Dw i newydd ffeindio’r geiriau cryf isod gan Steffan Cravos ar blog Pethe:
“Does dim syniadau newydd yn dod drosodd yn gerddorol…dyn ni yn 2010, pam does neb yn cynhyrchu dubstep yng Nghymraeg, lle mae’r bandiau cyffrous?”
Yn ddiweddar fe rhyddhaodd Meic Stevens albwm newydd, ‘Sing a Song of Sadness: Meic Stevens, The Love Songs’, ei ail albwm Saesneg (Outlander oedd y cyntaf), ond mae’r caneuon yn lled gyfarwydd. Caneuon Saesneg oedd Gwenllian a Chân Walter, a nifer helaeth o ganeuon enwog eraill, yn wreiddiol. Ond er y newid iaith, yn ôl Steffan Cravos, does dim byd newydd yn yr albwm hon. Meddai, “Mae’n 2010 erbyn hyn a da ni’n gwrando ar ganeuon o 50 mlynedd ‘nol.” Yr un oedd ei farn am ‘Enlli’, EP newydd y band Yucatan, “Dwi ‘di clywed e’ i gyd o’r blaen,” meddai gan ychwanegu, “mae eisiau chwyldroi’r sîn, mae gormod o hen stejars o gwmpas, mae eisiau gwaed newydd, mae eisau syniadau cyffrous newydd, mae eisiau chwyldro!
Unrhyw sylwadau? Wyt ti’n cytuno gyda Cravos neu ddim?
Mae’r Twll yn hapus i gyhoeddi erthyglau da am gerddoriaeth hefyd. Mae gyda fi un arall ar y gweill am fandiau cyfoes.
YCHWANEGOL 4/11/10: Mae Crash.Disco! yn ateb ar Twitter.
YCHWANEGOL 4/11/10: Diolch am y sylwadau, gwych! Maen nhw dal ar agor. Wrth gwrs dyn ni’n gallu sgwennu rhywbeth am unrhyw fandiau cyffrous newydd – dubstep neu unrhyw beth – os mae pobol eisiau dilyn cyngor Gareth Potter…