Wastad yn ifanc. Diolch am ddarllen.
Chwildroadau cerddorol yn y 80au cynnar
Geiriau craff gan Rhys Mwyn am yr 80au fel rhan o erthygl am lyfr newydd Geraint Jarman:
O ran cyd-destun yr 80au cynnar, fe welwyd twf o grwpiau Cymraeg newydd, yn eu plith Tynal Tywyll (grp Ian Morris a gyfeiriwyd ato uchod) a grwpiau fel Y Cyrff, Yr Anhrefn wrth gwrs, Elfyn Presli, Traddodiad Ofnus. Ar y pryd doedd na fawr o neb allan yna yn rhoi unrhyw gymorth na chefnogaeth i’r grwpiau yma. Do fe gafodd Y Cyrff gefnogaeth Toni Schiavone a chriw’r Gymdeithas yng Nghlwyd ond fel arall doedd yna neb yna i drefnu gigs na recordio Tynal Tywyll neu Datblygu felly daeth yr holl grwpiau at ei gilydd i recordio’r LPs ‘Cam o’r Tywyllwch’ a ‘Gadael yr Ugeinfed Ganrif’ – casgliadau amlgyfrannog o’r grwpiau newydd yma.
Rwan dyma fy safbwynt i wrth gwrs. Gwrthodwyd chawarae’r recordiau yma gan nifer o gynhyrchwyr radio ar y pryd oherwydd eu “safon”. Roedd y cynhyrchwyr radio yn gyn aelodau o grwpiau Cymraeg, gwrthodwyd recordio’r grwpiau yma gan y Labeli Cymraeg a heblaw am Gell Clwyd fe wrthodwyd gigs i’r grwpiau yma gan drefnwyr y dydd. Ar ben hynny roeddwn i dan ddylanwad Francis Bacon a Malcolm McLaren ac o’r farn mai’r ffordd orau ymlaen fyddai creu Byd Pop Cymraeg newydd drwy chwlau’r hen fyd pop traddodiadol Gymraeg.
Ti’n gallu darllen y gweddill yr erthygl yn y Daily Post yma.
Wrth gwrs mae pethau wedi newid gymaint ers yr 80au… Trafodwch.
Adolygiad gig: Cyrion, Crash.Disco!, Messner, DJ Meic P
Cyrion
Crash.Disco!
Messner
DJ Meic P
Clwb Ifor Bach
20fed mis Tachwedd 2010
Ar ôl mwynhau Cyrion yn arw ar ôl eu clywed yn Wa Bala ychydig fisoedd yn ôl yr oeddwn wedi cynhyrfu ar ddeallt eu bod am chwarae yng Nghlwb Ifor Bach. Pan cyrhaeddais oedd Crash.Disco! wrthi’n gwneud set gwych. Be oedd y gynulleidfa yn ei wneud? Yr rhyw 30 ohnynt yn sefyllian fel lemons! Yr wyf yn sicr oedd pawb yn gwerthfawrogi’r cerddoriaeth – pam arall buasant wedi talu 6 phunt i ddod i mewn? Hefyd credaf fod noson o gerddoriaeth mor ‘sbesiffig’ a hyn yn debygol o fod a chynelleidfa o phobl sydd yn dallt yn iawn pwy yw’r artistiaid ac yn hoff ohonynt eisioes. Ond yno yr oedd y gynelleidfa, yn sefyll yn barchus ar gyrion yr ystafell (pardon the pun!) fel llygod bach ofn i rhyw gath fawr eu llarpio!
Ni wellodd pethau ar ôl i’r Cyrion ddechrau eu set – er iddynt chwarae tiwns gwefrus oedd yn adweithio a’r glust yn bleserus ac yn peri awch aruthrol i ddawnsio – segur a diflas oedd y gymellaidfa i weld. Mae hyn dipyn o siom ond nid yw’n un rhywbeth newydd yn ‘sin gerddoriaeth electroneg Gymraeg’ o be welaf i. Yr wyf yn cofio noson cyffelyb pryd oedd Lembo efo set yn noson ‘Nyth’ yn Gwdihw y flwyddyn diwethaf.
Cerddoriaeth gwych ond oedd naws diflas yr ystafell a segurdod swil y cynelleidfa yn ei sbwylio braidd, ac er yr oeddwn braidd yn benwan ar ôl yfed potel o win stel o Lidl yr oeddwn dal yn teimlo chydig yn lletwith wrth ddawnsio! I ddweud y gwir dawnsiais fel dipyn o ‘dit’ gwyllt yn noson y Cyrion hefyd, dim ond fi ac fy 2 ffrind oedd i weld yn symyd ein cyrff o gwbwl. Mae’n drueni ac siwr o wneud i’r artistiaid deimlo’n chydig yn rhwystredig.
