Biutiful yw ffilm drama bythgofiadwy yn Sbaeneg gan Alejandro González Iñárritu (21 Grams / Babel), y cyfarwyddwr o Mecsico, gyda’r actor Javier Bardem (No Country for Old Men). Mae’r ffilm yn wych ac yn newydd i fi, mae hi newydd ddod mas ar DVD – ond hi yw’r math o ffilm ddwys lle mae unwaith yn ddigon.
Os wyt ti wedi ymweld Barcelona byddi di, fel fi, yn sylweddoli rhai o’r lleoliadau yma ond bydd yr olygfa, o safbwynt trigolion tlawd ac anweledig i ryw raddau, yn wahanol iawn. Mae’n anodd dychmygu bod y bwrdd twrist ym Marcelona yn hoff iawn o’r ffilm hon.
Yn y stori mae’r prif gymeriad Uxbal (Bardem) yn wneud bob math o beth i godi arian er mwyn gofalu ar ei dau blentyn. Mae fe’n delio gyda dynion o Senegal, sy’n gwerthu cynyrchiadau fel bagiau llaw. Er bod eu swyddi ar y strydoedd yn anghyfreithlon a pheryglus gyda’r heddlu llawdrwm, mae’r mewnfudwyr tlawd o Tsiena yn cael y swyddi crapaf yn y ffatri ‘tanddaearol’. Maen nhw yn gallu codi mwy am wneud bagiau ffug ym Marcelona nag am wneud y bagiau Gucci go iawn yn Tsiena.
Mae Uxbal yn annibynnol ac yn methu dibynnu ar neb, hyd yn oed ei wraig a’i frawd. Yn y pen draw, er bod y rhan fwyaf y ffilm bach yn depressing o safbwynt arwynebol, mae fe’n cael cyfle neu dau i werthfawrogi’r perthnasau gwahanol yn ei fywyd.
Gyda llaw ‘biutiful’ yw’r ‘biwtifwl’ o Sbaeneg, sef y sillafiad yn Sbaeneg o’r gair Saesneg.
Dw i’n meddwl bod e’n neis dilyn sgwrs am ffilmiau yn Gymraeg, ble bynnag y mae’r ffilmiau wedi dod. Ers Pictiwrs (sydd wedi bod yn cysgu ers 2006) dw i ddim wedi gweld lot ar-lein. Croeso i ti cynnig cofnod blog neu fideo neu rywbeth am ffilm i’r Twll, does dim rhaid iddo fe fod yn ‘adolygiad’ yn ôl unrhyw draddodiad.
FatBarrels Pops Orchestra yw allweddellydd a chwaraewr bas Ben o Wrecsam (a’i ffrindiau?). Mae fe’n chwarae tiwns hapus/rhyfedd/gwirion/arbrofol. Dyma fersiwn o’r cân Happiness gan Camera…
Hynny yw, mae Ben yn chwarae bas fel aelod llawn amser o Camera hefyd, sydd yn rhyddhau’r recordiad gwreiddiol Happiness heddiw! Dyma hi:
Nai cymryd bod ti’n cyfarwydd ar y stori yma ynglŷn â Rekekah Brooks, hacio ffonau (wel, ffonia periannau ateb a defnyddio codau rhagosodedig), teulu Murdoch a lladd News of the World fel dafaden.
Ond mae’r amineiddiad yma o Daiwan yn dweud y stori hyd yn hyn mewn ffordd unigryw: ail-ddychmygu Rebekah Brooks fel môr-leidr a’r Murdochs fel siarcod gyda phwerau Star Trekaidd arbennig. Mae rhai momentau gwych mewn dim ond munud. Edrych ymlaen at y fideo nesaf lle mae Brooks yn cwympo yn y môr oer ac mae’r llong Ofcom yn blocio’r llwybr i BSkyB – neu rywbeth.