Dwi’n awyddus iawn i ffindo mwy o bobl sy’n creu straeon stribed/comics yn y Gymraeg. Mae’n hen bryd gael rhyw fath o ‘sîn’ comics yn y Gymraeg, ond wrth chwilio ar Google, yr unig pethe sy’n troi lan yw Dalen (sy’n gwneud gwaith da iawn o gyfieithu comics Ffrengig i’r Gymraeg), a stwff fi! […]
Mae hwn yn hyfryd iawn. Diolch i Electroneg am gyfeirio at Patrwm, sef podlediad newydd gyda cherddoriaeth ‘arbrofol’/anarferol/electronig/clasuron cwlt o’r Almaen a thipyn bach o siarad:
Patrwm yw cyfres/darllediad/rhaglen/podlediad newydd gan Iwan Morgan aka Recall y cynhyrchydd o fri. Mae Patrwm 1 yn llawn o pethau neis a da, newydd a hen, o bell ag agos megis Oneohtrix Point Never, Faust, Sunburned Hand Of The Man, Pen Pastwn, Keith Fullerton Whitman, Kraftwerk ac yn y blaen. Dyna ddigon o eiriau – gwrandewch.
Y llais a throelliwr tu ôl y peth yw Iwan ‘Recall’ Morgan, sef cynhyrchydd/peirianydd sydd wedi gwneud prosiectau cerddorol gyda Richard James, Texas Radio Band, Headcase Ladz ac MC Sleifar, Zabrinski, Euros Childs a Gruff Rhys.
Wrth gwrs mae lot o bobol Y Twll yn gyfarwydd ar y cân ond wyt ti wedi gweld y fideo?
Cafodd y cân ei rhyddhau yn 1992 yn wreiddiol ar finyl 7″ ac wedyn ar drydydd albwm Datblygu, Libertino.
Yn diweddar rydyn ni wedi bod yn cwestiynu retromania ond dw i ddim yn siŵr os ydy e’n cyfrif yn union fel retromania os wyt ti erioed wedi ei gwylio o’r blaen. Dyma beth sydd yn ddiddorol am lot o fideos a phethau pop Cymraeg / SRG sydd ddim wedi cyrraedd YouTube neu y we eto (diolch i Victoria Morgan am rannu’r fideo heno).
Ffaith: mae lot o gyfeiriadau diwylliannol yn y cân ond mae’r un mwyaf cryptaidd am ‘cig’ (3:35) wedi dod, o bosib, o’r ffaith bod David R. Edwards yn llysieuwr.
Bore yma gwnes i weld yr arddangosfa Datblygu yn Waffle, Caerdydd (63 Heol Clive, Treganna – ddim yn bell o Dafarn y Diwc).
Mae’r perchennog caffi Waffle, Victoria Morgan, wedi bod yn casglu eitemau Datblygu ac mae hi’n croesawi unrhyw fenthyciadau er mwyn ehangu’r casgliad. Wedi dweud hynny, mae’r amrywiaeth o luniau, cloriau, gohebiaeth ac adolygiadau yn wych eisoes, gan fod Victoria yn chwaer i Patricia Morgan o’r band.
Fel mae’n digwydd, eleni mae’r band dylanwadol yn dathlu 30 mlynedd ers dechrau fel deuawd o Aberteifi – David R. Edwards a T. Wyn Davies. Roedd adolygiadau Y Cymro a Sgrech yn 1982 o’r casét cyntaf Amheuon Corfforol yn ffafriol iawn. Dyma’r cân Problem Yw Bywyd o’r casét:
Ymunodd Patricia Morgan y band yn 1985 ac wedyn wnaeth y band tri albwm ardderchog, pum sesiwn i John Peel ac ambell i fideo i Criw Byw a Fideo9 ar S4C gan gynnwys Santa a Barbara:
A mwy… Ar hyn o bryd mae bwcibo cyf, cwmni y cynhyrchydd Owain Llŷr, wrthi’n creu Prosiect Datblygu (bwcibo 005), sef ffilm ddogfen annibynnol Cymraeg i ddathlu trideg mlynedd o Datblygu. Bydd premiere yn Theatr Mwldan, Aberteifi tua mis Medi 2012.
Tra bod i’n siarad am ffilm dyma clip o Llwch ar y Sgrin am sesiwn Datblygu yn 2008 pan wnaethon nhw recordio’r sengl olaf Can y Mynach Modern (diolch i Pete Telfer a’r Wladfa Newydd, sydd wedi sgwennu erthygl newydd am y dathliad).
Dyma diwn gan Cate Le Bon o’i albwm Cyrk. Mae hi wedi bod yn gweithio gyda’r cynhyrchydd Kris ‘Sir Doufous Styles’ Jenkins ac mae’r albwm hefyd yn cynnwys mewnbwn gan Siôn Glyn o’r Niwl, aelodau Racehorses a Gruff Rhys. Mae’r albwm yn dod mas ar y 30ain mis yma ar label OVNI, sef label Gruff.
O ran y fideo dw i’n blogio gwaith fideo Casey + Ewan yn eithaf aml yma. A pham ddim. Maen nhw wedi cynhyrchu fideo i Cate o’r blaen ac mae Casey wedi dylunio clawr albwm i Gruff. (Rhyw ddydd bydd rhywun yn creu siart cynhwysfawr o’r holl gydweithrediadau yma.)