Er mawr gwilydd i mi yr wyf yn dueddol i feddwi’n gaib cyn mynd i’r nosweithiau electroneg cymraeg mwy nac yr wyf mewn noson cyffredin- efallai yn fy isymwybod yr wyf yn ymwybodol fydd y profiad yn un rhwystredig a lletwith ir eithaf o orfod sefyll yn llonydd a chymedrol os fyddaf yn ddi-feddw. Mae’n rhyfedd iawn gan fod naws nosweithiau dawns megis C.Y.N.T. yng Nghaerdydd mor wych a gwallgo, pam ellith nosweithiau cerddoriaeth electronig cymraeg fo yr un fath? Ydym ni’r cymru’n rhy parchus? Ydi cymleth y taeog efo gymaint o afael ynom ein bod ddim efo’r yder dawnsio mewn noson gymraeg electtroneg fel fyddwn yn C.Y.N.T?
Mae’n cael ei alw’n cerddoriaeth DDAWNS am reswm, dim cerddoriaeth sefyll-yn-llonydd-efo-eich-breichiau-wedi-eu-croesi mohono fo!
Cefais CD am ddim gan y Cyrion yr oeddynt yn ei roi i bawb, yr wyf yn ddiolchgar iawn amdano – Surrounded yw enw’r albwm. Maent yn haeddu cymaint mwy o sylw nag y maent yn ei chael. Lle goblyn oeddynt yn yr Eisteddfod Glyn Ebwy yr haf yma? Dydw i ddim yn teimlo fod y sefydliadau cymraeg yn rhoi llwyfan deg i cerddoriaeth o’r math yma. Mae mwy o bwyslais ar yr hyn sydd yn draddodiadol, ceidwadol ac mae hyn wedi bod yn broblem chymreig erioed- (fel y dysgais mewn darlith) adwaith naturiol yw ceidwadaeth y ‘Pethe’ Cymraeg i fygythiad mae’n gynebu fel diwylliant lleaifrifol. Er gallwn ddealt pam fod bandiau prif ffrwd Cymraeg mor hen ffash, credaf rhaid i ni ddeallt os mae’r Gymraeg i gyfoesi rhaid cael dipyn o bob dim a bod yn deg wrth rhoi llwyfan i yr holl genres gwahanol.
Noson ardderchog, arhosom i glywed chydig o fiwsig ffynci gan Mr Potter am sbel, yna ma adref, cael bwyd, panned yna gwely. Cefais noson go lew, cerdoriaeth gwych a gobeithiaf bydd rhagor o nosweithiau cyffelyb yn cael eu trefnu!
Mae Heledd Melangell Williams yn casglu fideos rhyngwladol diwyllianau lleafrifol ar ei flog myndiawlmundial.
100,000,000 hedyn – o Jingdezhen, Tsiena i’r Tate Modern
Mae Menna Machreth yn siarad am y gwaith celf anhygoel Sunflower Seeds gan Ai Weiwei a chreuwyd o borslen gan ei dîm e yn Jingdezhen, Tsiena.
Mwy o wybodaeth ar y wefan Tate Modern
“Lle mae’r bandiau cyffrous?” meddai Cravos
Dw i newydd ffeindio’r geiriau cryf isod gan Steffan Cravos ar blog Pethe:
“Does dim syniadau newydd yn dod drosodd yn gerddorol…dyn ni yn 2010, pam does neb yn cynhyrchu dubstep yng Nghymraeg, lle mae’r bandiau cyffrous?”
Yn ddiweddar fe rhyddhaodd Meic Stevens albwm newydd, ‘Sing a Song of Sadness: Meic Stevens, The Love Songs’, ei ail albwm Saesneg (Outlander oedd y cyntaf), ond mae’r caneuon yn lled gyfarwydd. Caneuon Saesneg oedd Gwenllian a Chân Walter, a nifer helaeth o ganeuon enwog eraill, yn wreiddiol. Ond er y newid iaith, yn ôl Steffan Cravos, does dim byd newydd yn yr albwm hon. Meddai, “Mae’n 2010 erbyn hyn a da ni’n gwrando ar ganeuon o 50 mlynedd ‘nol.” Yr un oedd ei farn am ‘Enlli’, EP newydd y band Yucatan, “Dwi ‘di clywed e’ i gyd o’r blaen,” meddai gan ychwanegu, “mae eisiau chwyldroi’r sîn, mae gormod o hen stejars o gwmpas, mae eisiau gwaed newydd, mae eisau syniadau cyffrous newydd, mae eisiau chwyldro!
Unrhyw sylwadau? Wyt ti’n cytuno gyda Cravos neu ddim?
Mae’r Twll yn hapus i gyhoeddi erthyglau da am gerddoriaeth hefyd. Mae gyda fi un arall ar y gweill am fandiau cyfoes.
YCHWANEGOL 4/11/10: Mae Crash.Disco! yn ateb ar Twitter.
YCHWANEGOL 4/11/10: Diolch am y sylwadau, gwych! Maen nhw dal ar agor. Wrth gwrs dyn ni’n gallu sgwennu rhywbeth am unrhyw fandiau cyffrous newydd – dubstep neu unrhyw beth – os mae pobol eisiau dilyn cyngor Gareth Potter…