Looks Like We’re Shy One Horse gan Colourbox, o 1986.
Wedyn naethon nhw sgorio rhif 1 yn y DU gyda Pump Up The Volume dan yr enw M/A/R/R/S yn 1987.
diwylliannau | celf | cerddoriaeth | ffilm | gwleidyddiaeth | treigladau ansafonol | hollol annibynnol ers 2009
Looks Like We’re Shy One Horse gan Colourbox, o 1986.
Wedyn naethon nhw sgorio rhif 1 yn y DU gyda Pump Up The Volume dan yr enw M/A/R/R/S yn 1987.
Dych chi i gyd yn byw ym Mangor? Sut allech chi ddisgrifio’r Ddinas Dysg ar hyn o bryd?
erbyn hyn, does neb yn dod o bangor! sw nin deud na caernarfon di lleoliad y band wan, er bo un o b.ffestiniog a un o ynys mon
Dych chi wedi bod yn fandiau yn y gorffennol?
Owain Jones o Frizbee a Owain Ginsberg o The Heights
Ed Math a Sion wedi bod mewn sawl band gwahanol
Beth yw’r stori gyda Too Pure a Beggars? Beth ddigwyddodd?
Roedd deal Too Pure i roi sengl allan wedi gytuno heb i nhw glwad y track, bron a gorffan recordioi wan, main stompar, gaddo
Dych chi wedi cwrdd â Martin Mills eto (prif boss y grŵp Beggars)? Mae’r dyn yn legend.
Heb cwrdd a neb eto! Mynd lawr mis nesa i gyfarfod pobol Too Pure
Beth sydd ar y gweill, dych chi’n rhyddhau albwm gyda Too Pure? Angen manylion plis.
Sengl yn unig, allan Ionawr
Pwy yw dy hoff fandiau ac artistiaid byd-eang ar hyn o bryd?
Racehorses, Tom Vek, Radiohead, Bryn Fôn, John ac Al, Tebot Coch
Unrhyw beth arall?
Pawb su am bwcior band, gawni 5 pack o crisps a 24 pack o Stella plis (a pres) diolch
Bydd y sengl newydd Little Girl yn dod allan 15 mis Medi 2010 trwy Recordiau Bone Dry. Sengl arall i ddilyn ym mis Ionawr 2011 trwy Too Pure / Beggars. Myspace / Twitter
Mae samplo gallu bod yn ffordd greadigol i greu cerddoriaeth. Mae ailgylchu yn dda i’r amgylchedd. Hefyd mae’n rhatach (weithiau). Gofyna’r artistiaid isod.
Samplodd Ffa Coffi Pawb yn “Hydref Yn Sacramento”…
…y drymiau o’r cychwyn Rolling Stones “Get Off of My Cloud”.
Samplodd Datblygu yn “Pop Peth”
…y drymiau enwog gan Clyde Stubblefield o James Brown “Funky Drummer”. Mae’r darn yn dechrau tua 5:20. Roedd llawer o bobol yn samplo’r un drymiau, e.e. Public Enemy, Madonna, Prince a llawer o artistiaid jyngl/drwm a bas fel Future Cut.
Samplodd Super Furry Animals yn “Smokin'”…
…y ffliwt o Black Uhuru “I Love King Selassie”.
Samplodd Lo-Cut a Sleifar yn “Aduniad”…
y curiad o Cage “54” (dw i’n meddwl).
Samplodd Tystion yn “Dama Blanca”…
“Cocaine in my Brain” gan Dillinger. (Ond ble mae’r ffliwt yn dod, fersiwn dub arall?)
Dw i’n edrych ymlaen at Pen Talar, y cyfres newydd S4C.
Mae cefnogwr mawr wedi dechrau PenTalarPedia, “casgliad o wybodaeth am bopeth o gwmpas Pen Talar”.
