Arddangosfa Cloriau: Pop Negatif Wastad a llawer mwy

pop-negatif-wastad-1

Os ydych chi’n mynd i’r Steddfod Genedlaethol yn Llanelli eleni, ewch i’r arddangosfa Cloriau sydd ar agor o heddiw ymlaen.

Gofynodd y curadur Rhys Aneurin i mi ddewis fy hoff glawr record Cymraeg er mwyn cyfrannu at yr arddangosfa. Gallwn i wedi dewis sawl clawr ond dw i wedi bod yn gwrando ar albwm-mini Pop Negatif Wastad lot yn ddiweddar ac mae’n teimlo yn amserol ac yn briodol rhywsut.

“Mae perchennog yr oriel yn dyn hapus iawn…”

Dyma’r darn o destun a sgwennais i ar gyfer yr arddangosfa.

 

pop-negatif-wastad-2

Pop Negatif Wastad – Pop Negatif Wastad
(Recordiau Central Slate)

Bydd gwylwyr Fideo 9 yn nabod fy newis, albwm mini gan Pop Negatif Wastad sydd yn gyfuniad o gerddoriaeth ‘diwydiannol’ dywyll a house. Yr unig ffyrdd i glywed yr albwm bellach ydy’r finyl 12″, YouTube a blogiau MP3. Gareth Potter ac Esyllt Anwyl Lord oedd y cerddorion a Gorwel Owen y cynhyrchydd.

Dathliad o bosibiliadau pop a chelf yw’r record hon – trwy’r geiriau, y gerddoriaeth a’r dyluniad. Mae elfen o ddirgel i’r clawr dwyochrog gan Lord: ffotograffiaeth o ddynes ifanc yn edrych at record tra bod hen ddyn yn gwneud swigod. Mae’n edrych fel ffansin, prosiect DIY.

Ar y pryd roedd Margaret Thatcher mewn grym ac roedd artistiaid fel Pop Negatif Wastad yn swnio ac yn edrych yn heriol. Dw i’n credu bod arloesedd cerddorol a chelfyddydol yn cyfleu pwynt gwleidyddol. Os ydy artistiaid yn mynd yn ôl yn rhy bell maent yn dweud wrth bobl ifanc bod yr amseroedd gorau wedi mynd. Mae eisiau dangos bod cerddoriaeth newydd, celf newydd, Cymru newydd a byd newydd yn bosibl. Y peth sydd angen ei ailddarganfod ydy’r agwedd flaengar yna.

Felly dw i’n tueddu osgoi pethau hynafol o’r 60au pan dw i’n troelli. Dw i’n chwarae Dau Cefn, Casi Wyn, Gwenno ac ati – a Pop Negatif Wastad. Mewn digwyddiad yng Nghaerdydd yn ddiweddar daeth rhywun adnabyddus o’r Sefydliad Cymraeg i mi er mwyn cwyno am fy mod i’n chwarae ‘Iawn’, fy hoff drac yma. Er bod y record yn 25 mlynedd oed, roedd hi’n rhy electronig a rhy ddyfodolaidd iddo fe.

Fe fydd yr arddangosfa Cloriau wedi ei leoli ar y maes eleni mewn pedair uned wrth ymyl Caffi Maes B gan gynnwys detholiadau ac ysgrifau gan Dyl Mei, Rhys Mwyn, Gwyn Eiddior, Emyr Ankst, Hefin Jos, Gareth Potter, Dafydd Iwan, Teleri Glyn Jones, Dewi Prysor, Owain Sgiv, Branwen Sbrings, Gorwel Owen, Richard Jones Fflach, Llwyd Owen, Lisa Jarman ac eraill.

Gareth Potter – y drafodaeth radio bythgofiadwy gyda Peter Hughes Griffiths

Dyma’r drafodaeth radio bythgofiadwy o’r rhaglen Taro Post.

Mae’r hwyl go iawn yn dechrau yn rhan 1 tua 8:22 gyda Gareth Potter. Neu cer yn syth i ran 2 os ti’n methu aros i glywed y darnau gorau.

Wnawn ni ddim cyhoeddi trawsgrifiad llawn ond dyma blas:

3:50 rhan 2
HUGHES GRIFFITHS: Mae dyfodol y Gymraeg, uh, os mae dyfodol Gareth yw e gyda phob pwrpas os yw Gareth yn gweld mae dyna yw dyfodol y Gymraeg, allai dweud fan hyn, wrthoch chi, heddiw, does fawr o ddyfodol iddi a waeth i ni rho ffidl yn y to…

POTTER: (YMYRRYD) Rhowch ffidl yn y to! Nai siarad fel y fi moyn siarad! T’mod… (DIGYSWLLT) wrth Cylch yr Iaith… stick a website up there er mwyn i ni gweld beth yw eich amcanion chi. Sa’ i’n gallu ffeindio chi ar y we. (DIGYSWLLT)… Illuminati Cymraeg… elite…

(MWY)…

POTTER: Chi actually yn casau ni. Dewch i’r gorllewin a byw yn eich bubble chi. Da iawn. Nawr ni’n cari ymlaen, fan hyn. Os dych chi moyn darlledu mae’n digon hawdd darlledu. Do a podcast byt…

(MWY GAN GYNNWYS RANT ENFAWR)…

5:41 rhan 2
POTTER: Mae e fel cân Datblygu, “Cymraeg, Cymraeg Cymraeg”! A dim byd arall.

(Y TWLL: mae fe’n siarad am Cân i Gymry gan Datblygu.)

