ariannol – un ai drwy S4C, neu gorff newydd. Ond yn bwysicach na dim, mae angen gwylwyr. O fy mhrofiad fy hun, does dim byd yn rhoi mwy o foddhad i mi nag eistedd i lawr dros gyfnod o ddiwrnod neu ddau a chreu fideo newydd allan o ddim. Ond dydi’r teimlad wedyn, wrth weld mai dim ond llond llaw o bobol sydd wedi ei wylio, ddim cweit mor foddhaol.
Serch hynny, dwi yn bwriadu gwneud llawer iawn mwy o fideos, a rheini’n fwy ac yn fwy amrywiol, dros y misoedd nesa, achos dyna’r unig ffordd allwn ni gael y bêl i rowlio. Dwi’n gwadd unrhywun sy’n darllen hwn i ymuno efo fi. Ar eich iPhone, neu eich camcorder, neu ar offer proffesiynol wedi ei ddwyn o’ch stiwdio agosa…*
* Nodyn cyfreithiol: plis peidiwch â gwneud hyn.
… neu be bynnag. Ewch amdani. Efo’n gilydd, mae ganddo ni’r gallu i wyrdroi’r cyfryngau Cymraeg yn llwyr.
Ac wedi’r cwbwl, be bynnag ‘da chi’n wneud, ellith o ddim bod mor ddrwg â Îha Sheelagh, siawns.
Disco, dyb, electronica, pop… Dw i’n bwriadu tiwnio mewn i’r sioe radio Cam o’r Tywyllwch pob nos Iau am 8yh hyd yn oed os yw’r cyd-denant yn mynnu gwylio Pawb a’i Farn ar S4C ar yr un pryd.
Mae modd gwrando ar y sioe gyntaf penigamp gan Gwenno Saunders a chriw Peski yma. Darllediwyd y sioe yn wreiddiol ar Radio Cardiff ar nos Iau 14eg mis Chwefror 2013.
Dyma’r rhestr o draciau:
Ymestyn Dy Hun – Y PENCADLYS
Do or Die – THE LEAGUE UNLIMITED ORCHESTRA
Princess With Orange Feet – SUZANNE CIANI
Sturdy Seams / Wingsuit Dreams – R SEILIOG
Skerries – SEINDORFF
Prydferthwch – LLWYBR LLAETHOG
Program – SILVER APPLES
Opie, Davy, Foote, Trevithick & Bone – BRENDA WOOTON
The Star – MARIA MINERVA
Dim Deddf, Dim Eiddo – DATBLYGU
(First Attempt) – TONFEDD OREN
Helo Rhywbeth Newydd – POP NEGATIF WASTAD
What Would You See If You Sat On a Beam of Light – GERAINT FFRANCON
Secret Friend – PAUL MCCARTNEY
Goodbye – MARY HOPKIN
Rotolock – DAPHNE ORAM
Tears in the Typing Pool – BROADCAST
White Socks, Shiny Shoes (feat. Renee Brady) – ADAMSTOWN SOUND
Paid a Synnu – TYNAL TYWYLL
Mutterlin – NICO
Tour De France – KRAFTWERK
Bi Bop Roberts – Y CELFI CAM
Tref Londinium – GERAINT JARMAN
Dw i’n falch bod rhywun arall yn sylweddoli talent yr artist Paul McCartney.