Shape/Function yn cyflwyno
Sweet Baboo, Truckers of Husk
Clwb Ifor Bach
4ydd mis Medi 2010
Oedd yna cyfnod pan allech chi weld y bandiau yma mwy neu lai unwaith bob wythnos yn chwarae yn un o’r lleoliadau ar draws dinas Caerdydd – ac yn wir mi rydw i wedi gweld y ddau grwp sawl gwaith yn y gorffenol. Ond tro yma, ma pethau braidd yn wahanol. Ma Truckers of Husk heb perfformio ers sbel – blwyddyn hyd yn oed – ac wedi newid ffurf y band i gynnwys aelod newydd. A dyma lawnsiad albym Sweet Baboo. Er bo Steve Baboo yn gallu rhoi sioe dda mlaen tra’n perfformio fel unigolyn, pan mae’n trefnu band llawn mae’r canlyniad yn allu bod yn anhygoel. Felly pan daeth yr hysbyseb lan ar fy nhudalen rhwydwaith cymdeithasol, dyma fi’n anghofio fy nghynlluniau bras i fynd i’r Mardi Gras ac yn anelu’n syth am Clwb Ifor Bach.
Oedd y cynulleidfa’n llenwi’r llawr gwaelod cyn i un o’r bandiau hyd yn oed chwarae nodyn. Parch i Shape/Function am drefnu a hybu’r noswaith. Wrth i Truckers of Husk pigo’i offerynnau i fyny dyma dylanwad yr aelod newydd (Kelson Mathias – gynt o Future of the Left) yn amlwg. Bu sain tyn gyda’r band erioed, ond oedd elfen mwy trwm neu fwy o ergyd i’r cerddoriaeth heddiw nag yn yr orffennol. Gyda’r gitar bas a’r drymiau wedi’u amseri a’u syncroneiddio’n berffaith fel ‘se nhw’n dyrnu pob mymryn o aer yn yr ystafell pan yn cytseinio gyda’i gilydd pob pedwar curiad. Er oedd hi’n annodd gweld y grwp o le on i’n sefyll, oedd caneuon fel Awesome Tapes From Africa a Person For The Person yn synion llawn, yn egniol, yn dyn ac yn gyrru’r cerddoriaeth mewn i’r corff yn ffisegol ac yn meddyliol.
Yna tro Sweet Baboo i ddod i’r llwyfan i chwarae caneuon oddi ar ei albym newydd yn egsliwsif. Doedd y dorf dim yn adnabod un o’r caneuon eto ond pan oedd un o’r caneuon yn cyrraedd howdown a’r gitarydd (brawd Steve) yn chwarae un o’i soloau cerddoriaeth gwledig – roedd y dorf cyfan yn gorfod gwrando a symud rhannu o’u cyrff i’r curiad. Oedd y basydd (ar fenthyg o’r Spencer McGarry Season) yn amlwg yn mwynhau wrth iddo fe dawnsio a jammo’r riffau bas. Oedd ol ymarfer ar y band – er bod y caneuon i gyd yn newydd roedd y cemeg a’r cyfeillgarwch rhwng y band yn amlwg i’w weld ar y llwyfan. Ar ôl chwarae traciau’r albym dyma’r band yn gadael y llwyfan ac yn ymateb i alwadau’r dorf i ddod nol i chwarae un o’r ffefrynnau oddi ar yr albym diwethaf Hello Wave o’r enw If I’m Still In Love When I Get Home From Travelling i dorf gwerthfawrogol. Dyw sŵn caneuon y band heb newid yn fawr o ran arddull ers yr albym dwethaf ond mae gan Sweet Baboo dawn am grefftu caneuon o ansawdd ac gwneud iddyn nhw’n swnion braf ar lwyfan – a ni siomwyd heno.
Llun o Myspace Sweet Baboo
Gyda llaw mae Rhodri D yn sgwennu ar Uno Geiriau dyddiau ‘ma. Mwynha.