FIDEO: Gareth Potter a Huw Stephens am #g20g “llythyr caru”


Mwy o Gareth Potter heddiw, newydd gweld cyfweliad 10 munud gyda Huw Stephens am Gadael yr Ugeinfed Ganrif, y cynhyrchiad Sherman/Dan Y Gwely. Hoffi’r wal o finyl yn y cefndir.

Mae’r sioe yn Chapter, Caerdydd wythnos yma ac ar daith ym mis Mawrth.

Gweler hefyd ar Y Twll: Darn Awst 1992 o’r sgript Gadael yr Ugeinfed Ganrif neu… POPETH GYDA POTTER AR Y TWLL!

Ffeiliau Ffansin: Llmych gyda Gareth Potter yn 1988

Ffeiliau Ffansin yw cyfres achlysurol ar Y Twll – delweddau o hen ffansins gyda pherthnasedd i heddiw.

Enw y ffansin heddiw yw Llmych. Mae Huw Prestatyn yn dweud “penderfynwyd ar yr enw reit ar ddiwedd cyfarfod hir hir Rhanbarth CyIG. Pawb yn mynd yn ffed up efo’r enw yn syth a galwyd y rhifynau canlynol yn “Chmyll”, “Mychll” etx.. nes dropio’r enw yn gyfan gwbl. “Cynhyrfu Addysgu Trefnu” oedd o tiwn rap old skool uffernol… efo rapper yn dweud “Educate Agitate Organise” ynddi, sef hen slogan undeb llafur Americanaidd.”

“Beth sydd wedi bod yn digwydd ers y rhifyn diwethaf?” meddai’r golygyddol yn rhifyn Haf 1988. Mae rhai o’r atebion yn ffurfio ein cyd-destun:

  • Peel Sessions gan y Llwybr Llaethog, Plant Bach Ofnus, Y Fflaps a Datblygu.
  • Sefydlu label Ankst yn Aberystwyth.
  • Bernard Manning yn perfformio’n Y Rhyl.
  • Fideo 9 yn dechrau.
  • Trac oddi ar y E.P. “Galwad ar holl filwyr byffalo Cymru” yn cael ei chwarae ar y South Bank Show fel rhan o raglen Ken Russell ar hanes cerddoriaeth.

Yn yr un rhifyn o Llmych oedd erthyglau am Malcolm X, Y Fflaps, Label Ofn a’r cyfweliad isod gyda Gareth Potter – gan Bronwen Miles.

Gadael Yr Ugeinfed Ganrif: Darn Awst 1992 o’r sgript gan Gareth Potter

Diolch Gareth Potter am gynhyrchiad wych a’i caniatad i ail-cyhoeddi’r darn o heddiw yn 1992.

Awst y 6ed, 1992

Dwi’n ddauddeg saith a dwi ddim yn teenager rhagor.

Dros y flwyddyn ddwethaf mae Tŷ Gwydr wedi troi yn un o brif atyniadau’r sîn bop Cymraeg. Mae’r sîn ddawns wedi blodeuo gyda grwpiau ifanc fel Diffiniad, Mescalero ac Wwzz yn cadw’r ffydd ac mae crysau t Lugg erbyn hyn yn rhan o wardrob pawb sy’ ‘rioed wedi bod i gig Cymraeg. Da ni’n rhedeg noson rheolaidd o’r enw REU yng Nghlwb Ifor Bach gyda’n mascot, Cedwyn, yn arwain y dawnsio wrth i fi, Lugg ac Ian Cottrell o Diffiniad chware’r tiwns i’r ffyddloniaid chwyslyd.

Ond dyw pethe byth yn para am byth a dwi’n eistedd ar wal ar brynhawn Iau heulog Eisteddfod Aberystwyth yn edrych mas ar Neuadd Pontrhydfendigaid wrth iddi ddechrau llenwi gyda bob math o bobol lliwgar. Mae’n weddol dawel a dwi’n clywed arogl reu yn codi ar yr awel.

Dwi ddim yn siwr pam yn union da ni wedi galw’r parti mawr yma’n Noson Claddu Reu. Roedd e siwr o fod yn swno fel good idea at the time ac mae’r big gesture wastad yn apelio ata i.

Erbyn iddi dywyllu fydd dros 2,000 o rafins, rapscaliwns, shipshwn a pharchusion yr orsedd wedi casglu i ddathlu’n wyllt mewn pentre bach yng Ngheredigion ar lannau’r afon Teifi. Mae system sain anferthol, goleuadau a lazers, Datblygu, Diffiniad, Llwybr Llaethog, Beganifs a ni. Dwi ar bigau drain.

Peder blynedd yn gynt, yn ystod haf 1988, dwi’n cofio sgwrs gyda David R. Edwards tra’n gwylio rhaglen deledu am y sîn acid house. Ar y pryd roedd Dave Datblygu’n hollol ddiystyriol am yr holl beth. Ro’n i’n anghytuno;

Ein punk ni yw hwn. Ac mae’n mynd i dreiddio i bob cornel o’n diwylliant.

medde fi,

Nes ymlaen, dwi ar ochr y llwyfan gyda Dave.

Potter, o’t ti’n fuckin iawn am acid house. I thought it was just a stupid disco craze, but it’s changed our lives! Come here!!

Medde Dave, gan roi coflaid masif i mi.

Ni greodd hwn! Dyma’n amser ni!

Ro’n ni wedi stopio fod yn alternative ac wedi cipio’r mainstream. Beth arall oedd i wneud?

Mae’r sgript Gadael Yr Ugeinfed Ganrif ar gael yn siopau llyfrau, cyhoeddir gan Sherman Cymru. Gadael Yr Ugeinfed Ganrif ar Amazon

Llun gan Kirsten McTernan